Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.

(2Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir i “special educational needs” a “special educational provision” gan adran 312(2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1));

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

  • mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(2);

  • dehonglir “cyfnod allweddol” (“key stage”) yn unol ag adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “datganiad” (“statement”) mewn perthynas â disgybl ag anghenion addysgol arbennig yw datganiad a wneir o dan adran 324(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “ffactor” (“factor”) yw un o'r ffactorau neu'r meini prawf a gymerir i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu;

  • ystyr “fformwla ddyrannu” (“allocation formula”) yw fformwla'r awdurdod o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999 a ddefnyddir i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ysgolion;

  • ystyr “ISB” yw cyllideb ysgolion unigol awdurdod o fewn ystyr adran 46(2) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “perthnasol” (“relevant”) mewn perthynas ag “oedran” (“age”), “grŵ p oedran” (“age group”) a “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw oedran, grŵ p oedran neu grŵ p blwyddyn sy'n cael eu trin ar wahân yn y fformwla ddyrannu at ddibenion penderfynu'r rhan honno o gyfran pob ysgol o'r gyllideb sydd i'w phenderfynu drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(3);

  • ystyr “rhif AALl” (“LEA number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

  • ystyr “rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r ysgol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

  • ystyr “rhif fersiwn” (“version number”) yw rhif sy'n gwahaniaethu ffurflen benodol a gyflwynir gan yr awdurdod oddi wrth fersiynau cynharach o'r ffurflen a gyflwynwyd ganddynt;

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir, sef ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig; ac

  • mae i “ysgol ganol” yr ystyr a roddir i “middle school” gan adran 5(3) o Ddeddf Addysg 1996(4).

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(a)nid yw cyfeiriadau at ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig; a

(b)mae cyfeiriadau at nifer neu niferoedd o ddisgyblion cofrestredig mewn un neu fwy o ysgolion yn gyfeiriadau at y nifer neu'r niferoedd o'r cyfryw ddisgyblion y mae'n ofynnol eu defnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb neu gyfrannau yr ysgolion hynny o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn gan anwybyddu unrhyw bwysoliad yn unol â pharagraff (7) neu unrhyw addasiad o dan baragraff (8) o reoliad 11 o Reoliadau 1999.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999(5).

(2Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny'n parhau yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1999, 1 Ebrill 2000 ac 1 Ebrill 2001.

Ffurf ragnodedig datganiadau cyllideb a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddynt

4.—(1Rhaid paratoi datganiad cyllideb mewn tair rhan.

(2Rhaid cwblhau Rhan 1 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1 a rhaid cynnwys yr wybodaeth, mewn perthynas â gwariant cynlluniedig yr awdurdod ar gyfer pob ysgol am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi, a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno;

(3Rhaid cwblhau Rhan 2 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â fformwla ddyrannu'r awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno; a

(4Gellir cwblhau Rhan 3 yn Gymraeg neu'n Saesneg (neu'r ddwy) a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â chyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn Atodlen 3.

(5Rhaid i faint y ffont a ddefnyddir beidio â bod yn llai na 7pt.

(6Rhaid i'r wybodaeth ganlynol ymddangos ar frig bob Rhan o ddatganiad cyllideb:

(a)Y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi;

(b)Enw'r awdurdod;

(c)Rhif AALl yr awdurdod;

(ch)Y rhif fersiwn neu'r rhif “1” os hon yw'r fersiwn gyntaf; a

(d)Y dyddiad y cafodd y ffurflen ei chwblhau.

(7At ddibenion cwblhau datganiadau cyllideb, mae ysgol ganol i'w thrin fel ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, yn ôl fel y digwydd, yn ôl sut y mae'r ysgol i'w thrin at ddibenion penderfynu ei chyfran o'r gyllideb o dan fformwla ddyrannu'r awdurdod.

(8Os oes person yn cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod, rhaid i'r awdurdod gynnwys gwybodaeth yn Rhannau 1 i 3 o'r datganiad cyllideb fel pe bai gwariant gan y person hwnnw wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn wariant gan yr awdurdod.

Rhagnodi dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb

5.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 6, at ddibenion adran 52(3)(b) o Ddeddf 1998, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei gyhoeddi—

(a)drwy roi dau gopi i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl ym mhob un o swyddfeydd addysg yr awdurdod.

6.—(1Rhaid hefyd roi pob datganiad cyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i unrhyw iaith gyfrifiadurol neu feddalwedd a ddefnyddir i gyflwyno tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.

7.—(1Rhaid cyhoeddi datganiad cyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi.

(2Ni ellir adolygu datganiad cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi heblaw i gywiro gwallau yn y datganiad fel y cyhoeddwyd ef yn flaenorol.

(3Bydd datganiad cyllideb diwygiedig yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5, 6, 7(2) ac 8.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol paratoi fersiwn diwygiedig o'r testun Cymraeg os yw'r gwallau yn y testun Saesneg yn unig a vice versa.

8.  Ar yr un adeg ag y maent yn cyhoeddi datganiad cyllideb yn unol â rheoliadau 5 a 6, rhaid i'r awdurdod roi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt gopi o Rannau 1 a 2 o'r datganiad cyllideb a chopi o'r rhan honno o Ran 3 o'r datganiad cyllideb sy'n berthnasol i'r ysgol o dan sylw, ond os yw'r corff llywodraethu neu'r pennaeth yn gofyn amdano rhaid i'r awdurdod roi iddynt gopi cyflawn o Ran 3 o'r datganiad cyllideb.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

J. E. Randerson

Ysgrifennydd Cynulliad

25 Ionawr 2002

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources