- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau 1993, O.S. 1993/2008, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/1452, 1997/616 a 1999/1863) (“Rheoliadau 1993”). Maent yn dod i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac yn gymwys i Gymru yn unig.
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) yn effeithiol yng Nghymru mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion. Diwygiodd y gyfarwyddeb hon Gyfarwyddeb y Cyngor 70/458/EEC (OJ Rhif L225, 12.10.1970, t.7) ynghylch marchnata hadau llysiau.
Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 3 (o Reoliadau 1993), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” ac “official examination” (rheoliad 3);
(b)yn diwygio rheoliad 5 mewn perthynas â marchnata (gan gynnwys marchnata hadau llysiau a addaswyd yn enetig), ac awdurdodiadau marchnata, profion a threialon, hadau fel y cânt eu tyfu, gwaith dethol a dibenion gwyddonol eraill; ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 4 (rheoliadau 4 a 5);
(c)yn diwygio rheoliad 9 i wneud darpariaeth mewn perthynas â dangos amrywiadau a addaswyd yn enetig yn glir (rheoliad 6); ac
(ch)yn diwygio Atodlen 6 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch hadau sydd wedi'u mewnforio (rheoliad 7).
Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban gan O.S. 2000/1790 ac O.S.A. 2000/250 yn y drefn honno.
Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglŷn â'r canlynol:
hadau betys
hadau planhigion porthiant
hadau grawnfwydydd
tatws hadyd
hadau planhigion olew a ffibr.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: