xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1556 (Cy.153)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

11 Mehefin 2002

Yn dod i rym

30 Gorffennaf 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(1) yn lle “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2002” rhoddir “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2002”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Mehefin 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir neilltuo sesiynau ysgol yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 2000).

(1)

1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).