RHAN IIIGWEINYDDU

Ceisiadau hwyr11

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os yw'r ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol a rheoliad 10 uchod, fe fydd y swm a fyddai fel arall yn daladwy yn cael ei leihau un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau i'r dyddiad y cafwyd y cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (boed yn ddiwrnodau gwaith neu beidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Mynydd.

3

Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure ac i'r graddau y mae'n cael ei gyflwyno felly.

4

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵ yl cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr, nac yn ŵ yl y Banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 197111); a

b

ystyr “force majeure” yw amgylchiadau anarferol ac anrhagweladwy y tu allan i reolaeth y ceisydd na fyddai modd eu hosgoi petai'r ceisydd wedi arfer pob gofal dyladwy.