2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, medrau a galluoedd eraill y disgybl a chynnydd y disgybl yn yr ysgol;
ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw —
pennaeth ysgol annibynnol; neu
corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu
y person sy'n gyfrifol am arwain unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu le addysg neu le hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;
ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;
ystyr “sefydliad addysg bellach neu addysg uwch” (“institution of further or higher education”) yw unrhyw sefydliad o fewn is-adran (10) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
1988 p.40 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).