Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, medrau a galluoedd eraill y disgybl a chynnydd y disgybl yn yr ysgol;

  • ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw —

    1. a

      pennaeth ysgol annibynnol; neu

    2. b

      corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu

    3. c

      y person sy'n gyfrifol am arwain unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu le addysg neu le hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;

    ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;

  • ystyr “sefydliad addysg bellach neu addysg uwch” (“institution of further or higher education”) yw unrhyw sefydliad o fewn is-adran (10) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 19883.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.