Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 8 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (“Deddf 2000”) yn rhoi pŵ er i'r Gweinidog priodol (fel y'i diffinnir yn adrannau 9(1) a 10(1) o Ddeddf 2000) addasu deddfwriaeth er mwyn awdurdodi neu hwyluso defnyddio dulliau cyfathrebu electronig neu ddulliau storio electronig.

Mae adran 10 o Ddeddf 2000 yn nodi o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y mae'r pŵ er yn Adran 8 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adrannau 80A, 87 ac 88 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”) yn cael eu diwygio gan y Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 (gyda rhai eithriadau) yn arferadwy yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd darpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Gan hynny, mae pob cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y diwygiadau i Ddeddf 1989 yn gyfeiriadau i bob pwrpas (yng Nghymru) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r diwygiadau'n cael eu gwneud drwy gymhwyso'r diwygiadau i Ddeddf 1989 sydd wedi'u gwneud gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2000 (OS 2000/3056) at Gymru. Nodir y diwygiadau hynny yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 80A o Ddeddf 1989 er mwyn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig:

  • i hysbysu awdurdod tai lleol o'i benderfyniad terfynol ar faint o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai sy'n daladwy i'r awdurdod am y flwyddyn, neu

  • i gyhoeddi'r penderfyniad ar wefan a hysbysu'r awdurdod ei fod wedi gwneud hynny, ym mha le y gellir dod o hyd i'r penderfyniad a sut y gellir cael gafael arno (os yw wedi cytuno felly gyda'r awdurdod).

Effaith y Gorchymyn hwn hefyd yw diwygio adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, i ganiatàu i'r Cynulliad:

  • defnyddio dulliau cyfathrebu electronig i anfon copi at awdurdod tai lleol o unrhyw ddyfarniad a wneir o dan Ran VI o Ddeddf 1989 (dyfarniad ar faint o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai sy'n daladwy o dan adran 80 o Ddeddf 1989, neu ddyfarniad ar fformwla y dylai credydau a debydau gael eu cyfrifo yn unol â hi o dan Eitem 8 o Ran I ac Eitem 8 o Ran II o Atodlen 4 i Ddeddf 1989).

Mae'r diwygiad hwn hefyd yn caniatàu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyflawni ei rwymedigaeth i anfon copi o ddyfarniad at awdurdod drwy gyhoeddi'r dyfarniad ar wefan a hysbysu'r awdurdod y gellir dod o hyd iddo yno, a sut y gellir cael gafael arno yno (os yw wedi cytuno felly gyda'r awdurdod).

Caiff awdurdod nad yw mwyach yn fodlon derbyn dyfarniad neu benderfyniad drwy ddull electronig hysbysu ei fod yn tynnu ei hysbysiad ynghylch y cyfeiriad y gall gohebiaeth electronig gael ei hanfon ato yn ôl, a'i fod yn diddymu cytundeb y gellir ei hysbysu drwy edrych ar wefan. Daw'r tynnu'n ôl neu'r diddymu i rym ar ddyddiad a bennir gan yr awdurdod sy'n gorfod bod o leiaf fis o'r dyddiad y mae'r awdurdod yn rhoi'r hysbysiad ynghylch y tynnu'n ôl neu'r diddymu.

Yn olaf, effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 88 o Ddeddf 1989 drwy fewnosod diffiniad o ddulliau cyfathrebu electronig a diffiniad o gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources