Search Legislation

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN III —GWERTHUSO ATHRAWON YSGOL HEBLAW PENAETHIAID

Cymhwyso Rhan III

20.  Mae rheoliadau 21 i 33 yn gymwys ar gyfer gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.

Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon ysgol

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 30(8) rhaid i'r pennaeth benodi yn werthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol, athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol neu'r pennaeth.

(2Caiff y pennaeth benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg.

Y cylch gwerthuso

22.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol.

(2Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3) a (4) a rheoliad 23(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.

(3Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Tachwedd 2003 nac yn hwyrach na 31 Hydref 2004.

(4Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw'n ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod a lai na blwyddyn.

(5Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn barhaus.

(6Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto.

Cylch gwerthuso newydd

23.—(1Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd athro neu athrawes ysgol mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(2Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd newydd fel athro neu athrawes ysgol yn yr un ysgol, caiff y pennaeth benderfynu y bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(3Pan fydd cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto o dan baragraff (1) neu (2), caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf yr athro neu'r athrawes ysgol yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.

Cylch gwerthuso cyntaf

24.  Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 30 Ebrill 2003.

Gweithdrefnau gwerthuso

25.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 26 i 30, rhaid i gorff llywodraethu ysgol benderfynu'r gwethdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athrawon ysgol yn yr ysgol.

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion

26.—(1Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys amcanion ynghylch—

(a)datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ysgol; a

(b)cynnydd y disgyblion.

(2Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

(3Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ysgol, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

Adolygu amcanion

27.—(1Caiff amcanion athro neu athrawes ysgol eu hadolygu ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso os yw'r athro neu athrawes ysgol a'r gwerthuswr yn cytuNo.

(2Os yw amcanion athro neu athrawes ysgol yn cael eu hadolygu o dan baragraff (1)—

(a)rhaid diwygio'r datganiad amcanion i ddangos yr adolygiadau y cytunwyd arnynt;

(b)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion athro neu athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac

(c)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.

Monitro cynnydd

28.—(1Mae'n rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 26(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 26(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 26(2).

(2Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'r gwerthuswr yn credu eu bod yn briodol.

(3Mae'n rhaid i'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys gofyniad bod yn rhaid i'r gwerthuswr wrth werthuso athro neu athrawes ysgol arsylwi unwaith o leiaf yn ystod y cylch gwerthuso ar yr athro neu'r athrawes ysgol wrth iddynt addysgu.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, p'un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol oddi wrth unrhyw berson arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ysgol yn cytuno neu bod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso

29.—(1Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gynnal adolygiad gwerthuso, gyda'r bwriad—

(a)o adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol a nodi eu cyraeddiadau ac unrhyw agweddau lle byddai cynnydd pellach yn ddymunol;

(b)o asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion; ac

(c)o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.

(2Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r athro neu'r athrawes ysgol am y dyddiad hwnnw.

(3O leiaf bum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, gyflwyno i'r gwerthuswr—

(a)asesiad yr athro neu'r athrawes ysgol eu hunain o'u perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

(b)manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac

(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu eu bod wedi effeithio ar eu perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;

a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.

(4Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.

(5Gall adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 26 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.

(6Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ysgol cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.

(7Caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu eu sylwadau ysgrifenedig ato, a rhaid i'r sylwadau hynny fod yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.

Apelau

30.—(1Mae gan athro neu athrawes ysgol hawl i apelio yn erbyn eu gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 29(6).

(2Caiff apêl ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.

(3Y pennaeth sy'n gorfod bod yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os y pennaeth yw'r gwerthuswr, cadeirydd y corff llywodraethu sy'n gorfod bod yn swyddog apêl.

(4Os cadeirydd y corff llywodraethu yw'r swyddog apêl, rhaid i gynghorydd allanol roi cymorth iddo neu iddi.

(5Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 31(2)(b), a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan yr athro neu'r athrawes ysgol i ystyriaeth.

(6Caiff y swyddog apêl—

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(7Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c), rhaid i werthuswr newydd gael ei benodi yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

(8Os yw'n ymddangos i swyddog apêl nad oes gwerthuswr newydd priodol y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu athrawes ysgol o dan reoliad 21, rhaid i'r swyddog apêl benodi aelod o gorff llywodraethu'r ysgol yn werthuswr newydd ar gyfer yr athro neu athrawes ysgol.

(9Ni ellir penodi unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i athro neu athrawes ysgol o dan baragraff (8).

(10Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (6)(c).

(11Ni chaiff y swyddog apêl—

(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 26; na

(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu hadolygu.

(12Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).

Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw

31.—(1Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r pennaeth.

(2Rhaid i'r pennaeth drefnu bod y datganiad gwerthuso ar gael os gwneir cais—

(a)i'r gwerthuswr;

(b)i unrhyw swyddog apêl ac unrhyw gynghorydd allanol sy'n rhoi cymorth i'r swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi iddo gopi o'r datganiad amcanion hefyd;

(c)i unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac

(ch)yn achos athro neu athrawes ysgol sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.

(3Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol.

(4Rhaid i'r pennaeth drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ysgol ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.

(5Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ysgol gael ei gadw gan y pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.

Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso

32.—(1Gall gwybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, cyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 31(2)(ch) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

(2Rhaid i weithdrefnau gwerthuso beidio â bod yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo.

Darpariaeth drosiannol

33.  Mae rheoliadau 31 a 32 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources