- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 6 a 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth yn unol â'r Rheoliadau hyn—
(a)ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer y parsel organig hwnnw; a
(b)ar gyfer uned organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer parsel organig y mae'r uned organig honno yn ei gynnwys,
ar yr amod, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, fod y buddiolwr wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9, a'i fod wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach mewn perthynas â'r hawliad hwnnw y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.
(2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 9, ac unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu, fod y ceisydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5 mewn perthynas â phob un, rhai neu unrhyw un o'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw (“y parseli organig cymwys”), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 7 ac 8, dderbyn y cais mewn perthynas â'r parsel neu'r parseli organig cymwys a hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig fod y cais wedi'i dderbyn a'i hysbysu ynglŷn ag o ba ddyddiad y daw'r cymorth yn daladwy ar gyfer y parsel neu'r parseli organig cymwys.
(3) Gall cais gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig gan y ceisydd a roddir unrhyw bryd cyn i'r cais gael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i hawliad am daliad cymorth gael ei gyflwyno ar unrhyw bryd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid ei gyflwyno.
(5) Gall taliad cymorth sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i fuddiolwr yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei wneud ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn y mae'r taliad o dan sylw i gael ei wneud ar ei chyfer.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: