Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001

Talu'r grantiau a symiau'r grantiau

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant i unrhyw berson cymwys tuag at y gwariant a dynnir wrth dalu'r llogau ar y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys.

(2At ddibenion y Cynllun hwn, benthyciad cymwys yw benthyciad sydd wedi'i gael, neu sydd i'w gael, oddi wrth fanc er mwyn gweithredu cynllun busnes ar gyfer ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch.

(3At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn wariant o natur gyfalaf neu'n wariant a dynnwyd mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad—

(a)sydd wedi'i thynnu neu sydd i'w thynnu at ddibenion rhedeg busnes cynhyrchu moch neu mewn cysylltiad â'i redeg; a

(b)sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn.

(4At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n wariant o natur gyfalaf nac yn wariant wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad cymwys sydd wedi'i thynnu neu sydd i'w thynnu at ddibenion ailstrwythuro, mewn cysylltiad ag ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion ar gyfer ailstrwythuro, drwy'r canlynol—

(a)sefydlu neu ehangu busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cynhyrchu moch;

(b)hybu busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n ymwneud â chynhyrchion cynhyrchu moch; neu

(c)marchnata unrhyw beth sy'n cael ei gynhyrchu neu ei gyflenwi yng nghwrs busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cynhyrchu moch.

(5Os oes benthyciad wedi'i dynnu'n rhannol at ddibenion ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch ac yn rhannol at ddibenion eraill, at ddibenion grant o dan y paragraff hwn caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r benthyciad hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at yr ailstrwythuro hwnnw fel benthyciad cymwys.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant o dan is-baragraff (1) uchod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'n rhesymol iddo eu pennu.

(7Ni chaiff unrhyw grant o dan y Cynllun hwn fod yn fwy na 5% o'r benthyciad cymwys (heb gynnwys y llogau sydd wedi cronni).