2001 Rhif 890 (Cy. 41)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebril1 2001.

Diwygio Rheoliadau2

1

Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 19973 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(10), hepgorwch is-baragraff (c).

3

Yn rheoliad 6(2), hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (a) a'r cyfan o is-baragraff (b).

4

Ym mharagraff 3 o Atodlen 1, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (1) a'r cyfan o is-baragraff (2).

5

Ym mharagraff 3 o Atodlen 2, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984)

D.Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 o ganlyniad i newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym ym mis Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Rheoliadau hyn i Reoliadau 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.