Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3760 (Cy.309)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

20 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

18 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru (2) ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Archwilio, unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol ac unrhyw gyrff cyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996(3).

Datganiad o Gyfrifon

3.  Mae Rheoliad 6 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Ym mharagraff (3)(k) dilëwch y geiriau “a probation committee,”.

Datganiadau Cyfrifydda Eraill

4.  Mae Rheoliad 7 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Ym mharagraffau (3) a (4), yn lle “£5,000” rhowch “£50,000”.

Cyhoeddi'r Llythyr Archwilio Blynyddol

5.  Ar ôl Rheoliad 16 o Reoliadau 1996 mewnosodir—

Publication of Annual Audit Letter

16A.  As soon as reasonably possible after it is received a relevant body shall—

(a)publish the annual audit letter(4) received from the auditor; and

(b)keep copies available for purchase by any person on payment of a reasonable sum to be determined by the relevant body.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau'n gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 sydd, er eu bod wedi gwneud o dan ddeddfwriaeth flaenorol, wedi parhau mewn grym yn rhinwedd paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (mesur cydgrynhoi).

Mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliad 6 o Reoliadau 1996 er mwyn hepgor y cyfeiriad at “a probation committee”. Yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 gwelwyd disodli pwyllgorau prawf â byrddau prawf, nad ydynt yn dod o dan Reoliadau 1996.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 7 o Reoliadau 1996 i godi'r trothwy ariannol lle y mae'n ofynnol i'r cynghorau cymuned yng Nghymru baratoi cyfrifon incwm a gwariant o £5,000 i £50,000.

Mae Rheoliad 5 yn mewnosod gofyniad newydd yn Rheoliadau 1996, sef bod y cyrff perthnasol yn cyhoeddi'r llythyr archwilio blynyddol a gânt oddi wrth eu harchwilydd.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1996/672).

(4)

Gweler paragraffau 29 i 34 o'r Code of Audit Practice a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Archwilio ym mis Mawrth 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources