xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
rheoliad 5(2)(b)(ii) (iv) a (v)
1. Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.
2. Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.
3. Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.
4. Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.
5. Rhaid i'r buddiolwr
(a)cadw nodweddion ffiniau traddodiadol fferm, er enghraifft, perthi a waliau ;
(b)tocio perthi mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn;
(c)cynnal unrhyw ffiniau gwrth-stoc, gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol.
6. Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.
7. Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.
8. Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.
9. Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.
10. Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.