Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2002 Rhif 107 (Cy.12)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

22 Ionawr 2002

Yn dod i rym

18 Chwefror 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(3) yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

3.  Ar ddiwedd rheoliad 3 ychwanegir y paragraff canlynol—

(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001 — 2002 cymerir y cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau fel cyfeiriad at 378 o sesiynau.

4.  Ychwanegir y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 4—

5.(1) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2002—2003 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

(2) Ni chaiff paragraff (1) effaith mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol.

(3) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud ag addysgu disgyblion yn yr ysgol sydd yn yr ail gyfnod allweddol neu'r trydydd cyfnod allweddol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Ionawr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.

Diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau 2000 er mwyn lleihau hyd y flwyddyn ysgol 2001—2002 gan un diwrnod, o 380 o sesiynau i 378 o sesiynau, ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal felly. Bydd y rheoliad hwnnw'n caniatáu i'r ysgolion hynny gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod blwyddyn ysgol 2001—2002 mewn perthynas â gŵ yl banc jiwbili aur y Frenhines sy'n digwydd yn ystod wythnos gwyliau hanner tymor, ddydd Llun 3 Mehefin 2002.

Ychwanegir rheoliad 5 newydd i Reoliadau 2000 sydd yn ymestyn y mwyafrif o sesiynau y gellir eu neilltuo yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi gan ddwy sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2002—2003 ar gyfer hyfforddi sydd yn ymwneud ag addysgu plant yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol.

(1)

1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Mae adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio “regulations” i olygu rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources