Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1038 (Cy.110)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'i wneud

am 10.20 ar 10 Ebrill 2002

Yn dod i rym

am 12.00 ar 10 Ebrill 2002

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

2.—(1Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(2) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

(2Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “hunting” ychwanegwch y gair “hare” ar ôl y gair “mink”.

(3Yn erthygl 3—

(a)yn lle is-baragraff 2(b)(xiii) a (xiv) rhowch y paragraff canlynol—

(xiii)of pigs or cattle to an artificial insemination centre;

(xiv)of pigs, sheep, goats, cattle, camelids or deer to a place for veterinary treatment provided (except in the case of pigs) the animals will be isolated from all other animals there whilst the treatment is carried out; or

(xv)of a bull for breeding purposes; or;

(b)yn lle is-baragraffau (3)(i) i (k) rhowch y canlynol—

(i)a camelid which is returning to those premises from a trekking expedition or which is crossing them in the course of such an expedition;

(j)a lamb less than 7 days old in the circumstances described in paragraph (2)(b)(iv) above;

(k)cattle which are being returned to those premises from an artificial insemination centre; or

(l)sheep, goats, cattle, camelids or deer being returned to those premises from a place for veterinary treatment or of any offspring to which they have given birth whilst there provided those animals and such offspring have been isolated from all other animals whilst at that place; ac

(c)ar ddechrau paragraff (5) mewnosodwch y geiriau canlynol—

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

10.20 ar 10 Ebrill 2002

Lord Whitty

Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

9 Ebrill 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (“y prif Orchymyn”) (O.S. 2002/280 (Cy.32)). Daw i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002.

Mae'r diwygiadau canlynol yn cael eu gwneud—

(a)mae'r diffiniad o “hunting” yn erthygl 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at “hare” (erthygl 2(2));

(b)mae symud defaid, geifr, camelidau a cheirw i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, ar yr amod y byddant yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliad eraill tra bônt yno, yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(2)(b) o'r prif Orchymyn, sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur sy'n cael ei gofnodi a'i ddiffinio yn erthygl 3(1)(b) o'r Gorchymyn hwnnw (y “gofyniad cyfnod segur”) (erthygl 2(3)(a));

(c)mae dychwelyd yr anifeiliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) uchod o'r man derbyn triniaeth filfeddygol, ynghyd ag unrhyw epil y gannwyd iddynt yno, (ar yr amod eu bod hwy a'u hepil wedi eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill tra oeddent yno) yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur yn y safle lle tarddodd yr anifeiliaid ohonno (erthygl 2(3)(b));

(ch)mae'r esemptiadau sy'n cyfateb ac sy'n bodoli eisoes yngl 246 yn â'r gofyniad cyfnod segur fel y maent yn gymwys i symud gwartheg i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, neu eu symud oddi yno, yn cael eu diwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gadw gwartheg ar wahân i anifeiliaid eraill tra yno (erthygl 2(3)(a) a (b));

(d)mae'r rhestr o symudiadau a gofnodir yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn cael ei diwygio er mwyn sicrhau na fydd symud camelid ar hirdaith drwy fan yn gwneud y camelid yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y fan honno (erthygl 2(3)(b));

(dd)mae'r gofyniad (yn unol ag erthygl 3(3)(a)(i) a 3(5) o'r prif Orchymyn) i gadw moch ar wahân mewn cyfleusterau i'w cadw ar wahân sydd wedi'u cymderadwyo, pan maent yn dychwelyd o ganolfannau semeniad artiffisial neu fannau y'u symudwyd hwy iddynt er mwyn bridio neu driniaeth filfeddygol, i'r man yr oeddent yn tarddu ohono, os nad yw dychwelyd i fod yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y mannau hynny, yn cael ei ddisodli gan ofyniad i gadw moch ar wahân i bob anifail arall yn y mannau hynny am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd (erthygl 2(3)(c)).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1) am y diffiniadau o “the Ministers” a “the Minister”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141) ac fe'u trosglwyddwyd ymhellach i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).