- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
15 Ebrill 2002
Yn dod i rym
16 Ebrill 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 16 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Rhodder, yn lle paragraff (1)(b)—
“(b)plant for—
(i)the recovery, by filtration or heat treatment, of waste oil from electrical equipment,
(ii)the destruction by dechlorination of waste polychlorinated biphenyls or terphenyls (PCBs or PCTs), or
(iii)the collection or storage of a controlled substance from any waste product, installation or equipment;”
(3) Mewnosoder, ar ôl paragraff (1)—
“(1A) For the purposes of paragraph (1)(b)(iii) above, “controlled substance” means any one of the following:
chlorofluorocarbons, other fully halogenated chlorofluorocarbons, halons, carbon tetrachloride, 1,1,1-tetrachloroethane, methyl bromide, hydrobromofluorocarbons, hydrochlorofluorocarbons.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
15 Ebrill 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Erthygl 16 o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2037/2000 ar sylweddau sy'n disbyddu'r haen osôn yn ei gwneud yn ofynnol i adennill sylweddau rheoledig sydd wedi'u defnyddio (fel y'u diffiniwyd yn Erthygl 2 o'r Rheoliad) sydd mewn cyfarpar rheweiddiad gwastraff, neu gyfarpar arall.
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 yn darparu bod rhai mathau o offer yn gallu cael eu trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12, mewn perthynas â Chymru, drwy ychwanegu math o offer ar gyfer casglu a storio sylwedd rheoledig o eitemau sy'n wastraff. Bydd hyn yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd i awdurdodi offer symudol ar gyfer adennill sylweddau sy'n disbyddu osôn o gyfarpar rheweiddiad sy'n wastraff, diffoddiaduron tân ac eitemau eraill.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1994/1056; diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: