- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd- destun yn mynnu fel arall —
ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person neu bersonau sydd wedi cael cymorth ariannol;
ystyr “busnes perthnasol” (“relevant business”) yw busnes fferm cymwys:
ag unig berchennog sy'n ffermwr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes, neu
heb fwy na 4 partner neu gyfranddeiliad, y mae o leiaf un ohonynt yn ffermwr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes, neu
â 5 neu fwy o bartneriaid neu gyfranddeiliaid, y mae o leiaf dau ohonynt yn ffermwyr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes;
ystyr “busnes fferm” (“farming business”) yw busnes gyda rhif Daliad Plwyf Sir a gofrestrwyd yn ei enw ac sy'n cynnal gweithgareddau amaethyddol ar y daliad hwnnw am o leiaf 550 awr y flwyddyn;
ystyr “busnes fferm cymwys” (“eligible farming business”) yw busnes fferm neu grŵ p o fusnesau fferm sydd wedi bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi cwblhau Cynllun Datblygu Busnes Fferm neu Adolygiad o Opsiynau Busnes Fferm a'u bod ym mhob manylyn o bwys yn bodloni'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i dderbyn grant fel y'u cyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “y CDGC” (“the RDPW”) yw Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000—2006 a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Hydref 2000 y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliadau hyn, ac ystyr “y rhan berthnasol o'r CDGC” (“the relevant part of the RDPW”) yw'r rhan honno o'r CDGC sy'n ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 a 33 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;
ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian y trefnir ei fod ar gael gan —
corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig; neu
y Cymunedau Ewropeaidd;
mae i “cyfathrebu electronig” (“electronic communication”) yr un ystyr ag sydd i “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);
ystyr “cylch grantiau” (“grant cycle”) yw, ynghylch unrhyw fusnes fferm cymwys, —
y cyfnod o 24 mis yn cychwyn ar y dyddiad y cymeradwywyd y prosiect gyntaf gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymorth ariannol, a
unrhyw gyfnod pellach o 24 mis yn dilyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (a);
ystyr “cymorth ariannol” (“financial support”) yw swm sy'n cael ei dalu o dan y Rheoliadau hyn neu sy'n daladwy odanynt;
ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community support”) yw cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais am grant o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw'r offerynnau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 a 33 o Reoliad y Cyngor 1257/1999/EC;
ystyr “y DRS” (“the SPD”) yw'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol y Gymuned o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
ystyr “ffermwr ifanc” (“young farmer”) yw ffermwr sy'n 18 oed neu'n hŷn nad ydyw hyd yma wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 40 ar y diwrnod perthnasol ac a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn cael budd uniongyrchol o'r gweithrediad a fydd yn derbyn cymorth trwy gyfrwng grant o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”), mewn perthynas ag unrhyw weithrediad, yw gwariant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo ar gyfer derbyn cymorth ariannol, a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn unol â hynny;
ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw buddsoddiad neu brosiect;
ystyr “person a awdurdodwyd” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol naill ai'n gyffredinol neu'n benodol i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn sy'n mynd gyda pherson a awdurdodwyd;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999(2) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000(3);
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF)(4); ac
ystyr “ymrwymiad” (“commitment”) yw unrhyw rwymedigaeth a osodir ar fuddiolwr, o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a/neu'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd.
(2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir mewn ysgrifen neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig sydd wedi'i gofnodi ac a all gael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud.
OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.
OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46.
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: