xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
8 Mawrth 2001
Yn dod i rym
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebril1 2001.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(10), hepgorwch is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 6(2), hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (a) a'r cyfan o is-baragraff (b).
(4) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (1) a'r cyfan o is-baragraff (2).
(5) Ym mharagraff 3 o Atodlen 2, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 o ganlyniad i newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym ym mis Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Rheoliadau hyn i Reoliadau 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.
1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a chan baragraff 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31); ac fe'i diwygir yn rhagolygol ar ddyddiad i'w benodi gan baragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) . I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/573, fel y'i diwygiwyd gan O.S 1997/2709, O.S. 1998/2705 ac O.S. 1999/1497.