2002 Rhif 1476 (Cy.148)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw sefydliad cig bach; ac

ar i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw sefydliad cig bach

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(b) ac (f) a 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, (ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno);

a chan ei fod wedi'i ddynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724) mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno i'r graddau y maer'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Arifeiliaid) (Mewnforio ac Allforio) 1996 5; ac

Ar ôl ymgynghori yn unol â gofyniad erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewrop sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd6;

yn gwneud y Rheoliadau canlynol: