- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15.—(1) Rhaid i geisydd ganiatáu i berson awdurdodedig, yng nghwmni unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig hwnnw eu bod yn angenrheidiol i'r perwyl hwnnw, fynd ar unrhyw ran o ddaliad y ceisydd ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos tystiolaeth ynglŷn â'i awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, er mwyn—
(a)archwilio unrhyw dir sy'n rhan o uned organig neu unrhyw ddogfen neu gofnod ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd sy'n ymwneud ag unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn rheoliad 9, neu y gall y person awdurdodedig amau'n rhesymol eu bod yn ymwneud â hi, gyda golwg ar gadarnhau cywirdeb unrhyw fanylion a roddir ynddi, neu mewn perthynas â hi; neu
(b)darganfod a yw'r ceisydd wedi cydymffurfio'n briodol ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd gan y ceisydd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i geisydd roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac yn benodol rhaid iddo—
(a)dangos unrhyw ddogfen neu gofnod y mae angen i'r person awdurdodedig ei archwilio; a
(b)cyd-fynd â'r person awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, wrth wneud archwiliad o unrhyw dir a nodi unrhyw ddarn o dir y mae unrhyw gais neu unrhyw ymrwymiad yn ymwneud ag ef.
(3) Bydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â buddiolwr fel y maent yn gymwys mewn perthynas â cheisydd.
(4) Ac eithrio i'r graddau y mae'n rhesymol ofynnol at ddibenion archwilio dogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ran o'r daliad sy'n cynnwys annedd breifat.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: