xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 4048 (Cy.339)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

20 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

7 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud yn Rheoliadau canlynol—

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 7 Ionawr 2002.

Diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001

2.—(1Diwygir Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001(3) yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn—

(a)ar ôl diffiniad “milfeddyg” rhoddir y diffiniad canlynol—

(b)diddymir diffiniad “Penderfyniadau'r Comisiwn”;

(c)yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy” rhoddir y diffiniad canlynol—

(ch)yn niffiniad “safle”, ar ôl y geiriau “i'r cyhoedd,” mewnosodir y geiriau canlynol—

gan gynnwys unrhyw le y gall carcasau anifeiliaid buchol neu rannau o garcasau o'r fath gael eu cadw.

(3Yn lle paragraff (2) o reoliad 2 rhoddir y paragraff canlynol—

(2) Mae i'r ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sydd i'w gweld yn Rheoliadau'r Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y maent i'w gweld ynddo..

(4Yn rheoliad 3—

(a)yn lle'r pennawd rhoddir y canlynol—

Gofynion sy'n ymwneud ag anifeiliaid buchol dros 24 mis oed;

(b)ym mharagraff (1) a pharagraff (4) diddymir yr ymadrodd “neu garcas anifail o'r fath,”;

(c)yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff canlynol—

(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg neu berson arall sydd, yng nghwrs ei ddyletswyddau yn archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail buchol hysbysadwy, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn cael ei archwilio neu ei arolygu, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.

(5Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael eu meddiannu fel annedd breifat)”.

(6Ym mharagraff (2) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat)”.

(7Yn is-baragraff 4(f) o reoliad 4 yn lle'r geiriau “Phenderfyniadau'r Comisiwn” rhoddir y geiriau “Rheoliad y Comisiwn”.

Diwygio'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg

3.—(1Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(7) drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “notifiable bovine animal”—

(2Diwygir Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(8) drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy”—

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).

Mae'r diwygiadau'n rhoi eu heffaith i'r rhwymedigaethau a geir yn erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001 (OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12) sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) ynghylch arolygu epidemiolegol a phrofi enseffalopathïau sbyngffurf buchol.

Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod categorïau penodol o anifeiliaid buchol dros 24 mis oed yn cael eu harchwilio yn unol â'r isafswm gofynion sydd wedi'i bennu ar gyfer monitro BSE. Mae diffiniad “anifail buchol hysbysadwy” wedi'i ddiwygio yn sgil hyn er mwyn adlewyrchu'r newid yn oedran yr anifeiliaid y mae'r rhwymedigaeth yn gymwys iddynt.

Mae diwygiad yn cael ei wneud hefyd i baragraffau (1) a (4) o reoliad 3 i ddileu'r ymadrodd diangen “neu garcas anifail o'r fath,” ac mae paragraff (2) wedi'i amnewid yn sgil hynny. Mae rheoliad 4 a'r diffiniad o “safle” wedi'u diwygio er mwyn rhoi pwer i arolygwyr fynd i bob safle lle mae carcasau anifeiliaid neu rannau o garcasau o'r fath yn cael eu cadw.

O ganlyniad i'r diffiniad o “anifail buchol hysbysadwy” mae diwygiadau'n cael eu gwneud i Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac O.S. 2001/2360) (Cy. 197) a Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).

(4)

OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12.

(5)

OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1.

(6)

OJ Rhif L99, 20.4.1996, t.14.