xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Talu'r grantiau a symiau'r grantiau

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 7 Rhagfyr 2001 ond cyn 17 Ebrill 2003 ac—

(a)sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol—

(i)darparu, amnewid neu wella—

(aa)cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair,

(bb)cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu

(cc)cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵ r glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu

(ii)unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei roi mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;

(b)y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur gyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf;

(c)sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac

(ch)nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.

(2Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod gwariant yr hawlir grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) wedi'i dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.