11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os yw'r ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol a rheoliad 10 uchod, fe fydd y swm a fyddai fel arall yn daladwy yn cael ei leihau un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau i'r dyddiad y cafwyd y cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (boed yn ddiwrnodau gwaith neu beidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Mynydd.
(3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure ac i'r graddau y mae'n cael ei gyflwyno felly.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵ yl cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr, nac yn ŵ yl y Banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1)); a
(b)ystyr “force majeure” yw amgylchiadau anarferol ac anrhagweladwy y tu allan i reolaeth y ceisydd na fyddai modd eu hosgoi petai'r ceisydd wedi arfer pob gofal dyladwy.