Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3901 (Cy.319)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

4 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2001

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Disgrifiad o brofion a thasgau

3.  Mae'r profion a'r tasgau y caiff ACCAC eu datblygu, eu gosod neu eu rhoi yn brofion a thasgau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn rhan o'r asesiad o gymhwysedd y rhai y mae'r profion neu'r tasgau yn cael eu rhoi iddynt yn y canlynol—

(a)medrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd; a

(b)medrau allweddol cyfathrebu, cymhwyso rhif a thechnoleg gwybodaeth.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad

4 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 24(2)(gg) o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i cymhwysir at Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan Orchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001) mae gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“ACCAC”) y swyddogaeth o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod neu roi profion sydd i'w sefyll neu dasgau sydd i'w gwneud gyda golwg ar ennill cymwysterau allanol ac sy'n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disgrifio'r profion a'r tasgau y caiff ACCAC eu datblygu, eu gosod neu eu rhoi.

Mae'r rhain yn brofion a thasgau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn rhan o'r asesiad o gymhwysedd ym medrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd ac ym medrau allweddol cyfathrebu, cymhwyso rhif a thechnoleg gwybodaeth.

(1)

1997 p.44. Mewnosodwyd paragraff newydd (gg) sy'n estyn pwerau'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn is-adran (2) o adran 24 o'r Ddeddf honno gan is-adran (2) o adran 103 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) (“Deddf 2000”). Diwygiwyd adran 30(2) o Ddeddf 1997 gan adran 103(3) o Ddeddf 2000 i gynnwys cyfeiriad at yr adran 24(2)(gg) newydd yn Neddf 1997, gan ymestyn drwy hynny bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi swyddogaethau'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Gweler hefyd Orchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 (O.S. 3907/320) sy'n rhoi i ACCAC y swyddogaeth a gynhwysir yn adran 24(2)(gg). I gael ystyr “prescribed” yn adran 24(2)(gg) gweler adran 56(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 150 o Ddeddf 2000.

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.