xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 424 (Cy.18)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Chwefror 2001

Yn dod i rym

19 Chwefror 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi (1) at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynllun datblygu gwledig a gyflwynwyd ar ffurf drafft yn unol ag Erthygl 41 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(3) ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001, byddant yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 19 Chwefror 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen iddo sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; a

(b)at baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r lythyren honno yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn digwydd ynddo.

(3Rhaid i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) gael eu dehongli yn unol ag Atodlen 1.

Cymorth ar gyfer ffermio organig

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 6 a 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth yn unol â'r Rheoliadau hyn—

(a)ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer y parsel organig hwnnw; a

(b)ar gyfer uned organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer parsel organig y mae'r uned organig honno yn ei gynnwys,

ar yr amod, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, fod y buddiolwr wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9, a'i fod wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach mewn perthynas â'r hawliad hwnnw y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.

(2Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 9, ac unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu, fod y ceisydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5 mewn perthynas â phob un, rhai neu unrhyw un o'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw (“y parseli organig cymwys”), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 7 ac 8, dderbyn y cais mewn perthynas â'r parsel neu'r parseli organig cymwys a hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig fod y cais wedi'i dderbyn a'i hysbysu ynglŷn ag o ba ddyddiad y daw'r cymorth yn daladwy ar gyfer y parsel neu'r parseli organig cymwys.

(3Gall cais gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig gan y ceisydd a roddir unrhyw bryd cyn i'r cais gael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i hawliad am daliad cymorth gael ei gyflwyno ar unrhyw bryd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid ei gyflwyno.

(5Gall taliad cymorth sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i fuddiolwr yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei wneud ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn y mae'r taliad o dan sylw i gael ei wneud ar ei chyfer.

Penderfynu swm y cymorth a'r cyfnodau y mae'r cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer

4.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, pan fydd hawl gan fuddiolwr i gael taliad cymorth, rhaid i'r cymorth gael ei dalu ar gyfer y cyfnodau canlynol—

(a)ar gyfer parsel organig, pum mlynedd—

(i)yn achos y parsel organig cyntaf, gan ddechrau gyda'r dyddiad derbyn; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddechrau gyda phen-blwydd y dyddiad derbyn, sef y pen-blwydd cyntaf o'r fath i ddigwydd yn ystod y cyfnod trosi sy'n ymwneud â'r parsel organig o dan sylw; a

(b)ar gyfer uned organig, tair blynedd gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y cais cyntaf sy'n ymwneud â thir y mae'r uned organig honno yn ei gynnwys.

(2Mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) i'w benderfynu'n unol â Rhan I o Atodlen 1 ac mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) i'w benderfynu yn unol â

Amodau cymhwyster

5.—(1Mae'r amodau cymhwyster y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) fel a ganlyn—

(a)rhaid i'r cais gael ei wneud ar gyfer un hectar o dir o leiaf;

(b)ar ddyddiad ei gais, rhaid i'r ceisydd—

(i)fod yn berchennog neu'n denant ar y tir sy'n destun y cais ac yn meddiannu'r tir hwnnw'n gyfreithlon; a

(ii)beidio â bod wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai drwy gymhwyso cosb yn dilyn Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system gosbau ar gyfer torri ymrwymiadau) neu drwy gymhwyso Erthygl 48(3) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n gwneud datganiad ffug, yn fwriadol neu oherwydd esgeulustod dybryd, gael ei wahardd rhag pob cymorth o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999) ;

(c)rhaid i'r defnydd o unrhyw dir yn unol â'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y cais mewn perthynas ag ef beidio â bod yn un a fyddai'n llesteirio dibenion unrhyw gymorth a roddwyd o'r blaen neu sydd i'w roi allan o arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd neu'r Gymuned Ewropeaidd; ac

(ch)rhaid i'r ceisydd roi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) i gefnogi'r cais.

(2Mae'r ymrwymiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) fel a ganlyn—

(a)cyn hawlio taliad cymorth ar gyfer unrhyw barsel organig, i ddarparu tystysgrif gofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y parsel organig hwnnw;

(b)drwy gydol y cyfnod penodedig—

(i)i gadw tystysgrif gofrestru ar gyfer pob parsel organig yr hawliwyd cymorth amdano;

(ii)i ffermio'r tir sy'n destun y cais, ac unrhyw ran o'r uned organig sy'n cynnwys y tir hwnnw sy'n cael ei ffermio drwy ddulliau ffermio organig ar unrhyw adeg benodol, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2;

(iii)i sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar yr uned organig yn cael eu cadw yn unol â safonau UKROFS; a

(iv)pan fydd y ceisydd ar ddyddiad y cais wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad heblaw'r rhan sy'n destun y cais, i sicrhau bod y rhan arall honno yn cydymffurfio â safonau UKROFS a pharhau i ffermio'n organig ar y rhan arall honno o'r daliad, yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2; ac

(v)i ffermio unrhyw ran o'r daliad nad yw destun paragraff (ii) uchod yn unol a'r safonau a nodir yn Atodlen 2; ac

(c)i gwblhau gwaith trosi pob parsel organig erbyn pumed pen-blwydd y dyddiad y mae'r cyfnod trosi ar gyfer y parsel organig o dan sylw yn dechrau arno.

Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais oni fydd yr amodau canlynol yn cael eu bodloni—

(a)fod yr awdurdod archwilio wedi rhoi tystysgrif cofrestru mewn perthynas a'r parsel organig cyntaf neu wedi cadarnhau i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd tystysgrif yn cael ei roi; a

(b)fod y ceisydd yn gwneud datganiad fod yr awdurdod archwilio wedi cymeradwyo cynllun mewn perthynas a'r uned organig cyfan sydd yn cynnwys y parsel organig y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais gan geisydd sy'n meddiannu'r daliad sy'n destun y cais fel tenant oni bai bod y ceisydd wedi bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod y landlord uniongyrchol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig ynglŷn â'r ffaith fod cais o'r fath wedi'i wneud.

Cyfyngiadau ar dalu cymorth

7.—(1Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod neu leihau cymorth a fyddai'n dyblygu unrhyw gymorth a roddwyd o'r blaen neu sydd i'w roi allan o arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd neu gan y Gymuned Ewropeaidd, ac i'r perwyl hwn cymerir bod cymorth yn gymorth a fyddai'n dyblygu cymorth o'r fath os byddai (os câi ei dalu) yn cael ei dalu at unrhyw un o'r un dibenion ar gyfer unrhyw ran o'r un tir.

(3Rhaid peidio â gwneud unrhyw daliad cymorth ar gyfer parsel organig nes i'r Cynulliad Cenedlaethol gael tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw neu gadarnhâd gan yr awdurdod archwilio y bydd tystysgrif yn cael ei roi.

(4Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer unrhyw barsel organig, nac unrhyw uned organig sy'n cynnwys tir y mae cais yn ymwneud ag ef,—

(a)sy'n hollol organig ar y dyddiad dod i law; neu

(b)sydd wedi bod yn hollol organig ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod a ddechreuodd ar 1 Ionawr 1997 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad derbyn.

(5Ni fydd cymorth yn daladwy o dan Ran I o Atodlen 1 ar gyfer unrhyw barsel organig ar gyfer unrhyw gyfnod sy'n dechrau fwy na phum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth y taliad cymorth cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig hwnnw.

(6Ni fydd cymorth yn daladwy am fwy na 300 hectar o gyfanswm arwynebedd tir cymwys CTATA, cnydau parhaol a thir caeedig ar unrhyw ddaliad sy'n destun cais.

Cyfyngiadau ariannol

8.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar gyfanswm y ceisiadau sydd eisoes wedi'u derbyn neu wedi dod i law, o'r farn ar unrhyw bryd fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol yn annigonol i wneud unrhyw daliad pellach yn ystod y flwyddyn ariannol honno, caiff ohirio ystyried unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond sydd heb gael ei dderbyn eto, neu unrhyw gais a all ddod i law ar ôl dyddiad ei benderfyniad ond cyn dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4), tan y flwyddyn ariannol nesaf.

(2Rhaid peidio â gwneud unrhyw gais rhwng dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4) fod gweithrediad y cynllun wedi'i ohirio yn unol â pharagraff (1), a'r penderfyniad i ail-agor y cynllun yn unol â pharagraff (3) isod.

(3Os yw gweithrediad y cynllun wedi ei ohirio o dan baragraff (1) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bendefynu'r dyddiad yn y flwyddyn ariannol ddilynol y codir y gwaharddiad.

(4Rhaid cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) neu (3) yn y London Gazette.

Ffurf a chynnwys ceisiadau

9.  Rhaid gwneud pob un o'r canlynol, sef—

(a)cais,

(b)hawliad am daliad, ac

(c)ymrwymiad sy'n cael ei roi gan feddiannydd newydd yn unol â rheoliad 12,

yn ysgrifenedig ac ar unrhyw ffurf a chydag unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol.

Y pŵ er i amrywio ymrwymiadau

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'n ysgrifenedig, ar gais y buddiolwr, delerau unrhyw ymrwymiad sy'n cael ei roi gan y buddiolwr o dan reoliadau 5(1)(ch), 12(1)(b) neu 12(6)(ch), a gall unrhyw amrywiad o'r fath fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu'n rhesymol arnynt a gallant fod wedi'u datgan i fod yn gymwys am gyfnod penodedig yn unig.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag amrywio telerau ymrwymiad oni chaiff ei fodloni, o ystyried unrhyw amodau y bwriedir eu hychwanegu at yr amrywiad, na fydd yr amrywiad yn effeithio'n andwyol ar y dibenion y rhoddwyd yr ymrwymiad ar eu cyfer.

Diwygio'r cynllun a gymeradwywyd

11.  Ni fydd unrhyw ddiwygiad i gynllun sy'n cael ei gymeradwyo gan awdurdod archwilio yn cael effaith oni fydd y diwygiad hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod archwilio.

Newid meddiannaeth

12.—(1Pan fydd newid meddiannaeth ar y cyfan neu unrhyw ran o uned organig buddiolwr yn ystod y cyfnod penodedig oherwydd disgyniad yr uned neu'r rhan organig honno ar ôl marwolaeth y buddiolwr neu fel arall—

(a)rhaid i'r buddiolwr (neu, os yw wedi marw, y cynrychiolwyr personol) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod ar ôl newid o'r fath ynglŷn â'r newid meddiannaeth, a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth ynglŷn â'r newid meddiannaeth ar y ffurf ac o fewn y cyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol; a

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, caiff meddiannydd newydd yr uned neu'r rhan organig honno roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gydymffurfio, a hynny'n weithredol o'r dyddiad y daeth y meddiannydd newydd hwnnw i feddiannaeth ar yr uned neu'r rhan organig honno (yn ôl fel y digwydd) ac am weddill y cyfnod penodedig, â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr o dan gais y buddiolwr hwnnw mewn perthynas â'r tir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno, i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â'r tir a drosglwyddwyd i'r meddiannydd newydd.

(2Pan fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pŵ er a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) yn gymwys mewn perthynas ag ystad y buddiolwr, ynglŷn â methiant y buddiolwr â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad oherwydd y farwolaeth honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan na fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) ynglŷn â rhwymedigaethau ad-dalu'r buddiolwr o dan Erthygl 29 o Reoliad y Comisiwn (sy'n llywodraethu trosglwyddo daliadau), neu ynglŷn ag unrhyw fethiant gan y buddiolwr i gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, ac sydd yn y naill achos neu'r llall yn arferadwy o ganlyniad i'r ffaith fod y buddiolwr yn peidio â meddiannu'r uned organig neu'r rhan o'r uned organig (yn ôl fel y digwydd), yn gymwys, ar yr amod —

(a)bod meddiannydd newydd, o fewn tri mis o'r dyddiad y peidiodd y buddiolwr â meddiannu'r tir o dan sylw, yn rhoi ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) mewn perthynas â'r tir hwnnw; a

(b)pan fydd y meddiannydd newydd yn meddiannu rhan yn unig o uned organig y buddiolwr, fod y buddiolwr yn bodloni'r amodau cymhwyster yn rheoliad 5(1)(a), (b) ac (c), fel y byddent yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r uned organig y mae'r buddiolwr yn parhau i'w meddiannu, petai cais wedi'i wneud ganddo mewn perthynas â'r rhan honno.

(4Ni fydd amodau (a) a (b) i baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a drosglwyddwyd os yw'r cyfnod trosi, ar gyfer y cyfan o'r tir a drosglwyddwyd, wedi'i gwblhau a bod yr holl daliadau a oedd yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud.

(5Pan fydd newid meddiannaeth ar ran o'r uned organig, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu i ba raddau y mae'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr yn ymwneud â'r rhan honno, o ystyried—

(a)arwynebedd y tir sydd wedi'i gynnwys yn y rhan honno ac yng ngweddill yr uned organig, a

(b)y defnydd sy'n cael ei wneud ar y rhan honno;

a bydd ymrwymiad sy'n cael ei roi o dan baragraff (1)(b) ar gyfer rhan o'r uned organig yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno i'r graddau y penderfynwyd arnynt.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) oni fydd yn cael ei fodloni—

(a)bod y tir y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef (“y tir perthnasol”) yn ffurfio'r cyfan neu ran o uned organig sy'n cynnwys y cyfan neu ran o ddaliad y meddiannydd newydd neu ddaliad sydd wedi'i freinio yn y meddiannydd newydd hwnnw fel cynrychiolydd personol;

(b)bod y meddiannydd newydd yn meddiannu'r tir perthnasol yn gyfreithlon fel perchennog neu denant neu ei fod yn meddiannu'r tir hwnnw'n gyfreithlon fel cynrychiolydd personol y buddiolwr;

(c)y byddai'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5(1)(a), (b)(ii) ac (ch) yn cael eu bodloni petai'r ymrwymiad yn gais ar gyfer y tir perthnasol y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef; ac

(ch)bod y meddiannydd newydd wedi rhoi'r ymrwymiad a grybwyllir ym mharagraff (7) mewn unrhyw achos lle mae'r meddiannydd newydd, cyn dechrau meddiannu'r uned organig o dan sylw, wedi cyflwyno ffermio organig ar unrhyw ran o'i ddaliad.

(7Mae'r ymrwymiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(ch) yn ymrwymiad y bydd y meddiannydd newydd yn parhau i ffermio'r rhan o'r daliad y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw yn unol â dulliau ffermio organig ar gyfer gweddill y cyfnod penodedig sy'n gymwys mewn perthynas â'r tir yr oedd ymrwymiadau meddiannydd blaenorol yr uned organig o dan sylw yn ymwneud ag ef.

(8Rhaid i feddiannydd newydd, sy'n rhoi ymrwymiad i gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr, ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn unrhyw gyfnod ar ôl y newid meddiannaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo'n rhesymol, unrhyw dystiolaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol ar unrhyw ffurf y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.

(9Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn ymrwymiad gan feddiannydd newydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau buddiolwr—

(a)bernir bod effaith yr ymrwymiad hwnnw yn dechrau ar y dyddiad y dechreuodd y meddiannydd newydd feddiannu'r daliad, neu ran o'r daliad, yn ôl fel y digwydd; a

(b)o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd y meddiannydd blaenorol yn peidio â bod yn fuddiolwr, a bydd yn peidio â chael ei rwymo gan y rhwymedigaethau a dderbyniwyd yn rhinwedd yr ymrwymiad, i'r graddau y maent yn gymwys i'r daliad neu (yn ôl fel y digwydd) i'r rhan honno o'r daliad sy'n cael ei meddiannu gan y meddiannydd newydd.

(10Ni fydd dim ym mharagraff (9)(b) yn effeithio ar atebolrwydd buddiolwr sydd wedi dod i'w ran cyn y dyddiad y bydd yr ymrwymiad a roddir gan y meddiannydd newydd yn effeithiol.

Cymhwyso Rheoliadau blaenorol

13.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, mae Rheoliadau 1994 yn parhau mewn grym mewn perthynas â buddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan y Rheoliadau hynny ar y dyddiad y daw'r Rheolidau hyn i rym.

(2Diddymir Rheoliadau 1999 ac mae darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau hyn yn cymeryd eu lle gyda'r eithriad y bydd y dewis i drosglwyddo o gynllun Rheoliadau 1994 yn dod i ben.

(3Mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fuddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn lle'r darpariaethau cyfatebol yn Rheoliadau 1999.

(4Mae ymrwymiadau a roddwyd (neu y bernir eu bod wedi eu rhoi) o dan Reoliadau 1999 yn gymwys fel petaent wedi eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, ond gydag effaith o'r dyddiad y rhoddwyd hwy yn wreiddiol.

Dyletswydd i gadw cofnodion

14.  Drwy gydol y cyfnod penodedig rhaid i geisydd gadw unrhyw ohebiaeth neu gofnodion eraill ynglŷn ag unrhyw ddogfen a grybwyllir yn rheoliad 9, ac unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â ffermio unrhyw dir yn unol â'i ymrwymiadau o dan y Rheoliadau hyn.

Dyletswydd i ganiatáu mynediad ac archwiliad

15.—(1Rhaid i geisydd ganiatáu i berson awdurdodedig, yng nghwmni unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig hwnnw eu bod yn angenrheidiol i'r perwyl hwnnw, fynd ar unrhyw ran o ddaliad y ceisydd ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos tystiolaeth ynglŷn â'i awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, er mwyn—

(a)archwilio unrhyw dir sy'n rhan o uned organig neu unrhyw ddogfen neu gofnod ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd sy'n ymwneud ag unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn rheoliad 9, neu y gall y person awdurdodedig amau'n rhesymol eu bod yn ymwneud â hi, gyda golwg ar gadarnhau cywirdeb unrhyw fanylion a roddir ynddi, neu mewn perthynas â hi; neu

(b)darganfod a yw'r ceisydd wedi cydymffurfio'n briodol ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd gan y ceisydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i geisydd roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac yn benodol rhaid iddo—

(a)dangos unrhyw ddogfen neu gofnod y mae angen i'r person awdurdodedig ei archwilio; a

(b)cyd-fynd â'r person awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, wrth wneud archwiliad o unrhyw dir a nodi unrhyw ddarn o dir y mae unrhyw gais neu unrhyw ymrwymiad yn ymwneud ag ef.

(3Bydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â buddiolwr fel y maent yn gymwys mewn perthynas â cheisydd.

(4Ac eithrio i'r graddau y mae'n rhesymol ofynnol at ddibenion archwilio dogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ran o'r daliad sy'n cynnwys annedd breifat.

Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd

16.—(1Pan fydd unrhyw berson, gyda golwg ar gael taliad cymorth i'w hun neu i unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i'r person arall mewn perthynas â'r cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth o'r fath sydd eisoes wedi'i dalu i'r person hwnnw neu i'r person arall hwnnw.

(2Pan fydd buddiolwr—

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd, neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn,

(b)yn methu â chaniatáu mynediad ac archwiliad gan berson awdurdodedig heb esgus rhesymol neu â rhoi pob cymorth rhesymol i'r person awdurdodedig hwnnw yn unol â rheoliad 15(2), neu

(c)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn y Rheoliadau hyn,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r buddiolwr hwnnw o dan y cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu a chaiff ei gwneud yn ofynnol hefyd i swm heb fod yn uwch na 10% o'r cymorth a dalwyd neu sy'n daladwy i'r buddiolwr gael ei dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1) neu (2), caiff drin unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad cymorth o dan y Rheoliadau hyn fel hawl sydd wedi'i therfynu.

(4Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â hawl buddiolwr i gael cymorth fel hawl sydd wedi'i therfynu o dan baragraff (3), gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwr, anghymwyso'r buddiolwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o ddyddiad y terfyniad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.

(5Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd a rhoi cyfle i'r buddiolwr ateb yr esboniad yn ysgrifenedig;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr ymddangos gerbron person neu bersonau a benodir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad ganddo; ac

(c)ystyried yr adroddiad gan y person neu bersonau a benodwyd felly a darparu copi o'r adroddiad i'r buddiolwr.

Adennill llog

17.—(1Pan fydd taliad cymorth yn cael ei wneud i fuddiolwr gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i bod yn ofynnol ad-dalu'r cyfan neu ran o'r taliad gyda llog, yn rhinwedd Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill taliadau anghywir gyda llog) bydd y cyfradd llog un pwynt canran uwchlaw y LIBOR fesul dydd.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling tri-mis cyd-fanciau Llundain a gynigir sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn.

(3Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud ag adennill llog yn unol â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBOR sy'n gymwysadwy yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd sy'n gymwysadwy yn y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Adennill taliadau

18.  Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Comisiwn (neu yn rhinwedd camau a gymerir odanynt) i'r graddau y mae'n ymwneud â daliad buddiolwr, bydd y swm yn adennilladwy fel dyled.

Datganiadau ffug

19.  Os bydd unrhyw berson, er mwyn sicrhau unrhyw gymorth iddo'i hun neu i unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug mewn manylyn perthnasol, bydd y person sydd wedi gwneud y datganiad yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

20.  Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 19 a phan brofir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,

bydd ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos yn eu herbyn ac i gael eu cosbi yn unol â hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001

rheoliadau 4(2) a 13

ATODLEN 1CYFRIFO CYMORTH

RHAN IY TALIAD AR GYFER PARSEL ORGANIG

1.  Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£225 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£135 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£50 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£20 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£20 yr hectar

2.  Tir wedi'i amgáu:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£175 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£105 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£40 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£15 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£15 yr hectar

3.  Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£25 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£10 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£5 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£5 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£5 yr hectar

Yn Rhan I o'r Atodlen hon—

RHAN IIY TALIAD AR GYFER YR UNED ORGANIG GYFAN

Yn y flwyddyn gyntaf£300 am bob uned organig
Yn yr ail flwyddyn£200 am bob uned organig
Yn y drydedd flwyddyn£100 am bob uned organig

rheoliad 5(2)(b)(ii) (iv) a (v)

ATODLEN 2Y SAFONAU I'W PARCHU

1.  Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.

2.  Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.

3.  Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.

4.  Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.

5.  Rhaid i'r buddiolwr

(a)cadw nodweddion ffiniau traddodiadol fferm, er enghraifft, perthi a waliau ;

(b)tocio perthi mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn;

(c)cynnal unrhyw ffiniau gwrth-stoc, gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol.

6.  Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.

7.  Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.

8.  Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.

9.  Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.

10.  Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod cymorth yn cael ei dalu i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac i gydymffurfio ag amodau penodol ynglŷn â rheoli'r amgylchedd, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80) (“y Rheoliad Datblygu Gwledig”).

Bu Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 a wnaed o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd cynharach yn darparu gynt ar gyfer cymorth ar gyfer ffermio organig. Caewyd y cynllun o dan Reoliadau 1994 i geiswyr newydd gan Reoliadau Ffermio Organig) Cymru 1999. Darparwyd ynddynt hefyd y gallai'r rhai a oedd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 barhau i wneud hynny neu ddewis i dderbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.

Ni fydd y dewis hwnnw bellach ar gael ac fe fydd y rhai sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 yn parhau i wneud hynny hyd nes y bydd y taliadau yn dod i ben yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hynny.

Fe fydd y Rheoliadau presennol yn cymeryd lle Rheoliadau 1999, ac fe fyddant yn gymwys i'r rhai a fu'n derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.08.1999, t.31) (“Rheoliad y Comisiwn”), sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r Rheoliad Datblygu Gwledig.

Mae'r Rheoliadau—

(a)yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau cymorth, yn ddarostyngedig i amodau penodedig, ac i bennu cyfradd y cymorth (rheoliadau 3 a 4, ac Atodlen 1);

(b)yn pennu yr amodau cymhwyster sydd i'w bodloni gan geiswyr am gymorth (rheoliad 5 ac Atodlen 2), y rhagamodau gweithdrefnol a ffurfiol penodol ar gyfer derbyn ceisiadau am gymorth (rheoliadau 6 a 9), y cyfyngiadau penodol ar dalu cymorth (rheoliad 7); ac

(c) yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag ystyried ceisiadau am gymorth os bydd yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau yn annigonol (rheoliad 8);

(ch)yn darparu ar gyfer amrywio'r ymrwymiadau sy'n cael eu rhoi gan geiswyr am gymorth ac ar gyfer diwygiadau i gynlluniau trosi (rheoliadau 10 ac 11);

(d)yn darparu ar gyfer talu cymorth i feddiannydd newydd pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth uned organig neu ran o uned organig oherwydd marwolaeth buddiolwr neu fel arall (rheoliad 12);

(dd)yn dod i ben a gallu buddiolwyr o dan Reoliadau 1994 i wneud cais i gael eu trin fel rhai y mae hawl ganddynt i gael cymorth o dan y Rheoliadau 1999; ac yn cymhwyso'r Rheoliadau presennol i'r rhai sydd eisioes yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 (rheoliad 13);

(e)yn gorfodi dyletswyddau ynglŷn â chadw cofnodion ac yn rhoi pwerau mynediad ac archwilio (rheoliadau 14 a 15);

(f)yn darparu ar gyfer gwrthod neu adennill cymorth ac adennill llog (rheoliadau 16, 17 a 18);

(ff)darparu ar gyfer tramgwydd gwneud datganiad yn ffug, a darparu mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath sy'n cael ei gyflawni gan gorfforaeth (rheoliadau 19 ac 20).

Mae'r safonau UKROFS (y Cyfeirir atynt yn rheoliadau 2(1) a 5(2)) yn cael eu cyhoeddi gan Swyddfa Ysgrifennydd UKROFS, Ystafell G47, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR ac mae copïau ar gael oddi wrthynt.

Ceir archwilio copïau o Fap Rhostiroedd Cymru 1992 yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd;

Adeiladau'r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon;

Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin; ac

Adeiladau'r Llywodraeth, Spa Road East, Llandrindod.

Mae copïau o'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da er diogelu Pridd, Aer, Dŵ r ac ar gyfer Plaleiddiaid (y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 2) ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pwer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(3)

OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80.

(4)

O.S. 1992/2111; a ddiwygwyd gan O.S. 1994/2286.

(5)

OJ Rhif L198, 22.7.1991, t.1.

(6)

OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.

(7)

O.S. 1994/1721; a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3109 ac O.S. 1998/1606.

(10)

1995 p.8.

(11)

1998 p.38.

(12)

O.S. 1996/3142, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2969