xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 152 (Cy.20)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

29 Ionawr 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 316A(2), 322(4), 324(2), 325(2A) a (2B), 328(1), (3A), (3B) a (6), 329(2A), 329A(9), a 569(1), (2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1), a pharagraffau 2, 3(1), (3) a (4) o Atodlen 26, a pharagraffau 2(3), 2B (3), 5(3), 6(3), 7(1) a (2), 8(3A) a (5), 11(2A) a (4) o Atodlen 27 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2002.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir gan y darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw (neu, yn ôl fel y digwydd, maent i'w dehongli yn unol â'r darpariaethau hynny):

“addysg feithrin berthnasol” (“relevant nursery education”)Adran 509A(5) o'r Ddeddf
“athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”)Adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(8)
“blwyddyn ysgol” (“school year”)Adran 579(1) o'r Ddeddf
“corff cyfrifol” (“responsible body”)Adran 329A(13) o'r Ddeddf
“diwrnod ysgol” (“school day”)Adran 579(1) o'r Ddeddf
“oedran ysgol gorfodol” (“compulsory school age”)Adran 5 o'r Ddeddf
“rhiant”(“parent”)Adran 576 o'r Ddeddf
“sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”)Adran 43 o Ddeddf Carchar 1952(9)
“ysgol a gynhelir” (“maintained school”)Adran 312 o'r Ddeddf
“ysgol arbennig” (“special school”)Adran 337 o'r Ddeddf

(3Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â phlentyn penodol, yn gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae'r plentyn yn byw yn eu hardal.

(4Os yw'n ofynnol gwneud rhywbeth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)o fewn cyfnod ar ôl i gam gael ei gymryd, ni chaiff y diwrnod y cymerwyd y cam hwnnw ei gyfrif wrth gyfrifo'r cyfnod hwnnw, a

(b)o fewn cyfnod ac nad yw diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.

(5Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn—

(a)at adran yn gyfeiriadau at adran o'r Ddeddf;

(b)at Atodlen yn gyfeiriadau at Atodlen i'r Deddf;

(c)at reoliad yn gyfeiriadau at reoliad yn y Rheoliadau hyn.

Dirprwyo swyddogaethau

3.  Os oes gan bennaeth unrhyw swyddogaethau neu ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn caiff ddirprwyo'r swyddogaethau neu'r dyletswyddau hynny—

(a)yn gyffredinol i aelod o staff yr ysgol sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig, neu

(b)mewn achos penodol i aelod o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn o dan sylw.

Hysbysiadau

4.  Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi yn ysgrifenedig.

Cyflwyno dogfennau

5.—(1Os oes unrhyw ddarpariaeth yn Rhan IV o'r Ddeddf neu yn y Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gofyn bod unrhyw ddogfen yn cael ei chyflwyno neu ei hanfon at berson neu fod unrhyw hysbysiad yn cael ei roi i berson, gall y ddogfen gael ei chyflwyno neu ei hanfon neu gall yr hysbysiad gael ei roi drwy i lythyr sy'n cynnwys y ddogfen neu'r hysbysiad gael ei gyfeirio'n iawn, ei dalu ymlaen llaw a'i bostio.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, dyma gyfeiriad priodol person—

(a)yn achos rhiant y plentyn, cyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant;

(b)yn achos pennaeth neu aelod arall o staff ysgol, cyfeiriad yr ysgol;

(c)yn achos unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y fan lle y mae'r person yn rhedeg busnes, proffesiwn neu gyflogaeth arall.

(3Os defnyddir post dosbarth cyntaf, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(4Pan ddefnyddir post ail ddosbarth, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(5Oni ddangosir i'r gwrthwyneb, rhagdybir mai'r dyddiad a welir yn y marc postio ar yr amlen y cynhwysir y ddogfen ynddi yw'r dyddiad postio.

RHAN IIASESIADAU

Hysbysiadau sy'n ymwneud ag asesu

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 323(1) neu 329A(3) i riant plentyn eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, neu

(b)os nad oes hysbysiad wedi'i roi mewn perthynas ag asesiad penodol o dan adran 323(1) neu 329A(3), a bod awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad o dan adran 323(4) neu 329A(7).

(2Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r hysbysiad perthnasol—

(a)i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol,

(b)i'r awdurdod iechyd,

(c)os yw'r plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, at bennaeth yr ysgol honno, neu

(ch)os yw'r plentyn yn derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar, at y pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd hwnnw.

(3Os anfonir copi o hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i arnodiad ar y copi neu hysbysiad sy'n cyd-fynd â'r copi hwnnw hysbysu'r derbynnydd pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

(4Os—

(a)bydd rhiant plentyn yn gofyn o dan adran 328(2) neu 329(1) i awdurdod drefnu asesiad, a

(b)nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais

rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'i hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

(5Os bydd—

(a)corff cyfrifol yn gofyn o dan adran 329A(1) i awdurdod drefnu asesiad, a

(b)nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais,

rhaid i'r awdurdod rhoi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'u hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

(6Os pennaeth ysgol neu bennaeth AAA mewn perthynas â darparydd addysg gynnar yw'r corff cyfrifol y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a), caiff yr awdurdod—

(a)dewis peidio â chyflwyno hysbysiad i'r pennaeth neu'r pennaeth AAA o dan baragraff (5), a

(b)arnodi'r hysbysiad a gyflwynir i'r corff cyfrifol o dan adran 329A(7) neu gyflwyno hysbysiad pellach i gyd-fynd â'r hysbysiad hwnnw yn hysbysu pennaeth yr ysgol neu'r pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd addysg gynnar pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

Y cyngor sydd i'w geisio

7.—(1Er mwyn gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod geisio—

(a)cyngor gan riant y plentyn;

(b)cyngor addysgol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8;

(c)cyngor meddygol gan yr awdurdod iechyd fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 9;

(ch)cyngor seicolegol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 10;

(d)cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac

(dd)unrhyw gyngor arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn briodol at ddibenion gwneud asesiad boddhaol.

(2Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)nodweddion addysgol, meddygol, seicolegol neu eraill yr achos (yn ôl natur y cyngor a geisir) y mae'n ymddangos eu bod yn berthnasol i anghenion addysgol y plentyn (gan gynnwys ei anghenion tebygol yn y dyfodol);

(b)sut y gallai'r nodweddion hynny effeithio ar anghenion addysgol y plentyn; ac

(c)y ddarpariaeth sy'n briodol ar gyfer y plentyn yng ngoleuni'r nodweddion hynny ar achos y plentyn, o ran darpariaeth addysgol arbennig neu ddarpariaeth anaddysgol, ond heb fod yn ymwneud ag unrhyw fater y mae angen ei bennu mewn datganiad yn rhinwedd adran 324(4)(b).

(3Caiff person y ceisir y cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oddi wrtho ymgynghori mewn cysylltiad â'r cyngor hwnnw ag unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddo ei bod yn hwylus ymgynghori â hwy; a rhaid iddo ymgynghori ag unrhyw bersonau, os oes rhai, a bennir yn yr achos penodol gan yr awdurdod fel personau sydd â gwybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn.

(4Wrth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) i (dd), rhaid i'r awdurdod roi copïau o'r canlynol i'r person y ceisir y cyngor oddi wrtho—

(a)unrhyw sylwadau a wnaed gan y rhiant; a

(b)unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd gan y rhiant neu ar gais y rhiant

o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d) yn ôl fel y digwydd.

(5Nid oes angen i'r awdurdod geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c), (ch), (d) neu (dd)—

(a)os yw'r awdurdod wedi sicrhau cyngor o dan baragraff (1)(b), (c), (ch), (d) neu (dd) yn y drefn honno yn y 12 mis blaenorol; a

(b)os yw'r awdurdod, y person y cafwyd y cyngor oddi wrtho a rhiant y plentyn wedi'u bodloni fod y cyngor presennol yn ddigonol er mwyn gwneud asesiad boddhaol.

Cyngor addysgol

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), rhaid i'r cyngor addysgol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) gael ei geisio—

(a)oddi wrth bennaeth unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd;

(b)os na ellir cael cyngor oddi wrth bennaeth ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd (am nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol neu fel arall), oddi wrth berson y mae'r awdurdod wedi'u bodloni bod ganddo brofiad o addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig neu wybodaeth am y ddarpariaeth wahanol y gall fod galw amdani mewn achosion gwahanol er mwyn diwallu'r anghenion hynny;

(c)os nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol ar hyn o bryd ac os nad yw'r cyngor a geir o dan is-baragraff (b) yn gyngor oddi wrth berson o'r fath, oddi wrth berson sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth addysgol i'r plentyn; ac

(ch)os oes unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwasanaethu fel aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, oddi wrth Addysg Plant y Lluoedd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â cheisio'r cyngor a geisir fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) i (c) oddi wrth unrhyw berson nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

(3Os yw'r cyngor a geisir fel y darperir ym mharagraff (1)(c) i'w sicrhau mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar ac nad oes person sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn hwnnw sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig, rhaid ceisio cyngor oddi wrth berson sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

(4Os nad yw'r pennaeth ei hun wedi addysgu'r plentyn o fewn y 18 mis blaenorol, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori ag athro neu athrawes sydd wedi addysgu'r plentyn.

(5Rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan yr ysgol i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth er mwyn diwallu'r anghenion hynny.

(6Rhaid i'r cyngor a geisir o dan baragraffau (1)(b) neu (1)(c) mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan y darparydd i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth ar gyfer diwallu'r anghenion hynny.

(7Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, o ganlyniad i gyngor meddygol neu fel arall, fod gan y plentyn o dan sylw—

(a)nam ar ei glyw;

(b)nam ar ei olwg; neu

(c)nam ar ei glyw ac ar ei olwg,

ac nad yw unrhyw berson y ceisir cyngor oddi wrtho fel y darperir ym mharagraff (1) wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam o'r fath yna rhaid i'r cyngor a geisir fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â pherson sydd wedi'i gymhwyso felly.

(8At ddibenion paragraff (7), bernir bod person wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam ar y clyw neu nam ar y golwg neu a chanddynt nam ar y clyw ac ar y golwg os yw'r person hwnnw wedi'i gymhwyso i'w gyflogi mewn ysgol yn athro neu'n athrawes i ddosbarth o ddisgyblion â nam o'r fath heblaw i roi hyfforddiant mewn crefft, masnach, neu bwnc domestig.

(9Nid yw paragraffau (4) a (7) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Cyngor meddygol

9.  Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(c) gael ei geisio oddi wrth yr awdurdod iechyd, y mae'n rhaid iddynt sicrhau cyngor oddi wrth ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru'n llawn.

Cyngor seicolegol

10.—(1Rhaid i'r cyngor seicolegol y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(ch) gael ei geisio oddi wrth berson—

(a)sy'n cael ei gyflogi'n rheolaidd gan yr awdurdod yn seicolegydd addysgol, neu

(b)a gymerir ymlaen gan yr awdurdod yn seicolegydd addysgol yn yr achos o dan sylw.

(2Os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu bod gan seicolegydd arall wybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth berson fel y darperir ym mharagraff (1) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â'r seicolegydd arall hwnnw.

(3Nid yw paragraff (2) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad

11.  Wrth wneud asesiad rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth—

(a)unrhyw sylwadau a gyflwynir gan riant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d);

(b)unrhyw dystiolaeth a gyflwynir gan riant y plentyn, neu ar gais rhiant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d); ac

(c)y cyngor a geir o dan reoliad 7.

Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig

12.—(1Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad i riant plentyn, o dan adran 323(1), yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—

(a)o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu

(b)o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, ac

(c)yn y naill achos neu'r llall bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni.

(2Os oes rhiant yn gofyn, o dan adrannau 328(2) neu 329(1), i'r awdurdod drefnu gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad derbyn y cais rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—

(a)o'r canlynol—

(i)eu penderfyniad i wneud asesiad;

(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a

(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu

(b)o'r canlynol—

(i)eu dyfarniad i beidio â chydymffurfio â chais y rhiant;

(ii)eu rhesymau dros wneud y dyfarniad hwnnw;

(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;

(iv)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);

(v)hawl y rhiant i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;

(vi)y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a

(vii)y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).

(3Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i'r corff hwnnw—

(a)o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu

(b)o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

(4Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i riant y plentyn—

(a)o'r canlynol—

(i)eu penderfyniad i wneud asesiad;

(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a

(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu

(b)o'r canlynol—

(i)eu penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn;

(ii)eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw;

(iii)bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;

(iv)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);

(v)hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;

(vi)y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a

(vii)y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).

(5Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

(a)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

(b)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA neu berson arall sy'n gyfrifol am addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

(c)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4); neu

(ch)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4).

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes awdurdod wedi rhoi hysbysiad, o dan adrannau 323(4) neu 329A(7), i riant y plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad, rhaid iddynt gwblhau'r asesiad hwnnw o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(7Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (6) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

(a)am ei bod yn angenrheidiol i'r awdurdod geisio cyngor pellach mewn achosion eithriadol ar ôl cael cyngor a geisiwyd o dan reoliad 7;

(b)am fod rhiant y plentyn wedi mynegi i'r awdurdod ei fod yn dymuno rhoi cyngor i'r awdurdod ar ôl i chwe wythnos ddod i ben o'r dyddiad y cafwyd cais am gyngor o'r fath o dan reoliad 7(1)(a), a bod yr awdurdod wedi cytuno i ystyried y cyngor hwnnw cyn cwblhau'r asesiad;

(c)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol o dan reoliad 7(1)(b) yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

(ch)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA mewn perthynas ag addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar, neu berson arall sy'n gyfrifol am yr addysg honno, o dan reoliad 7(1)(b), yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

(d)am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno a bod yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol heb gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y gwnaed y cais;

(dd)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6);

(e)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o ddeg wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6); neu

(f)am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11), os oes awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y maent yn cael y cais.

(9Nid oes angen i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

(a)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8);

(b)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8); neu

(c)am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf a wnaed gan yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8).

(10Nid oes angen i awdurdod iechyd gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

(11Nid oes angen i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

Plant heb ddatganiadau mewn ysgolion arbennig

13.  Os oes plentyn heb ddatganiad wedi'i dderbyn i ysgol arbennig at ddibenion asesiad, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 316A(2), caiff aros yn yr ysgol honno—

(a)nes bod 10 diwrnod ysgol yn dod i ben ar ôl i'r awdurdod gyflwyno hysbysiad o dan adran 325 yn hysbysu rhiant y plentyn nad ydynt yn bwriadu gwneud datganiad, neu

(b)nes i ddatganiad gael ei wneud(10).

RHAN IIIDATGANIADAU

Hysbysiadau i gyd-fynd â datganiad arfaethedig, neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig

14.  Rhaid i'r hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod ei gyflwyno i riant yn unol â pharagraff 2B(2) o Atodlen 27 i gyd-fynd—

(a)â chopi o ddatganiad arfaethedig (a gyflwynir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 27), neu

(b)â chopi o ddatganiad diwygiedig arfaethedig (a gyflwynir o dan baragraff 2A(2) o Atodlen 27)

gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan A o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau i gyd-fynd â hysbysiadau diwygio

15.  Rhaid i'r hysbysiad y mae'n rhaid ei gyflwyno i riant yn unol â pharagraff 2B(2) o Atodlen 27 i gyd-fynd â hysbysiad diwygio (a gyflwynir o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27) gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan B o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Datganiad o anghenion addysgol arbennig

16.  Rhaid i ddatganiad—

(a)bod ar ffurf sy'n cyfateb i raddau helaeth â'r ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yno;

(c)cael ei ddyddio a'i ddilysu â llofnod swyddog o'r awdurdod o dan sylw sydd wedi'i awdurdodi'n briodol;

(ch)nodi ai'r datganiad cyntaf sydd wedi'i wneud gan yr awdurdod ar gyfer y plentyn ydyw, neu ddatganiad dilynol;

(d)nodi ar y tudalen blaen a yw—

(i)yn cael ei ddiwygio yn unol ag adolygiad blynyddol a dyddiad unrhyw adolygiad blynyddol o'r fath;

(ii)yn cael ei ddiwygio yn unol ag adolygiad heblaw adolygiad blynyddol a dyddiad yr adolygiad hwnnw;

(iii)yn cael ei ddiwygio yn unol â gorchymyn gan y Tribiwnlys, a dyddiad y gorchymyn hwnnw; neu

(iv)yn cael ei ddiwygio yn unol â chyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, a dyddiad unrhyw gyfarwyddyd o'r fath.

Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig

17.—(1Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn nad oes datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt naill ai—

(a)cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig a hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) a 2B(2) o Atodlen 27 yn y drefn honno, neu

(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn—

(i)o dan adran 325(1) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud datganiad;

(ii)o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(iii)o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a

(iv)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.

(2Os oes awdurdod wedi gwneud asesiad o blentyn y mae datganiad yn cael ei gynnal ar ei gyfer, o fewn pythefnos o ddyddiad cwblhau'r asesiad, rhaid iddynt—

(a)cyflwyno copi o ddatganiad diwygiedig arfaethedig a hysbysiad o dan baragraffau 2A(2) a 2B(2) o Atodlen 27 yn y drefn honno i riant y plentyn; neu

(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn—

(i)o dan baragraff 11(2) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal y datganiad;

(ii)o hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a

(iii)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; neu

(c)cyflwyno hysbysiad i riant y plentyn—

(i)o dan adran 329(2) sy'n dweud wrth y rhiant eu bod wedi penderfynu peidio â diwygio'r datganiad;

(ii)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am eu rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(iii)sy'n cyd-fynd â chopïau o'r cyngor proffesiynol a gafwyd yn ystod yr asesiad;

(iv)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am yr hawl i apelio o dan adran 326(1)(c) at y Tribiwnlys yn erbyn y disgrifiad yn y datganiad o asesiad yr awdurdod o anghenion addysgol arbennig y plentyn, y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir yn y datganiad (gan gynnwys enw ysgol os pennwyd un) neu, os nad oes ysgol wedi'i henwi yn y datganiad, y ffaith honno; a

(v)sy'n rhoi gwybod i'r rhiant am y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud yr apêl at y Tribiwnlys o'i fewn.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os oes awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig neu ddatganiad diwygiedig arfaethedig i riant y plentyn o dan baragraffau 2(1) neu 2A(2) o Atodlen 27, o fewn wyth wythnos i ddyddiad cyflwyno'r datganiad arfaethedig neu'r datganiad diwygiedig arfaethedig, rhaid iddynt gyflwyno copi o'r datganiad wedi'i gwblhau neu'r datganiad diwygiedig wedi'i gwblhau a hysbysiad ysgrifenedig i riant y plentyn o dan baragraffau 6(1) a 6(2) yn y drefn honno o Atodlen 27.

(4Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (3) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

(a)am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3);

(b)am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3);

(c)am fod rhiant y plentyn yn mynegi ei fod am gyflwyno sylwadau i'r awdurdod am gynnwys y datganiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 ar ôl i'r cyfnod o 15 diwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r fath y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno ddod i ben;

(ch)am fod cyfarfod rhwng rhiant y plentyn ac un o swyddogion yr awdurdod wedi'i gynnal yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 27 a bod rhiant y plentyn o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno naill ai wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod arall o'r fath gael ei drefnu neu wedi'i gwneud yn ofynnol i gyfarfod â'r person priodol gael ei drefnu; neu

(d)am fod yr awdurdod wedi anfon cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei gydsyniad o dan adran 347(5) i addysgu'r plentyn mewn ysgol annibynnol nad yw wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nad yw'r cydsyniad hwnnw wedi dod i law'r awdurdod o fewn pythefnos o ddyddiad anfon y cais.

(5Os yw rhiant y plentyn yn gofyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 27 i'r awdurdod roi enw ysgol arall a bennir gan y rhiant yn lle enw ysgol neu sefydliad a bennwyd mewn datganiad a bod yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(b) o Atodlen 27 wedi'u bodloni, o fewn wyth wythnos o ddyddiad cael y cais rhaid i'r awdurdod naill ai—

(a)cydymffurfio â'r cais; neu

(b)rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 8(3) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu peidio â chydymffurfio â'r cais, o'u rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac o'r hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(6Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad diwygio i riant y plentyn o dan baragraff 2A(4) o Atodlen 27 yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn bwriadu diwygio datganiad, rhaid iddynt ddiwygio'r datganiad cyn i wyth wythnos ddod i ben o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.

(7Nid oes angen i'r awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser ym mharagraff (6)—

(a)os oedd yr hysbysiad diwygio'n cynnwys diwygiad ynghylch math neu enw ysgol neu sefydliad neu ynghylch y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer y plentyn o dan sylw o dan drefniadau a wnaed o dan adran 319, a

(b)os yw'n anymarferol gwneud hynny am fod unrhyw un o'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) i (d) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod o wyth wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).

(8Os oes awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant y plentyn o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal datganiad, rhaid iddynt beidio â rhoi'r gorau i'w gynnal cyn i'r cyfnod rhagnodedig pryd y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ddod i ben(11).

(9Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn roi gwybod i'r rhiant y caiff ei gyflwyno iddo—

(a)bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B, a

(b)y ffaith na all y trefniadau a wnaed o dan adran 332B effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a defnyddio unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B.

Adolygu datganiadau

18.—(1Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob tymor ysgol, rhaid i awdurdod gyflwyno hysbysiad i bennaeth pob ysgol yn rhestru'r disgyblion hynny sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol honno—

(a)y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, a

(b)y mae eu hadolygiadau blynyddol i gael eu cynnal cyn dechrau'r ail dymor ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “ysgol” yw

(a)ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig,

(b)ysgol feithrin a gynhelir,

(c)uned cyfeirio disgyblion,

(ch)ysgol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 342, neu

(d)Coleg Dinas ar gyfer Technoleg a'r Celfyddydau, Coleg Technoleg Dinas neu Academi Dinas,

lle mae disgybl y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdano yn ddisgybl cofrestredig.

(3Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth gyflwyno adroddiad i'r awdurdod mewn perthynas â phob plentyn a grybwyllir ynddo, sef adroddiad y mae'n rhaid iddo gael ei baratoi gan y pennaeth a'i adolygu gan yr awdurdod yn unol â'r canlynol—

(i)paragraffau (4) i (15) o reoliad 21 mewn perthynas â phlentyn heblaw plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, neu

(ii)paragraffau (4) i (15) o reoliad 22 mewn perthynas â phlentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, a

(b)pennu ar gyfer pob plentyn unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu y dylid gofyn am gyngor oddi wrthynt er mwyn gwneud adroddiad boddhaol.

(4Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gael ei baratoi gan y pennaeth—

(a)erbyn diwedd y tymor sy'n dilyn cyflwyno'r hysbysiad, neu, os yw hynny'n gynharach

(b)o fewn 10 diwrnod ysgol o'r cyfarfod adolygu y cyfeirir ato yn rheoliad 20(6), neu, yn achos plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, yn rheoliad 21(6).

(5Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob blwyddyn ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno i Wasanaeth Gyrfaoedd eu hardal, hysbysiad—

(a)yn rhestru'r holl blant y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac a fydd yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yn y flwyddyn ysgol honno, a

(b)yn nodi'r ysgol y mae pob un o'r plant hynny'n ei mynychu neu'r ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei gwneud mewn perthynas â hwy.

(6Heb fod yn llai na phythefnos cyn diwrnod cyntaf pob tymor ysgol rhaid i awdurdod gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod iechyd a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol—

(a)yn rhestru—

(i)y plant hynny sy'n byw yn ardal yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(ii)y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, a

(iii)y mae eu hadolygiadau blynyddol i'w cynnal cyn dechrau'r ail dymor ar ôl rhoi'r hysbysiad; a

(b)yn nodi'r ysgol y mae'r plant hynny'n ei mynychu neu'r ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei gwneud mewn perthynas â hwy.

Trosglwyddo rhwng cyfnodau

19.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os oes datganiad yn cael ei gadw ar gyfer plentyn, a

(b)os yw'r plentyn o fewn 12 mis calendr o drosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr trosglwyddo rhwng cyfnodau o addysg yw trosglwyddo—

(a)o'r ysgol gynradd i'r ysgol ganol;

(b)o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd;

(c)o'r ysgol ganol i'r ysgol uwchradd;

(ch)o'r ysgol uwchradd i sefydliad a bennir yn adran 2A o'r Ddeddf.

(3Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad y plentyn yn cael ei ddiwygio fel bod y datganiad, cyn 15 Chwefror yn y flwyddyn galendr y trosglwyddir y plentyn, yn enwi'r ysgol neu'r sefydliad arall y bydd y plentyn yn eu mynychu ar ôl y trosglwyddo hwnnw.

Adolygu datganiad plentyn sy'n mynychu ysgol (heblaw adolygiad mewn perthynas â phlentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol)

20.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os oes awdurdod yn cynnal adolygiad blynyddol o ddatganiad plentyn;

(b)os yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol; ac

(c)os nad yw'r plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.

(3Os yw enw'r plentyn wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) o reoliad 18, nid oes angen cyflwyno hysbysiad pellach i'r pennaeth mewn perthynas â'r plentyn hwnnw o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn.

(4Er mwyn paratoi'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, rhaid i'r pennaeth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (5) oddi wrth—

(a)rhiant y plentyn (mewn perthynas â'r holl faterion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5));

(b)unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol ac y maent yn ei bennu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 mewn perthynas â'r plentyn penodol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw); ac

(c)unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw).

(5Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch—

(a)cynnydd y plentyn tuag at fodloni'r amcanion a bennwyd yn y datganiad;

(b)cynnydd y plentyn tuag at gyrraedd unrhyw dargedau a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion a bennwyd yn y datganiad;

(c)os ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig heblaw ysgol arbennig sydd wedi'i sefydlu mewn ysbyty yw'r ysgol, sut mae darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso ar gyfer y plentyn, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328;

(ch)sut mae unrhyw ddarpariaethau a roddwyd yn lle darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn cynnal cwricwlwm cytbwys ac eang wedi'u cymhwyso a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328;

(d)y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328 yn ymddygiad y plentyn a'i agwedd at ddysgu;

(dd)os yw'n briodol, ac mewn unrhyw achos lle mae cynllun trosiannol yn bodoli, unrhyw faterion sy'n destun priodol i gynllun o'r fath;

(e)a yw'r datganiad yn parhau'n briodol;

(f)unrhyw ddiwygiadau i'r datganiad a fyddai'n briodol; ac

(ff)a ddylai'r awdurdod roi'r gorau i gynnal y datganiad.

(6Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)y cynrychiolydd i'r awdurdod a bennir yn yr hysbysiad;

(b)rhiant y plentyn;

(c)aelod neu aelodau o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn neu sydd fel arall yn gyfrifol am ddarparu addysg ar gyfer y plentyn y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol;

(ch)unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol; a

(d)unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol ac sydd wedi'i bennu yn yr hysbysiad.

(7Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor a gafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

(8Rhaid i'r cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6) ystyried—

(a)y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5); a

(b)unrhyw newidiadau arwyddocaol yn amgylchiadau'r plentyn ers dyddiad gwneud y datganiad neu ei adolygu ddiwethaf.

(9Rhaid i'r cyfarfod argymell—

(a)unrhyw gamau y mae'n casglu y dylid eu cymryd, gan gynnwys a ddylai'r awdurdod ddiwygio'r datganiad neu roi'r gorau i'w gynnal,

(b)unrhyw dargedau sydd i'w sefydlu i hyrwyddo'r amcanion a bennir yn y datganiad y mae'n casglu y dylai'r plentyn eu bodloni yn ystod y cyfnod tan yr adolygiad nesaf, ac

(c)os oes cynllun trosiannol yn bodoli, y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys yn y cynllun hwnnw.

(10Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.

(11Rhaid i'r adroddiad sydd i'w gyflwyno o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18 gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod a rhaid iddo gynnwys asesiad y pennaeth o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) ac argymhellion y pennaeth o ran y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9), a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng asesiad ac argymhellion y pennaeth ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

(12Pan fydd y pennaeth yn cyflwyno adroddiad i'r awdurdod o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, ar yr un pryd rhaid i'r pennaeth anfon copïau—

(a)at riant y plentyn,

(b)at unrhyw berson arall a gyflwynodd gyngor o dan baragraff (4) neu baragraff (7),

(c)at unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt ac y maent yn cyfarwyddo'r pennaeth i anfon copi atynt, ac

(ch)unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.

(13Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cofnodi eu penderfyniadau ar y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9)(a) a (b) yn ysgrifenedig ac, os oes cynllun trosiannol yn bodoli, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig ar gyfer diwygiadau i'r cynllun yn ôl fel y maent yn credu ei bod yn briodol.

(14O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328 rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'u penderfyniadau a'u hargymhellion—

(a)at riant y plentyn;

(b)at y pennaeth;

(c)at unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.

(15Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i'r cynllun trosiannol yn cael eu gwneud.

(16Yn y rheoliad hwn mae i “ysgol” yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Adolygu datganiad os yw plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yn mynychu ysgol

21.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os oes awdurdod yn cynnal adolygiad blynyddol o ddatganiad plentyn;

(b)os yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol; ac

(c)os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i bennaeth ysgol y plentyn gyflwyno adroddiad iddynt o dan y rheoliad hwn erbyn dyddiad penodedig heb fod yn llai na dau fis o ddyddiad rhoi'r hysbysiad.

(3Os yw enw'r plentyn wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) o reoliad 18, nid oes angen cyflwyno hysbysiad pellach i'r pennaeth mewn perthynas â'r plentyn hwnnw o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn.

(4At ddibenion yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, rhaid i'r pennaeth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (5) oddi wrth—

(a)rhiant y plentyn, (mewn perthynas â'r holl faterion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5));

(b)unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu bod ei gyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol ac y maent yn ei bennu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) neu ym mharagraff (1) o reoliad 18 mewn perthynas â phlentyn penodol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw);

(c)cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd (mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5)(dd) ac unrhyw faterion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw); ac

(ch)unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu bod eu cyngor yn briodol er mwyn gwneud adroddiad boddhaol (mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) y mae'r pennaeth yn credu eu bod o fewn gwybodaeth neu arbenigedd y person hwnnw).

(5Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn gyngor ysgrifenedig ynghylch y canlynol—

(a)cynnydd y plentyn tuag at fodloni'r amcanion a bennwyd yn y datganiad;

(b)cynnydd y plentyn tuag at gyrraedd unrhyw dargedau a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion a bennwyd yn y datganiad;

(c)os ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig heblaw ysgol arbennig sydd wedi'i sefydlu mewn ysbyty yw'r ysgol, sut mae darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso ar gyfer y plentyn, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328;

(ch)sut mae unrhyw ddarpariaethau a roddwyd yn lle darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn cynnal cwricwlwm cytbwys ac eang wedi'u cymhwyso a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328;

(d)y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y plentyn ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328 yn ei ymddygiad a'i agwedd at ddysgu;

(dd)unrhyw faterion sy'n destun priodol cynllun trosiannol;

(e)a yw'r datganiad yn parhau'n briodol;

(f)unrhyw ddiwygiadau i'r datganiad a fyddai'n briodol; ac

(ff)a ddylai'r awdurdod roi'r gorau i gynnal y datganiad.

(6Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (1) o reoliad 18 ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn ei bod yn ofynnol cyflwyno'r adroddiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)rhiant y plentyn;

(b)aelod neu aelodau o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn neu sydd fel arall yn gyfrifol am ddarparu addysg ar gyfer y plentyn y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol;

(c)cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(ch)cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd;

(d)unrhyw berson y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol;

(dd)unrhyw berson y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol ac sydd wedi'i bennu yn yr hysbysiad; ac

(e)cynrychiolydd o'r awdurdod.

(7Heb fod yn fwy na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw ac sydd heb roi gwybod i'r pennaeth na fyddant yn bresennol ynddo gopïau o'r cyngor y cafwyd yn unol â'r cais o dan baragraff (4) a rhaid iddo ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i'r derbynwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddo cyn y cyfarfod neu yn y cyfarfod ynghylch y cyngor hwnnw ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

(8Rhaid i'r cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (6) ystyried—

(a)y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5), ym mhob achos gan gynnwys y materion y cyfeirir atynt yn (5)(dd), a

(b)unrhyw newidiadau arwyddocaol yn amgylchiadau'r plentyn ers dyddiad gwneud y datganiad neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328.

(9Rhaid i'r cyfarfod argymell—

(a)unrhyw gamau y mae'n casglu y dylid eu cymryd, gan gynnwys a ddylai'r awdurdod ddiwygio'r datganiad neu roi'r gorau i'w gynnal,

(b)unrhyw dargedau sydd i'w sefydlu i hyrwyddo'r amcanion a bennir yn y datganiad y mae'n casglu y dylai'r plentyn eu bodloni yn ystod y cyfnod tan yr adolygiad nesaf, ac

(c)y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys mewn cynllun trosiannol.

(10Os na all y cyfarfod gytuno ar yr argymhellion sydd i'w cyflwyno o dan baragraff (9), rhaid i'r personau a fu'n bresennol yn y cyfarfod gyflwyno argymhellion gwahanol yn ôl fel y mae'n ymddangos yn angenrheidiol i bob un ohonynt.

(11Rhaid i'r adroddiad sydd i'w gyflwyno o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18 gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod, rhaid iddo gynnwys asesiad y pennaeth o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) ac argymhellion y pennaeth o ran y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9), a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng asesiad ac argymhellion y pennaeth ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

(12Pan fydd y pennaeth yn cyflwyno adroddiad i'r awdurdod o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn neu baragraff (3) o reoliad 18, ar yr un pryd rhaid i'r pennaeth anfon copïau—

(a)at riant y plentyn;

(b)at unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt ac y maent yn cyfarwyddo'r pennaeth i anfon copi atynt, ac

(c)at unrhyw berson arall y mae'r pennaeth yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.

(13Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y maent yn credu eu bod yn berthnasol, cyflwyno argymhellion ysgrifenedig ynghylch y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (9)(a), (b) ac (c).

(14O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328 rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r argymhellion ac o'r cynllun trosiannol—

(a)at riant y plentyn;

(b)at y pennaeth;

(c)at unrhyw berson arall y maent yn credu ei bod yn briodol anfon copi atynt.

(15Y pennaeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun trosiannol yn cael ei lunio.

(16Yn y rheoliad hwn mae i “ysgol” yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Adolygu datganiad os nad yw plentyn yn mynychu ysgol

22.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes awdurdod yn adolygu datganiad o dan adran 328 ac nad yw'r plentyn o dan sylw yn mynychu ysgol.

(2Rhaid i'r awdurdod baratoi adroddiad sy'n rhoi sylw i'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5), gan gynnwys y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5)(dd) mewn unrhyw achos lle cychwynnir yr adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, ac at y diben hwnnw rhaid i'r awdurdod geisio cyngor ar y materion hynny oddi wrth riant y plentyn ac ar unrhyw rai o'r materion hynny oddi wrth unrhyw berson arall y maent yn credu bod eu cyngor yn briodol yn yr achos o dan sylw er mwyn gwneud adroddiad boddhaol.

(3Rhaid i'r awdurdod wahodd y personau canlynol i gyfarfod i'w gynnal ar ddyddiad cyn ei bod yn ofynnol cwblhau'r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)rhiant y plentyn;

(b)os yr adolygiad cyntaf sydd wedi'i gychwyn ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(c)os yw is-baragraff (b) yn gymwys, cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd; ac

(ch)unrhyw berson neu bersonau y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol iddynt fod yn bresennol.

(4Heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn dyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod anfon at yr holl bersonau a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw gopi o'r adroddiad y maent yn bwriadu ei wneud o dan baragraff (2) a rhaid iddynt ofyn drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd â'r copïau i'r derbynwyr gyflwyno i'r awdurdod sylwadau ysgrifenedig ynghylch yr adroddiad ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol.

(5Rhaid i gynrychiolydd o'r awdurdod fod yn bresennol yn y cyfarfod.

(6Rhaid i'r cyfarfod ystyried y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5), ac mewn unrhyw achos lle cychwynnir yr adolygiad ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol, y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(5)(dd), a rhaid iddo gyflwyno argymhellion yn unol â rheoliad 20(9), ac mewn unrhyw achos lle mae'r plentyn yn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol argymhellion o ran y materion y mae'n casglu y dylid eu cynnwys mewn cynllun trosiannol.

(7Rhaid i'r adroddiad a baratoir gan yr awdurdod o dan baragraff (2) gael ei gwblhau ar ôl cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid iddo gynnwys asesiad yr awdurdod o'r materion y mae gofyn eu hystyried gan y cyfarfod a'u hargymhellion o ran y materion y mae gofyn i'r cyfarfod eu hargymell, a rhaid iddo gyfeirio at unrhyw wahaniaeth rhwng eu hasesiad a'u hargymhellion ac asesiad ac argymhellion y cyfarfod.

(8 O fewn wythnos o ddyddiad cynnal y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r adroddiad a gwblheir o dan baragraff (7)—

(a)at riant y plentyn;

(b)at unrhyw berson y maent yn credu ei bod yn briodol anfon copi ato.

(9Rhaid i'r awdurdod adolygu'r datganiad o dan adran 328 yng ngoleuni'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth neu gyngor arall y mae'n credu eu bod yn berthnasol, rhaid iddynt gyflwyno argymhellion ysgrifenedig o ran y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(9) ac mewn unrhyw achos lle'r adolygiad cyntaf i'w gychwyn ar ôl i'r plentyn ddechrau'r ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad, baratoi cynllun trosiannol, ac mewn unrhyw achos lle mae cynllun trosiannol yn bodoli, ddiwygio'r cynllun fel y gwelant yn dda.

(10O fewn wythnos o gwblhau'r adolygiad o dan adran 328, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r argymhellion ac o unrhyw gynllun trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (9) at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8).

(11Yn y rheoliad hwn mae i “ysgol” yr un ystyr ag yn rheoliad 18.

Trosglwyddo datganiadau

23.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw plentyn y cynhelir datganiad mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod sy'n cynnal y datganiad (“yr hen awdurdod”) i ardal awdurdod arall (“yr awdurdod newydd”).

(2Rhaid i'r hen awdurdod drosglwyddo'r datganiad i'r awdurdod newydd.

(3O ddyddiad y trosglwyddo—

(a)rhaid trin y datganiad at ddibenion dyletswyddau a swyddogaethau'r awdurdod newydd o dan Ran IV o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn fel pe bai wedi'i wneud gan yr awdurdod newydd ar y dyddiad y cafodd ei wneud gan yr hen awdurdod, a

(b)os yw'r awdurdod newydd yn gwneud asesiad a bod yr hen awdurdod wedi rhoi cyngor a gafwyd yn unol ag asesiad blaenorol i'r awdurdod newydd, bydd rheoliad 7(5) yn gymwys fel pe bai'r awdurdod newydd wedi cael y cyngor ar y dyddiad y cafodd yr hen awdurdod ef.

(4O fewn chwe wythnos o'r dyddiad trosglwyddo, rhaid i'r awdurdod newydd gyflwyno hysbysiad i riant y plentyn yn rhoi gwybod i'r rhiant—

(a)bod y datganiad wedi'i drosglwyddo,

(b)a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, ac

(c)pryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad yn unol â pharagraff (5).

(5Rhaid i'r awdurdod newydd adolygu'r datganiad o dan adran 328(5)(b) cyn i'r hwyraf o'r ddau gyfnod canlynol ddod i ben—

(a)y cyfnod o 12 mis yn dechrau â gwneud y datganiad neu, yn ôl fel y digwydd, â'r adolygiad blaenorol, neu

(b)y cyfnod o dri mis yn dechrau â'r dyddiad trosglwyddo.

(6Pan ddaw'r awdurdod newydd, oherwydd y trosglwyddo, o dan ddyletswydd i drefnu bod y plentyn yn mynychu ysgol a bennir yn y datganiad ond nad yw'n ymarferol i'r plentyn ei mynychu mwyach yng ngoleuni'r symud, caiff yr awdurdod newydd drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall sy'n briodol ar gyfer y plentyn nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Atodlen 27.

(7Yn y rheoliad hwn, bydd “yr awdurdod newydd” yn cynnwys awdurdod addysg lleol yn Lloegr at ddibenion paragraffau (1) a (2) yn unig.

(8Rhaid i awdurdod y trosglwyddir datganiad iddo o awdurdod addysg lleol yn Lloegr drin y datganiad fel pe bai wedi'i drosglwyddo gan hen awdurdod at ddibenion paragraffau (3) i (6).

Cyfyngiad ar ddatgelu datganiadau

24.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, rhaid peidio â datgelu datganiad mewn perthynas â phlentyn heb gydsyniad y plentyn ac eithrio—

(a)i bersonau y mae angen datgelu'r datganiad iddynt, ym marn yr awdurdod o dan sylw, er lles y plentyn;

(b)at ddibenion unrhyw apêl o dan y Ddeddf;

(c)at ddibenion ymchwil addysgol a allai, ym marn yr awdurdod, hybu addysg plant ag anghenion addysgol arbennig, os, ond dim ond os, yw'r person sy'n ymwneud â'r ymchwil honno yn addo peidio â chyhoeddi dim a gynhwysir mewn datganiad, neu sy'n deillio o ddatganiad, heblaw ar ffurf nad yw'n datgelu pwy yw unrhyw unigolyn sydd o dan sylw gan gynnwys yn arbennig y plentyn sydd o dan sylw a'i riant;

(ch)ar orchymyn unrhyw lys neu at ddibenion unrhyw achos troseddol;

(d)at ddibenion unrhyw ymchwiliad o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(12) (ymchwilio i gamweinyddu);

(dd)i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd hwnnw'n gofyn iddo gael ei ddatgelu er mwyn penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddiadau neu wneud gorchymyn o dan adran 496, 497 neu 497A o'r Ddeddf;

(e)at ddibenion asesiad o anghenion y plentyn mewn perthynas â darparu unrhyw wasanaethau statudol ar gyfer y plentyn sy'n cael ei wneud gan swyddogion awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn rhinwedd trefniadau a wnaed o dan adran 5(5) o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(13);

(f)at ddibenion awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 22(3)(a), 85(4)(a), 86(3)(a) ac 87(3) o Ddeddf Plant 1989(14);

(ff)i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, neu i arolygydd cofrestredig neu aelod o dîm arolygu, sy'n gofyn am yr hawl i archwilio datganiad neu i gymryd copïau ohono yn unol ag adran 2(8) neu 3(3) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(15)) neu baragraff 7 o Atodlen 2 iddi yn y drefn honno;

(g)i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd er mwyn i gynllun trosiannol gael ei ysgrifennu neu ei ddiwygio; neu

(ng)i Sefydliad Tramgwyddwyr Ifanc at ddibenion cyflawni ei ddyletswyddau o dan Reol 38 o Reolau Sefydliadau Tramgwyddwyr Ifanc 2000(16).

(2Caiff plentyn gydsynio i ddatgelu datganiad at ddibenion y rheoliad hwn os yw oedran a dealltwriaeth y plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn ddeall natur y cydsyniad hwnnw.

(3Os nad yw oedran neu ddealltwriaeth plentyn yn ddigon i ganiatáu i'r plentyn gydsynio i ddatgelu ei ddatganiad, caiff rhiant y plentyn gydsynio ar ei ran.

(4Rhaid i'r trefniadau ar gyfer cadw datganiadau o'r fath fod yn drefniadau sy'n sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw personau diawdurdod yn cael eu gweld.

(5Yn y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddatganiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw sylwadau, tystiolaeth, cyngor neu wybodaeth a nodir yn yr atodiadau i ddatganiad.

RHAN IVDIDDYMU A DARPARIAETHAU TROSIANNOL

Diddymu Rheoliadau 1994

25.  Yn ddarostyngedig i reoliad 26, mae Rheoliadau 1994 drwy hyn wedi'u diddymu.

Darpariaethau trosiannol

26.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r amserau, yr amgylchiadau neu'r dibenion yr oedd un o ddarpariaethau cyfatebol Rheoliadau 1994 yn effeithiol mewn perthynas â hwy ac i'r graddau y mae natur y cyfeiriad yn caniatáu hynny fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol honno.

(2Bydd rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad os yw'r awdurdod, cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(4), yn hysbysu'r rhiant eu bod wedi penderfynu gwneud asesiad, ac ni fydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad o'r fath.

(3Os yw rheoliadau 6 i 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw asesiad ond nad yw'r awdurdod, cyn 1 Medi 2002—

(a)wedi hysbysu'r rhiant o'u penderfyniad nad yw'n ofynnol iddynt benderfynu ar ddarpariaeth addysgol arbennig y plentyn yn unol ag adran 325(1);

(b)wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad arfaethedig yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27; neu

(c)wedi cyflwyno copi i'r rhiant o ddatganiad diwygiedig arfaethedig o dan baragraff 3 o Atodlen 27

bydd rheoliadau 6 i 12 yn gymwys mewn perthynas â'r asesiad o 1 Medi 2002 fel pe bai'r awdurdod wedi rhoi hysbysiad ar y dyddiad hwnnw i'r rhiant o dan adran 323(4) o'u penderfyniad i wneud asesiad.

(4Os yw rheoliadau 6 i 12 yn gymwys yn unol â pharagraff (3) uchod mewn perthynas ag asesiad, rhaid i'r awdurdod sicrhau cyngor yn unol â Rhan II, ond rhaid barnu bod cyngor a gafwyd yn unol â Rheoliadau 1994 wedi'i gael o dan Ran II os yw'r cyngor hwnnw'n briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol o dan y Rhan honno.

(5Os yw'r awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 323(1) i riant y plentyn eu bod yn bwriadu gwneud asesiad ond nad ydynt wedi hysbysu'r rhiant, cyn y dyddiad hwnnw, o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(6) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o'r fath o dan adran 323(4) neu 323(6) yn unig.

(6Os oes rhiant wedi gofyn cyn 1 Ebrill 2002 yn unol ag adran 328 neu 329 i'r awdurdod drefnu i asesiad gael ei wneud o anghenion addysgol ei blentyn ond nad yw'r awdurdod, cyn y dyddiad hwnnw, wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 323(4) eu bod wedi penderfynu gwneud yr asesiad nac wedi hysbysu'r rhiant o dan adran 328(3) neu 329(2) eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud yr asesiad, bydd rheoliad 11 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys at ddibenion unrhyw hysbysiad o dan adran 323(4), 328(3) neu 329(2) yn unig.

(7Bydd rheoliadau 13 a 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer gwneud unrhyw ddatganiad os yw'r awdurdod wedi cyflwyno copi o ddatganiad arfaethedig i'r rhiant cyn 1 Ebrill 2002 yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 27.

(8Bydd rheoliad 14 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys mewn perthynas â chynnig i ddiwygio neu i roi'r gorau i gynnal datganiad os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 10(1) neu 11(2) o Atodlen 27 cyn 1 Ebrill 2002.

(9Bydd rheoliad 15 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 15(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

(10Bydd rheoliad 16 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygu datganiad y mae awdurdod yn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef yn unol â gofynion rheoliad 16(2) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

(11Bydd rheoliad 17 o Reoliadau 1994 yn parhau'n gymwys ar gyfer adolygiad y mae awdurdod wedi gwahodd y personau a bennir yn y rheoliad hwnnw i gyfarfod mewn perthynas ag ef yn unol â rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 cyn 1 Ebrill 2002.

(12Yr achlysur cyntaf cyn bod yn rhaid i awdurdod sicrhau bod datganiad plentyn wedi'i ddiwygio o dan reoliad 19 o'r Rheoliadau hyn yw 15 Chwefror 2003.

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002

Rheoliad 14

ATODLEN 1

Rhan AHysbysiad i riant

Rheoliad 15

RHAN B

Rheoliad 16

ATODLEN 2DATGANIAD O ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

RHAN 1:RHAGYMADRODD

RHAN 2:ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

RHAN 3:DARPARIAETH ADDYSGOL ARBENNIG

RHAN 4:LLEOLIAD

RHAN 5:ANGHENION ANADDYSGOL

RHAN 6:DARPARIAETH ANADDYSGOL

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag asesu anghenion addysgol arbennig ac â datganiadau o'r anghenion hynny o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Maent yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994, sy'n cael eu diddymu (rheoliad 25).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol ddirprwyo swyddogaethau o dan y Rheoliadau yn gyffredinol i athro neu athrawes gymwysedig, neu mewn achos penodol, i'r aelod o'r staff sy'n addysgu'r plentyn (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cydategu'r fframwaith gweithdrefnol ar gyfer gwneud asesiad a datganiad a gynhwysir yn Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlenni 26 a 27 iddi. Gwneir darpariaeth fanwl ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy'r post (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o hysbysiadau o gynnig awdurdod addysg lleol i wneud asesiad, eu penderfyniad i wneud asesiad neu hysbysiadau o gais rhiant neu gorff cyfrifol am asesiad, gael eu cyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod iechyd a phennaeth ysgol y plentyn neu'r pennaeth AAA os yw'r plentyn yn derbyn addysg feithrin berthnasol (rheoliad 6). Yn ddarostyngedig i eithriadau, maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol gymryd camau gwahanol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ragnodedig, wrth wneud asesiad neu ddatganiad o fewn terfynau amser rhagnodedig (rheoliadau 12 a 17 yn y drefn honno).

Mae'r Rheoliadau'n darparu bod rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, wrth wneud asesiad o anghenion addysgol arbennig plentyn, ofyn am gyngor rhiant y plentyn, cyngor addysgol, cyngor meddygol, cyngor seicolegol, cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol (rheoliad 7). Os oes cyngor o'r fath wedi'i sicrhau wrth wneud asesiad blaenorol o fewn y 12 mis diwethaf a bod personau penodol yn fodlon ei fod yn ddigonol, nid oes angen sicrhau cyngor newydd (rheoliad 7(5)). Gwneir darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid gofyn iddynt roi cyngor addysgol, meddygol a seicolegol (rheoliadau 8 i 10). Wrth wneud asesiad, darperir bod rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth sylwadau gan y rhiant, tystiolaeth a gyflwynir gan y rhiant, a'r cyngor sydd wedi'i sicrhau (rheoliad 11).

Gwneir darpariaeth i blentyn heb ddatganiad a dderbynnir i ysgol arbennig er mwyn cael ei asesu aros yno pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau (rheoliad 13).

Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi'r drafft hysbysiad sydd i'w gyflwyno i riant ynghyd â datganiad drafft o anghenion addysgol arbennig neu ddatganiad diwygiedig, neu hysbysiad diwygio (rheoliadau 14 a 15 a Rhan A a B o Atodlen 1 yn y drefn honno). Rhagnodir ffurf a chynnwys datganiad hefyd (rheoliad 16 ac Atodlen 2).

Gwneir darpariaeth fanwl ynghylch sut mae adolygiad blynyddol o ddatganiad gan awdurdod addysg lleol o dan adran 328 o Ddeddf Addysg 1996 i gael ei gynnal (rheoliadau 18 i 22). Mae'n ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol anfon rhestrau cyfansawdd o ddisgyblion y mae arnynt angen adolygiadau blynyddol at benaethiaid ac at yr awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn pob tymor ac at y Gwasanaeth Gyrfaoedd bob blwyddyn (rheoliad 18). Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer adolygiadau os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau ar ei ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad. Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau sicrhau bod datganiadau'n cael eu diwygio erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y bydd y plentyn yn trosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer trosglwyddo datganiad o un awdurdod addysg lleol i un arall (rheoliad 23). Mae dyletswyddau'r trosglwyddwr yn cael eu trosglwyddo i'r trosglwyddai, ac o fewn chwe wythnos ar ôl y trosglwyddo, rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno hysbysiad i'r rhiant yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y trosglwyddo, a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, a phryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad (rheoliad 23(2), (3) a (4)). Pan na fyddai'n ymarferol ei gwneud yn ofynnol i'r trosglwyddai drefnu i'r plentyn fynychu ysgol a bennir yn y datganiad, darperir nad oes angen iddynt wneud hynny, ond y gallant drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad (rheoliad 23(6)).

Ceir cyfyngiadau ar ddatgelu datganiadau a rhaid cymryd camau i atal personau diawdurdod rhag cael eu gweld (rheoliad 24).

Gwneir darpariaeth ar gyfer trosi o'r gyfundrefn a osodwyd gan Reoliadau 1994 i'r gyfundrefn a osodir gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 26). Yn fras, gall unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reoliadau 1994 gael eu cwblhau o dan y rheoliadau hynny. Os oes asesiad wedi'i ddechrau cyn 1 Ebrill 2002, caiff yr awdurdod addysg lleol barhau i wneud yr asesiad o dan Reoliadau 1994. Er hynny, os nad yw'r asesiad wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 2002, fe fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r asesiad fel pe bai wedi'i ddechrau odanynt ar y dyddiad hwnnw (rheoliad 26(3)).

(1)

1996 p.56. I gael ystyr “regualtions” gweler adran 579(1) o'r Ddeddf. Mewnosodwyd adrannau 316A(2), 325(2A) a 2(B), 328(3A) a (3B), 329(2A) a 329A(9) gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 1, paragraff 6 o Atodlen 8, paragraff 7 o Atodlen 8, paragraff 8 o Atodlen 8 ac adran 8 yn y drefn honno. Mewnosodwyd paragraffau 2(3), 2B(3), 6(3), 8(3A), 11(2A) o Atodlen 27 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, Atodlen 1, paragraffau 3 a 14 ac Atodlen 8, paragraffau 9(2) a 10(2) yn y drefn honno

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).

(4)

1977 p.49. Fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).

(6)

1973 p.50. Amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), adran 45.

(10)

Pan fydd datganiad wedi'i wneud ar gyfer plentyn, bydd y datganiad hwnnw'n pennu a gaiff y plentyn ei addysgu mewn ysgol arbennig neu mewn man arall.

(11)

Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001 (O.S. 2001/600) yn darparu bod rhaid i apêl gael ei gwneud heb fod yn hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i ddau fis ddod i ben o'r adeg y mae'r awdurdod yn hysbysu'r rhiant o'r hawl i apelio. O dan baragraff 11(5) o Atodlen 27 i Ddeddf Addysg 1996, ni chaiff awdurdod lleol roi'r gorau i gynnal datganiad os oes rhiant wedi apelio yn erbyn dyfarniad yr awdurdod i roi'r gorau i gynnal datganiad ac nad yw'r tribiwnlys wedi dyfarnu ar yr apêl honno neu nad yw wedi'i thynnu'n ôl.

(12)

1974 p.7.

(13)

1986 p.33; diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, paragraffau 16 i 18 o Atodlen 8.

(14)

1989 p.41; mae diwygiad i adran 87(3) yn yr arfaeth yn sgil Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adran105.

(15)

1996 p.57; diwygiwyd adran 2(8) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 42 ac Atodlen 6, a diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 3 gan Ddeddf Addysg 1997, adran 42 ac Atodlen 6, paragraff 12.