Rhan IITREFNIADAU RHWNG GWEITHREDWYR AC AWDURDODAU

Llunio trefniadau ad-dalu4

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 8, ac i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r trefniadau ad-dalu a fabwysiedir gan awdurdod cael eu llunio fel bod costau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn cael eu talu drwy'r taliadau a wneir gan yr awdurdod i'r gweithredwyr yn unol ag adran 149(1) o'r Ddeddf.

2

Ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gostau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn gyfeiriad at gyfanswm y canlynol —

a

y refeniw, drwy gyfrwng prisiau tocynnau, y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi mynd hebddynt neu yn amcangyfrif y bydd yn mynd hebddynt yn sgîl darparu'r consesiynau teithio gorfodol o dan sylw, llai unrhyw refeniw ychwanegol o brisiau tocynnau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i gael neu y bydd yn ei gael am fod y consesiynau hynny ar gael; a

b

unrhyw gostau sy'n ychwanegol at y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi gorfod eu tynnu neu y bydd yn gorfod eu tynnu mewn cysylltiad â darparu consesiynau teithio gorfodol, llai unrhyw ostyngiad yn y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i sicrhau neu y bydd yn ei sicrhau am fod y consesiynau hynny ar gael.