2001 Rhif 4048 (Cy.339)
Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Teitl, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 7 Ionawr 2002.
Diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 20012
1
Diwygir Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 20013 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
2
Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn—
a
ar ôl diffiniad “milfeddyg” rhoddir y diffiniad canlynol—
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/20014) sy'n diwygio Atodiadau III, X ac XI i Reoliad (EC) Rhif 999/20015 ynghylch arolygu epidemiolegol a phrofi enseffalopathïau sbyngffurf buchol;
b
diddymir diffiniad “Penderfyniadau'r Comisiwn”;
c
yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy” rhoddir y diffiniad canlynol—
ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“a notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 24 mis oed sydd wedi marw neu sydd wedi'i ladd ond na chafodd—
- a
ei ladd er mwyn ei ddifa yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/19966;
- b
ei ladd yn fframwaith epidemic megis clwy'r traed a'r genau; neu
- c
ei gigydda i bobl ei fwyta;
ch
yn niffiniad “safle”, ar ôl y geiriau “i'r cyhoedd,” mewnosodir y geiriau canlynol—
gan gynnwys unrhyw le y gall carcasau anifeiliaid buchol neu rannau o garcasau o'r fath gael eu cadw
3
Yn lle paragraff (2) o reoliad 2 rhoddir y paragraff canlynol—
2
Mae i'r ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sydd i'w gweld yn Rheoliadau'r Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y maent i'w gweld ynddo.
4
Yn rheoliad 3—
a
yn lle'r pennawd rhoddir y canlynol—
Gofynion sy'n ymwneud ag anifeiliaid buchol dros 24 mis oed
b
ym mharagraff (1) a pharagraff (4) diddymir yr ymadrodd “neu garcas anifail o'r fath,”;
c
yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff canlynol—
2
Rhaid i unrhyw filfeddyg neu berson arall sydd, yng nghwrs ei ddyletswyddau yn archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail buchol hysbysadwy, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn cael ei archwilio neu ei arolygu, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.
5
Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael eu meddiannu fel annedd breifat)”.
6
Ym mharagraff (2) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat)”.
7
Yn is-baragraff 4(f) o reoliad 4 yn lle'r geiriau “Phenderfyniadau'r Comisiwn” rhoddir y geiriau “Rheoliad y Comisiwn”.
Diwygio'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg3
1
Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg 19987 drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “notifiable bovine animal”—
“notifiable bovine animal” means a bovine animal over 24 months of age which has died or has been killed but which was not—
- a
killed for destruction pursuant to Commission Regulation (EC) No. 716/1996;
- b
killed in the framework of an epidemic such as foot and mouth disease; or
- c
slaughtered for human consumption;
2
Diwygir Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 20008 drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy”—
ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 24 mis oed sydd wedi marw neu sydd wedi'i ladd ond na chafodd—
- a
ei ladd er mwyn ei ddifa yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/1996;
- b
ei ladd yn fframwaith epidemig megis clwy'r traed a'r genau; neu
- c
ei gigydda i bobl ei fwyta;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)