- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Yn y Ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(1):
(a)ar ôl cwestiwn 4.34A mewnosodwch:
“4.34B Rhowch fanylion unrhyw daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu neu fanylion unrhyw daliad sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu gan berson arall neu o ystad person arall ac sydd wedi'i dalu o daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD a gafodd y person arall hwnnw. Nodyn 50E”;
(b)ar ôl nodyn 50D mewnosodwch:
“50E Taliad o'r ymddiriedolaeth vCJD yw taliad sy'n cael ei dalu, o ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu gan yr Adran Iechyd, i'r rhai a gafodd amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob (vCJD) a'u teuluoedd agos.
Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr “teulu” yw:
pâr priod neu bâr dibriod;
pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc;
person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.
Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.
Mae taliad sydd wedi'i dalu i riant dioddefwr vCJD, ni waeth beth fo oedran y dioddefwr, neu i berson sydd neu a oedd yn gweithredu yn lle rhiant i blentyn dibynnol sy'n ddioddefwr, yn cael ei anwybyddu am 2 flynedd o'r dyddiad y cafodd y taliad ei dalu iddynt.
Mae taliadau sydd wedi'u talu i blant neu bersonau ifanc dibynnol yn cael eu hanwybyddu drwy gydol y cyfnod o ddyddiad y taliad tan y diwrnod cyn iddynt ymadael ag addysg amser-llawn neu'r diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed neu am 2 flynedd o ddyddiad y taliad, p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.”
O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy. 55), 2000/1710 (Cy. 116) a 2001/2072 (Cy. 144).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: