xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 6
1. Cyfrifir y tir cymwys yn unol â darpariaethau rheoliad 3.
2. Mae dwy gyfradd o daliad arwynebedd:—
(a)£23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a
(b)£35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol.
3. Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un o'r Cynllun Tir Mynydd drwy luosogi'r tir cymwys â'r gyfradd neu'r cyfraddau priodol ar gyfer arwynebeddau'r tir tan anfantais neu'r tir tan anfantais ddifrifol yn ôl fel y digwydd.
1. Cyfrifir y 140 hectar cyntaf o dir cymwys yn ôl y cyfraddau llawn yn unol â Rhan A o'r Atodlen hon.
2. Cyfrifir y taliad ar gyfer tir cymwys sy'n fwy na 140 hectar ond hyd at a chan gynnwys 640 hectar mewn unrhyw ddaliad drwy leihau 35% ar y taliad ar gyfer y tir hwnnw.
3. Pan fydd y tir cymwys mewn unrhyw ddaliad yn fwy na 640 hectar, cyfrifir y taliad ar gyfer tir cymwys sy'n fwy na 640 hectar drwy leihau 70% ar y taliad ar gyfer y tir hwnnw.
1. Fe fydd mecanwaith diogelwch ar gyfer y blynyddoedd cynllun 2001, 2002 a 2003..
2. Yn y flwyddyn 2001, bydd gan y ceisydd hawl i gael swm ychwanegol a fyddai'n codi'r cyfanswm i 90% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA am 2000 wrth ei ychwanegu at y taliad Tir Mynydd.
3. Yn y flwyddyn 2002, bydd gan y ceisydd hawl i gael swm ychwanegol a fyddai'n codi'r cyfanswm i 80% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA am 2000 wrth ei ychwanegu at y taliad Tir Mynydd.
4. Yn y flwyddyn 2003 bydd y ceisydd yn cael y taliad Tir Mynydd ynghyd â 50% o'r gwahaniaeth rhwng y taliad hwnnw a'r swm a gafwyd ar gyfer HLCA yn 2000 os oedd hwnnw'n fwy.
5. Ni fydd mecanwaith diogelwch ar gyfer 2004 a'r blynyddoedd dilynol.
6. Os y bu newid yn yr arwynebedd tir neu'i ddefnydd ers y cais HLCA 2000, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud addasiadau cymesurol i'r cyfrifiadau hyn.