Search Legislation

Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3764 (Cy.312)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

22 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 149(3) a 150(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1) (“y Ddeddf”) a phob pŵer galluogi arall, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Rhan ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod consesiynau teithio fel y'i dehonglir yn unol ag adran 146 o'r Ddeddf;

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais y mae rheoliadau 21 i 32 yn gymwys iddynt;

  • ystyr “consesiynau teithio gorfodol” (“mandatory travel concessions”) yw consesiynau teithio sy'n cael eu darparu neu sydd i'w darparu o dan adran 145(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “costau gweithredu sylfaenol” (“basic operating costs”) yw'r costau y byddai'r gweithredydd yn eu tynnu wrth ddarparu gwasanaeth pe na bai'r consesiynau'n cael eu darparu ar y gwasanaeth hwnnw;

  • ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw'r cyfnod y mae taliad ad-dalu yn ymwneud ag ef;

  • ystyr “diwrnod talu” (“payment day”) yw unrhyw ddiwrnod pryd y mae ad-daliad i fod i gael ei wneud;

  • ystyr “dull safonol” (“standard method”) yw'r dull ar gyfer cyfrifo swm y taliadau ad-dalu sy'n ddyledus i weithredwyr sy'n darparu consesiynau teithio gorfodol a fabwysiedir gan awdurdod yn unol â rheoliad 6(1);

  • dehonglir “gwasanaethau cymwys” (“eligible services”) yn unol ag adran 146 o'r Ddeddf;

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd sy'n darparu consesiynau teithio gorfodol ac mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n ddarpar weithredydd o'r fath;

  • ystyr “gwerth tocynnau teithio” (“fares value”), mewn perthynas â siwrneiau, yw'r cyfanswm a fyddai wedi'i dalu am y tocynnau teithio pe na bai consesiynau wedi'u darparu;

  • ystyr “taliad ad-dalu” (“reimbursement payment”) yw unrhyw daliad sydd i'w wneud yn unol ag adran 149(1) o'r Ddeddf;

  • mae “trefniadau ad-dalu” (“reimbursement arrangements”) yn cynnwys amodau hawl gweithredwyr i gael ad-daliadau o dan adran 149(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â chonsesiynau teithio gorfodol, a dull penderfynu a thalu'r rheiny.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y rhoddir hysbysiad, mewn perthynas â hysbysiadau a anfonir drwy'r post, yn gyfeiriadau at y dyddiad y bernir bod yr hysbysiad wedi dod i law yn y cyfeiriad yr anfonwyd ef iddo, yn unol â rheoliad 22(2).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac eithrio lle darperir fel arall.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir gan awdurdod mewn perthynas ag ad-daliadau yn gyfeiriad at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir drwy gyfrwng y dull ymarferol gorau sydd ar gael i'r awdurdod.

Rhan IITREFNIADAU RHWNG GWEITHREDWYR AC AWDURDODAU

Yr amcan cyffredinol mewn perthynas â phob gweithredydd

3.  Un o amcanion (ond nid un o ddyletswyddau) awdurdod wrth lunio trefniadau ad-dalu fydd darparu nad yw gweithredwyr, fel unigolion na chyda'i gilydd, yn well nac yn waeth eu byd yn sgîl y consesiynau teithio gorfodol a ddarperir ganddynt.

Llunio trefniadau ad-dalu

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 8, ac i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r trefniadau ad-dalu a fabwysiedir gan awdurdod cael eu llunio fel bod costau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn cael eu talu drwy'r taliadau a wneir gan yr awdurdod i'r gweithredwyr yn unol ag adran 149(1) o'r Ddeddf.

(2Ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gostau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn gyfeiriad at gyfanswm y canlynol —

(a)y refeniw, drwy gyfrwng prisiau tocynnau, y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi mynd hebddynt neu yn amcangyfrif y bydd yn mynd hebddynt yn sgîl darparu'r consesiynau teithio gorfodol o dan sylw, llai unrhyw refeniw ychwanegol o brisiau tocynnau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i gael neu y bydd yn ei gael am fod y consesiynau hynny ar gael; a

(b)unrhyw gostau sy'n ychwanegol at y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi gorfod eu tynnu neu y bydd yn gorfod eu tynnu mewn cysylltiad â darparu consesiynau teithio gorfodol, llai unrhyw ostyngiad yn y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i sicrhau neu y bydd yn ei sicrhau am fod y consesiynau hynny ar gael.

Dull gwneud taliadau ad-dalu

5.—(1Pennir y cyfnodau talu a'r diwrnodau talu yn y trefniadau ad-dalu ac —

(a)rhaid i'r cyfnodau talu beidio â bod yn hirach na thri mis, neu mewn perthynas â gweithredydd neu, weithredwyr arbennig, y cyfryw gyfnod byrrach a gaiff ei gytuno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a'r gweithredydd hwnnw neu'r gweithredwyr hynny; a

(b)mewn perthynas â phob cyfnod talu, rhaid i'r diwrnod talu beidio â bod yn hwyrach na'r diwrnod sydd hanner ffordd rhwng diwrnod cyntaf a diwrnod olaf y cyfnod talu neu, mewn perthynas â gweithredydd neu weithredwyr arbennig, y cyfryw ddiwrnod ac a gaiff ei gytuno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a'r gweithredydd hwnnw neu'r gweithredwyr hynny (ac, wrth ddarganfod y diwrnod talu, rhaid peidio â rhoi sylw i hanner diwrnodau).

(2Rhaid i bob taliad ad-dalu beidio â bod yn llai nag 85% o'r swm y mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod yn ddyledus i'r gweithredydd mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid i falans pob taliad ad-dalu gael ei dalu, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y dangosir eu bod yn angenrheidiol yng ngoleuni'r wybodaeth sydd ar gael i'r awdurdod yn unol â'r trefniadau sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith, heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl diwrnod y cyfnod talu perthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, os na chaiff unrhyw falans a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn ei dalu yn unol â'r paragraff hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod dalu llog syml (yn ôl cyfradd o 1% ar ben y cyfradd sylfaenol) ar y swm sydd heb ei dalu am y tro am y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad olaf pryd y dylai'r balans fod wedi'i dalu yn unol â pharagraff (3) ac yn diweddu â dyddiad y taliad ei hun.

(5At ddibenion paragraff (4) o'r rheoliad hwn:

(a)ystyr “cyfradd sylfaenol” (“base rate”) yw'r gyfradd sylfaenol a osodir gan y banciau cyfeiriol ac sy'n cael effaith trwy gydol y cyfnod a ragnodir yn y paragraff hwnnw neu, os oes mwy nag un cyfradd sylfaenol yn cael effaith yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfartaledd y cyfraddau hynny;

(b)os osodir cyfraddau sylfaenol gwahanol gan fanciau cyfeiriol gwhanol mewn perthynas â diwrnod arbennig, y gyfradd sylfaenol ar y diwrnod hwnnw at ddibenion is-baragraff (a) yw'r gyfradd sydd, pan restrir y cyfraddau a osodir gan pob banc cyfeiriol mewn dilyniant disgynnol o saith, yn bedwaredd yn y dilyniant;

(c)at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “banciau cyfeiriol” (“reference banks”), mewn perthynas â diwrnod arbennig, yw'r saith sefydliad mwyaf (trwy gyfeirio at werth eu hasedau) a awdurdodwyd o dan Ddeddf Bancio 1987 neu unrhyw ail-gyflawni deddfwriaethol o'r Ddeddf honno ac sydd wedi'i ymgorffori ac yn cynnal busnes derbyn adneuon yn y Deyrnas Gyfunol ac sydd yn gosod cyfradd sylfaenol.

(6Ni fydd llog yn daladwy nes bod yr hawl i gael consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145(1) o'r Ddeddf wedi bod mewn grym am chwe mis nac mewn perthynas ag unrhyw gyfnod sy'n syrthio yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl i'r hawl honno ddod i rym.

(7Os yw swm unrhyw daliad ad-dalu a wneir yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu yn fwy na chyfanswm y taliad y ceir ei fod yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod hysbysu'r gweithredydd yn unol â hynny yn ysgrifenedig ac wedi hynny caiff yr awdurdod dynnu swm y gormodedd oddi ar y taliadau ad-dalu sy'n ddyledus i'r gweithredydd hwnnw mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu dilynol.

(8Os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7) o'r rheoliad hwn yn codi mewn perthynas â pherson nad yw'n weithredydd mwyach, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r person hwnnw yn unol â hynny ac, oni bai bod y person hwnnw'n dadlau yn erbyn bodolaeth neu swm y gormodedd, rhaid i'r person hwnnw dalu swm y gormodedd i'r awdurdod o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y daw'r hysbysiad i law.

(9Gall darpariaeth gael ei gwneud ar gyfer gwneud unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn heblaw yn unol â'r rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae gweithredydd yn methu â rhoi gwybodaeth yn unol â'r trefniadau ad-dalu sy'n rhoi eu heffaith i'r Rheoliadau hyn —

(a)yn achos taliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraff (2), mewn digon o bryd i ganiatáu i'r awdurdod ffurfio amcangyfrif rhesymol o swm y taliad; neu

(b)yn achos taliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraff (3), mewn digon o bryd i ganiatáu i'r awdurdod gyfrifo swm y taliad.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid gwneud darpariaeth i unrhyw daliad ad-dalu neu i unrhyw ran o daliad o'r fath sy'n ddyledus i weithredydd yn unol â chonsesiynau gorfodol a ddarparwyd yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis yn dechrau ar ddyddiad a bennir yn y trefniadau ond sydd heb gael ei dalu i gael ei dalu heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Dull safonol ar gyfer darganfod nifer y siwrneiau, a gwerth y tocynnau ar eu cyfer

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, mewn perthynas â phob cynllun, rhaid i'r awdurdod fabwysiadu dull safonol i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i reoliad (4), i benderfynu —

(a)cyfanswm y siwrneiau a wnaed gan bersonau â hawl i gael consesiynau teithio gorfodol ar wasanaethau gweithredwyr; a

(b)gwerth y tocynnau teithio sydd i'w briodoli i'r siwrneiau hynny.

(2Rhaid i'r dull safonol ddarparu i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw ddata sy'n dangos bod dull creu'r data hwnnw yn gywirach na'r dull safonol.

(3Os nad yw'r dull safonol yn darparu ar gyfer cofnodi pob siwrnai a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y dull hwnnw ddarparu ar gyfer —

(a)cyfrifo ffigurau ar gyfer cyfanswm y siwrneiau hynny a gwerth tocynnau teithio y siwrneiau hynny drwy unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn rhesymol; a

(b)os oes angen hynny, dyrannu'r nifer hwnnw a'r gwerth tocynnau teithio hwnnw rhwng pob gweithredydd y mae ad-daliadau i'w gwneud iddynt gan yr awdurdod o dan adran 149(1) o'r Ddeddf.

(4Os yw symiau'r taliadau ad-dalu'n cael eu hamcangyfrif neu eu cyfrifo heblaw drwy gyfeirio at ddull safonol sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r holl siwrneiau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r amcangyfrifon neu'r cyfrifiadau (ond nid y dull safonol) gael eu haddasu os dangosir bod yr wybodaeth y cawsant eu seilio arni yn anghywir mewn unrhyw ffordd berthnasol.

(5Caiff awdurdod neu weithredydd y mae ganddynt reswm dros gredu bod y dull safonol a ddefnyddir ganddynt yn amhriodol mewn perthynas ag unrhyw weithredydd penodol, ar eu cost a'u traul eu hunain, wneud darpariaeth ar gyfer cyfrifiad cywirach o gyfanswm a gwerth tocynnau teithio siwrneiau mewn perthynas â'r gweithredydd hwnnw.

(6Os bernir gan awdurdod y byddai cymhwyso'r dull safonol, oherwydd natur neu faint y gwasanaethau y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt gan weithredydd neu weithredwyr arbennig, yn gosod baich gweinyddol neu ariannol afresymol ar y cyfryw weithredydd neu weithredwyr, gall y trefniadau ad-dalu sy'n perthyn iddynt gynnwys esemtiad o'r dull safonol mewn unrhyw achos lle bo'r awdurdod a'r gweithredydd yn cytuno felly ac os bydd pob un o'r amodau canlynol wedi'i fodloni —

(a)bod yr awdurdod wedi sefydlu ac wedi cyhoeddi meini prawf yr asesir hawl gweithredydd i gael ei esemtio o'r dull safonol trwy gyfeirio atynt;

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cymeradwyaeth ysgrifenedig i'r meini prawf hynny;

(c)bod y gweithredydd neu'r gweithredwyr y cymhwysir yr esemtiad iddynt yn bodloni'r meini prawf hynny;

(ch)bod yr esemtiad yn cael ei gymhwyso gan yr awdurdod i'r holl weithredwyr eraill sydd â hawl i daliadau ad-dalu gan yr awdurdod hwnnw ac sydd ym marn yr awdurdod yn bodloni'r meini prawf hynny ac yn dymuno manteisio ar yr esemtiad.

Adolygu cyfrifiadau'r dull safonol

7.  Rhaid gwneud darpariaeth i awdurdod adolygu'r cyfrifiadau a wneir yn unol â'r dull safonol nid llai nag unwaith pob tair blynedd.

Cyfrifo ad-daliadau

8.  Pan fydd awdurdod yn mabwysiadu dull safonol yn unol â rheoliad 6 a phan fydd yn cyfrifo taliadau ad-daliadau yn unol â'r dull hwnnw, rhaid iddo dalu sylw at unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdodau yn gyffredinol neu i'r awdurdod arbennig hwnnw at ddibenion y rheoliad hwn.

Cymhwyso rheoliadau 10 i 17

9.  Mae rheoliadau 10 i 17 yn gymwys i ddarpariaethau sydd i'w cynnwys neu (yn ôl fel y digwydd) a all gael neu na all gael eu cynnwys mewn trefniadau ad-dalu mewn perthynas â gweithredwyr.

Defnyddio gwybodaeth a roddir gan weithredwyr

10.  Dim ond ar gyfer cyfrifo ac mewn cysylltiad â chyfrifo taliadau ad-dalu y gall unrhyw wybodaeth a roddir gan weithredydd i awdurdod yn unol â threfniadau sy'n rhoi eu heffaith i'r rheoliad hwn a rheoliadau 11 i 17 gael eu defnyddio, a rhaid i'r awdurdod beidio â datgelu'r wybodaeth honno ac eithrio —

(a)gyda chydsyniad ysgrifenedig y gweithredydd; neu

(b)i'r graddau y mae'r wybodaeth o dan sylw wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus heblaw drwy weithred neu ddiffyg gweithred gan yr awdurdod.

Gwahardd gofyn am wybodaeth benodol

11.  Ni ellir mynnu cael gwybodaeth am unrhyw un o'r pynciau canlynol —

(a)cyfanswm trosiant busnes, neu gyfanswm trosiant unrhyw ran o fusnes, gweithredydd; ac

(b)cyfradd flynyddol neu swm blynyddol elw neu golled y busnes hwnnw, neu unrhyw ran ohono.

Cyfyngu ar ofyn am wybodaeth benodol

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth am y pynciau canlynol neu yn eu cylch —

(a)cyfanswm y teithwyr o bob disgrifiad a gludwyd gan weithredydd ar wasanaethau y mae consesiynau teithio gorfodol yn cael eu darparu arnynt ar unrhyw adeg; a

(b)swm y prisiau tocynnau a gafodd y gweithredydd oddi wrth y teithwyr hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, yr unig wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi y gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ei rhoi yw gwybodaeth mewn perthynas â'r holl wasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu darparu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt.

(3Os oes trefniadau'n darparu ar gyfer rhannu ardal awdurdod consesiynau teithio yn wahanol rannau, gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd roi'r wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi mewn perthynas â phob rhan, ond nid os bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddatgelu niferoedd y teithwyr a gludwyd ar unrhyw wasanaeth penodol neu grŵ p o wasanaethau a ddarparwyd ganddo neu (yn ôl fel y digwydd) swm y prisiau tocynnau a gafodd oddi wrth y teithwyr hynny.

(4Gellir gwneud darpariaeth, mewn unrhyw achos lle rhoddir gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn unol â threfniadau sy'n rhoi ei effaith i'r rheoliad hwn, i'r wybodaeth gael ei rhoi ynghyd â thystysgrif ei bod yn gywir ac yn gyflawn, sef tystysgrif a roddir gan berson cyfrifol.

(5Ym mharagraff (4) o'r rheoliad hwn ystyr “person cyfrifol” yw person sy'n aelod o un neu fwy o'r cyrff canlynol —

(a)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;

(b)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;

(c)Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig;

(ch)unrhyw gorff proffesiynol o gyfrifwyr a fydd wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y paragraff hwn.

(6Os bydd awdurdod yn gofyn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ynghyd â thystysgrif gan berson cyfrifol yn unol â pharagraff (4) rhaid i unrhyw gost ychwanegol resymol a dynnir gan weithredydd oherwydd y gofyn hwnnw gael ei ad-dalu gan yr awdurdod ac i'r perwyl hwnnw bernir ei bod yn rhan o'r balans sy'n daladwy o dan Reoliad 5(3) mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol y cyflenwyd yr awdurdod â manylion llawn y gost honno yn ei ystod.

Esemptio gweithredwyr penodol rhag rhoi gwybodaeth

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr y mae esemtiad o'r dull safonol yn cael ei gymhwyso iddynt o dan reoliad 6(6).

(2Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi unrhyw wybodaeth y mae rheoliad 12 yn gymwys iddi.

Amlder rhoi gwybodaeth benodol

14.  Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am unrhyw bwnc gael ei roi yn amlach nag unwaith ym mhob 28 diwrnod nac mewn perthynas â chyfnodau o lai nag 28 diwrnod.

Arolygon mewn gwasanaethau

15.  Gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ganiatáu i swyddogion, gweision neu asiantau'r awdurdod gael mynd yn rhesymol o aml at gerbydau'r gweithredydd y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt at y dibenion canlynol (gan gynnwys yr hawl i deithio'n ddi-dâl arnynt) —

(a)arolygu neu gyfrif neu amcangyfrif nifer y teithwyr (yn gyffredinol neu o unrhyw ddisgrifiad penodol) a'r gwerthoedd tocynnau teithio sy'n briodol i'r teithwyr hynny; a

(b)sicrhau gwybodaeth am faterion eraill sy'n ymwneud â'r siwrneiau a wneir gan deithwyr y mae ganddynt hawl i gael consesiynau teithio gorfodol ac sy'n angenrheidiol er mwyn i'r awdurdod gyfrifo taliadau ad-dalu.

Gosod offer a'u defnyddio

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd gael offer yn ei gerbydau sy'n cyd-ymffurfio â manyleb a osodir gan yr awdurdod hwnnw er mwyn rhoi a dileu tocynnau neu gofnodi niferoedd a disgrifiadau teithwyr ar y cerbydau hynny fel arall yn ei gerbydau, a'u defnyddio.

(2Yr awdurdod sydd i dalu costau a threuliau darparu a gosod unrhyw offer o'r fath.

(3Heb ragfarnu rheoliad 12, ni ellir ei gwneud yn ofynnol, onibai fod y dull safonol yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyfrifo gwerthoedd tocynnau teithio cyfartalog ar gyfer yr holl deithwyr ac at ddibenion hynny'n unig, i weithredydd rhoi gwybodaeth i'r awdurdod sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw offer o'r fath sy'n ymwneud â siwrneiau gan deithwyr nad oes ganddynt hawl i gael consesiynau teithio gorfodol.

(4Gall awdurdod, mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae consesiynau teithio gorfodol ar gael arno, ei wneud hi'n ofynnol, ar draul y gweithredydd, i'r gweithredydd ddangos ar y cerbyd hwnnw arwydd sy'n gwneud y ffaith honno'n glir ac sy'n resymol ddarllendwy gan y rhai yn gyffredinol sy'n debyg o fod â hawl i'r consesiynau hynny.

Newidiadau mewn gwasanaethau a phrisiau tocynnau

17.  Gellir gwneud darpariaeth i weithredydd roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu gweithredu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt, ac o unrhyw newidiadau yn y tabl prisiau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau hynny, yn y naill achos a'r llall pan fydd y newid yn effeithiol neu heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedyn.

Cyflogi asiantau gweinyddu

18.  Ni chaiff awdurdod gyflogi unrhyw berson sy'n ddeiliad trwydded gweithredydd PSV yn asiant iddo at ddibenion gweinyddu trefniadau ad-daliadau.

Cyfyngiad cyffredinol ar ymyrryd â dull darparu gwasanaethau

19.  Ac eithrio lle gwneir hynny i roi ei heffaith i'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, ni all y trefniadau gynnwys darpariaethau y byddai cydymffurfio â hwy yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd newid y dull sydd ganddo ar gyfer darparu'r gwasanaethau y darperir consesiynau arnynt.

Rhan IIICEISIADAU I'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Cymhwyso rheoliadau 21 i 32

20.  Mae rheoliadau 21 i 32 yn gymwys i geisiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 150(3) o'r Ddeddf (newid trefniadau taliadau ad-dalu arfaethedig neu amrywiadau arfaethedig i drefniadau ad-dalu).

Cynnwys hysbysiadau

21.  Rhaid i hysbysiadau a gyflwynir neu a roddir o dan adran 150(4) neu (5) o'r Ddeddf gynnwys y manylion canlynol:

(i)enw a chyfeiriad gweithredydd y gwasanaeth neu'r gwasanaethau y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hwy;

(ii)enw a chyfeiriad yr awdurdod;

(iii)rhif neu enw y llwybr (os oes un) a'r rhif cofrestru a roddwyd gan gomisiynydd traffig pob gwasanaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(iv)y ddarpariaeth yn y Ddeddf y rhoddir yr hysbysiad odani.

Cyflwyno hysbysiadau

22.—(1Gall hysbysiadau y mae'n ofynnol eu cyflwyno neu eu rhoi o dan adran 150(4) neu (5) o'r Ddeddf gael eu traddodi â llaw neu eu hanfon drwy bost cofrestredig wedi'i dalu ymlaen llaw neu drwy ddosbarthiad cofnodedig.

(2Bernir bod unrhyw hysbysiad a anfonir drwy'r post yn unol â pharagraff (1) o'r rheoliad hwn wedi dod i law pan ddylai gael ei ddosbarthu i'r cyfeiriad yr anfonwyd ef iddo yng nghwrs priodol y post.

Datganiad ysgrifenedig y ceisydd

23.—(1Gyda'r hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 150(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r ceisydd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'r canlynol —

(a)y rhesymau dros y cais; a

(b)unrhyw resymau neu faterion eraill y mae'r person hwnnw'n credu eu bod yn berthnasol i'r cais.

(2Ar yr un pryd ag y bydd yn cyflwyno'r hysbysiad a'r datganiad uchod i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r ceisydd anfon copi o'r hysbysiad hwnnw ac o'r datganiad hwnnw i'r awdurdod.

Datganiad ysgrifenedig y ceisydd

24.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i'r awdurdod gyflwyno datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw faterion y mae'n credu eu bod yn berthnasol i'r cais.

(2Ar yr un pryd ag y mae'n cyflwyno'r datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r awdurdod anfon copi ohono at y ceisydd.

(3Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu fel arall, rhaid i unrhyw ddatganiad o'r fath gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol a'i anfon at y ceisydd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad y mae'r ceisydd yn ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r ceisydd ar unwaith os yw'n caniatáu cyfnod hirach i'r awdurdod gyflwyno'i ddatganiad.

Datganiadau ysgrifenedig a dogfennau pellach

25.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 30, ar ôl i'r awdurdod gyflwyno'u datganiad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r ceisydd neu'r awdurdod, neu'r ddau, gyflwyno unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig a dogfennau pellach iddo fel y bydd yn cyfarwyddo.

(2Rhaid i unrhyw ddatganiadau a dogfennau pellach o'r fath gael eu cyflwyno o fewn unrhyw amser y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo, ond, oni bai bod y ceisydd a'r awdurdod yn cytuno fel arall, rhaid i'r amser hwnnw beidio â bod yn llai na 14 diwrnod yn dechrau â dyddiad cais y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r ceisydd neu'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) sy'n cyflwyno unrhyw ddatganiad neu ddogfen bellach i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi ar yr un pryd i'r awdurdod neu at y ceisydd (fel y bo'n briodol).

Gwrandawiadau ac ymddangosiadau

26.—(1Ar ôl i'r datganiad ysgrifenedig neu'r ddogfen olaf y mae eu hangen o dan reoliadau 23 i 25 gael eu cyflwyno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wahodd y ceisydd a'r awdurdod i ymddangos gerbron person a benodir ganddo.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi person yn unol â rheoliad 32 i benderfynu ar y cais ar ei ran, y person hwnnw fydd y person y gwahoddir y ceisydd a'r awdurdod i ymddangos ger ei fron.

(3Rhaid i'r gwrandawiad yn unol â gwahoddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn gael ei gynnal heb fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y gwahoddiad hwnnw (neu, os rhoddir gwahoddiadau ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad yr ail wahoddiad neu'r gwahoddiad olaf).

(4Caiff y ceisydd ymddangos yn bersonol neu gael ei gynrychioli gan gwnsler, cyfreithiwr neu unrhyw berson arall.

(5Caiff yr awdurdod ymddangos drwy gyfrwng unrhyw swyddog neu berson arall sydd wedi'i benodi at y diben, neu drwy gyfrwng cwnsler, neu gyfreithiwr.

Methiannau wth gyflwyno datganiadau neu ddogfennau neu wrth ymddangos

27.  Os yw'r ceisydd neu'r awdurdod yn methu —

(a)â thraddodi unrhyw ddatganiad neu ddogfennau o fewn yr amser a bennir yn y Rheoliadau hyn neu a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)ag ymddangos gerbron person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn ymateb i wahoddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol;

er hynny caiff y Cynulliad Cenedlaethol fwrw ymlaen i benderfynu ar y cais.

Y weithdrefn mewn gwrandawiadau

28.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 27, mewn unrhyw wrandawiad rhaid i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfle i'r ceisydd a'r awdurdod —

(a)annerch y person a benodir ac ymhelaethu ar y datganiad ysgrifenedig a gyflwynwyd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, rhoi tystiolaeth, galw tystion, a holi unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth gerbron y person a benodir; a

(b)cyflwyno sylwadau ar y dystiolaeth (os oes tystiolaeth) ac ar bwnc y cais yn gyffredinol ond, os caiff tystiolaeth ei chymryd, rhaid peidio â rhoi'r cyfle hwnnw cyn gorffen cymryd y dystiolaeth.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw berson a benodir ganddo i gynnal gwrandawiad o dan y rheoliad hwn gymryd yn dystiolaeth unrhyw ddogfen neu wybodaeth er na fyddai'r ddogfen neu'r wybodaeth honno yn dderbyniol mewn llys barn.

(3Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, bydd y weithdrefn mewn unrhyw wrandawiad yn cyd-fynd â'r hyn y bydd y person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu yn ôl disgresiwn y person hwnnw.

Dyfarniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol

29.—(1Ar ôl ystyried adroddiad y person, os oes un, a benodir ganddo yn unol â rheoliad 26(1), bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ar y cais a chofnodir ei benderfyniad mewn dogfen a lofnodir ar ran y Cynulliad Cenedlaethol a'i dyddio pan gaiff ei llofnodi.

(2Rhaid i'r ddogfen honno gynnwys crynodeb o'r rhesymau dros benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid anfon copi o'r ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol at y ceisydd ac i'r awdurdod.

(4Trinnir y penderfyniad fel pe bai wedi'i wneud ar y dyddiad yr anfonir y copi o'r ddogfen uchod at y ceisydd.

Cyfyngu ar ddefnyddio gwybodaeth mewn cysylltiad â gwrandawiadau

30.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth sy'n ymwneud ag ad-dalu i weithredydd perthnasol y mae awdurdod yn ei chael oddi wrth y gweithredydd hwnnw yn unol â threfniadau ad-dalu.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “gweithredydd perthnasol” yw gweithredydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus y ceir hawl arnynt i gael consesiynau teithio gorfodol.

(3Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth yn rheoliadau 24 i 28, rhaid i unrhyw ddatganiad neu ddogfen a gyflwynir neu a anfonir gan awdurdod, ac unrhyw ddatganiad a wneir ar ran awdurdod sy'n ymddangos gerbron person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, beidio â chynnwys dim gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi oni bai bod y gweithredydd perthnasol wedi rhoi ei gydsyniad ysgrifenedig iddi gael ei chynnwys.

Ceisiadau gwacsaw neu flinderus

31.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod cais yn un gwacsaw neu flinderus, gall y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig, wrthod y cais yn ddioed a bydd darpariaethau rheoliad 29 yn gymwys i benderfyniad felly.

Cymhwyso rheoliadau 23 i 25, 27 i 29 a 31 at enwebai'r Cynulliad Cendlaethol

32.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi person yn unol ag adran 150(6)(b) o'r Ddeddf i benderfynu ar gais ar ei ran, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penodiad i'r ceisydd ac i'r awdurdod.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi person i benderfynu ar gais ar ei ran, rhaid darllen cyfeiriadau yn rheoliadau 23 i 25 a rheoliadau 27 i 29 at y Cynulliad Cenedlaethol fel cyfeiriadau at y person a benodir felly o ddyddiad y penodi ymlaen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer consesiynau teithio gorfodol i'w rhoi gan weithredwyr gwasanaethau cymwys (gwasanaethau bysiau lleol ar hyn o bryd) i rai dosbarthiadau o deithwyr, gan gynnwys rhai sy'n hen neu'n anabl. Daw'r darpariaethau hyn i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002.

O dan adran 149 o'r Ddeddf mae'n rhaid i awdurdodau consesiynau teithio (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) ad-dalu i weithredwyr am ddarparu'r consesiynau yn unol â threfniadau sydd wedi'u cytuno gyda'r gweithredwyr neu sydd wedi'u penderfynu gan yr awdurdodau.

Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 149(3) a 150(6) o'r Ddeddf, sy'n rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â'r cyfryw drefniadau, modd o wneud taliadau ad-dalu i weithredwyr a cheisiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol gan weithredwyr sy'n credu y gallant gael eu heffeithio'n niweidiol gan drefniadau ad-dalu arfaethedig.

Mae rheoliad 3 yn gosod y nod sylfaenol ar gyfer trefniadau ad-dalu, sef na ddylai gweithredwyr fod ar eu helw nac ar eu colled yn ariannol o ganlyniad i ddarparu consesiynau teithio gorfodol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud hi'n ofynnol i daliadau ad-dalu ateb y costau a dynnir gan weithredwyr oherwydd rhoi consesiynau teithio gorfodol ac yn diffinio'r costau hynny.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y cyfnodau y cyfrifir taliadau mewn perthynas â hwy a'r dyddiadau pryd y bydd rhaid gwneud taliadau.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau fabwysiadu dull safonol ar gyfer darganfod nifer y siwrneiau a wneir gan y rhai sydd â'r hawl i gonsesiynau a gwerth y tocynnau sydd i'w priodoli i'r siwrneiau hynny. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau adolygu'r cyfrifiadau a wneir yn unol â'r dull safonol o leiaf unwaith pob tair blynedd.

Mae rheoliad 6(6) yn caniatáu i awdurdodau, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, i sefydlu meini prawf ar gyfer esemtio gweithredwyr (er enghraifft rhai sy'n darparu gwasanaethau cyfyngedig iawn) o'r dull safonol, os yw'r gweithredwyr dan sylw yn cytuno, gyda'r bwriad o osgoi rhoi baich gweinyddol neu ariannol afresymol arnynt.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau, wrth fabwysiadu'r dull safonol ac wrth gyfrifo taliadau ad-dalu yn unol â'r dull hwnnw, dalu sylw i ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae rheoliadau 9 i 17 yn darparu ar gyfer gwybodaeth y gellir gofyn i weithredwyr ei ddarparu o dan drefniadau ad-dalu a sut y gellir ei defnyddio gan awdurdodau. Os bydd awdurdod yn ei gwneud hi'n ofynnol i weithredwyr osod cyfarpar tocynnu i gyd-ymffufio â manyleb perthnasol, mae rheoliad 16 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ysgwyddo'r gost o'i ddarparu a'i osod.

Mae rheoliad 18 yn gwahardd awdurdodau rhag cyflogi fel asiant ar gyfer gweinyddu trefniadau ad-dalu unrhyw un sy'n dal trwydded PSV.

Mae rheoliad 19 yn gwahardd darpariaethau mewn trefniadau a fyddai'n gorfodi gweithredydd i newid y dull o ddarparu'r gwasanaeth, gan eithrio'r rhai hynny sy'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i Ran II o'r Rheoliadau.

Mae rheoliadau 21 i 32 yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd gweithredydd yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am addasiad i drefniadau ad-dalu arfaethedig ar y sail bod y gweithredydd yn credu y gall gael ei effeithio'n niweidiol ganddynt.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources