Terfynau Grant
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd talu'r Grant Gwella Ffermydd o dan reoliad 4 yn cael ei gyfyngu i swm o £16,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant.
(2) Pan fo busnes fferm cymwys yn gymwys i dderbyn grant ychwanegol o dan reoliad 5, £20,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant fydd terfyn y grant a bennir ym mharagraff (1).
(3) Caiff cyfanswm cronnol y grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 a 4 ei gyfyngu i swm o £75,000 i bob busnes fferm fesul pob cylch grant.