2002 Rhif 1729 (Cy.163)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19701 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2.