2001 Rhif 3811 (Cy.316)
Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “y Cynghorau Cyfansoddol” (“the Constituent Councils”) yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 2;
ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992 3;
ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 4; ac
ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf.
Cymhwyso3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2001.
Ardollau a amnewidiwyd4
1
Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:
a
ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 8 Chwefror 2001 (yr hen ardollau); a
b
ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2001;
erbyn 14 Chwefror 2002 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.
2
Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)