Hawliadau Grant
5.—(1) Rhaid i unrhyw hawl am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu, a rhaid i'r hawliwr o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, yr holl ddogfennau a chofnodion perthnasol.
(2) Yn is-baragraff (1), mae'r cyfeiriad at ddogfennau a chofnodion perthnasol yn cynnwys cyfeiriad at gopïau ardystiedig ohonynt.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod yn ysgrifenedig i hawliwr a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.