Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 1RHAN I O'R DATGANIAD CYLLIDEB

Rhaid i Ran 1 o ddatganiad cyllideb (gwybodaeth lefel-ysgol) fod yn y ffurf ganlynol ac yn unol â'r nodiadau. Rhaid cwblhau fersiynau Cymraeg a Saesneg y ffurflen.

NODIADAU I RAN 1

  • Mae'r nodiadau â rhif isod yn cyfeirio at yr eitemau yn y tabl sy'n dwyn y rhif cyfatebol.

1.  Rhowch enwau'r holl ysgolion a gynhelir neu sydd i'w cynnal gan yr AALl yn y flwyddyn ariannol yn y drefn ganlynol—

(a)ysgolion cynradd;

(b)ysgolion uwchradd;

(c)ysgolion arbennig.

2.  Gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch rif cyfeirnod swyddogol yr ysgol honno yng Ngholofn 2.

3.  Yng Ngholofn 3, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y llythyren “C” os yw'r ysgol i gau yn ystod y flwyddyn ariannol a'r llythyren “A” os yw'r ysgol i agor yn ystod y flwyddyn ariannol; fel arall gadewch Golofn 3 yn wag.

4.  Yng Ngholofn 4 rhowch y dyddiad y bwriedir i ysgol o'r fath gau neu agor, yn ôl fel y digwydd; fel arall gadewch Golofn 4 yn wag.

5.  Yng Ngholofn 5, gyferbyn ag enw pob ysgol rhowch—

(a)yn achos ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, y nifer o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol sydd angen ei ddefnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb; neu

(b)yn achos ysgol arbennig, y nifer o leoedd yn yr ysgol a ariennir gan yr AALl ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Yn achos ysgol a fydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, rhaid i'r nifer a benderfynir yn unol ag (a) neu (b) uchod gael ei ostwng i adlewyrchu cyfran y flwyddyn y mae'r ysgol i fod ar agor. Er enghraifft, os disgwylir i ysgol fod ar agor am saith mis o'r flwyddyn ariannol, y nifer o ddisgyblion a ddangosir ddylai fod y nifer o ddisgyblion wedi'i luosi â 7, yna ei rannu â 12.

6.  Yng Ngholofn 6, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch holl gyfran yr ysgol o'r gyllideb. Ar gyfer ysgolion sydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, dylid dangos y gyfran wirioneddol o'r gyllideb a roddir i'r ysgol.

7.  Yn Ngholofn 7, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y gwariant cynlluniedig fesul disgybl yn yr ysgol wedi'i gyfrifo drwy rannu'r swm a roddir yn unol â nodyn 6 â'r nifer o ddisgyblion neu leoedd ar gyfer yr ysgol a roddir yn unol â nodyn 5.

8.  Yng Ngholofn 8, gyferbyn ag enw pob ysgol (heblaw ysgol arbennig), rhowch swm y rhan honno o gyfran yr ysgol o'r gyllideb sy'n deillio o gymhwyso'r fformwla ddyrannu mewn perthynas â'r amcangyfrif o angen yr ysgol i wneud darpariaeth addysgol arbennig.

9.  Yng Ngholofn 9, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch swm yr arian ychwanegol cynlluniedig (gan gynnwys grantiau) y bwriedir eu dyrannu i'r ysgol nad ydyw'n rhan o gyfran yr ysgol o'r gyllideb.

10.  Yn llinell 10 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.

11.  Yn llinell 11 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion uwchradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.

12.  Yn llinell 12 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.

13.  Yn llinell 13 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny yn unol â nodiadau 7 i 12, ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno.

14.  Yn llinell 14 rhowch y swm o'r ISB sydd heb ei ddyrannu i gyfrannau'r ysgolion o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi'r cyfanswm.

15.  Yn llinell 15 rhowch gyfanswm yr arian o'r math y cyfeirir ato yn Nodyn 9 y mae'r AALl yn bwriadu ei ddyrannu i'r ysgol ond nad ydyw'n cael ei ddyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi cyfanswm.

16.  Yn llinell 16 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd yng ngholofn 6 yn unol â Nodyn 13 ac yn y blwch “cyfanswm” yn unol â Nodyn 14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources