Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif. 3545 (Cy.289)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Hydref 2001

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 34(5) a 62(1) i (3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol (2)drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym —

(a)yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliadau 10 ac 11, ar 1 Tachwedd 2001;

(b)yn achos rheoliad 10, ar 1 Rhagfyr 2001; ac

(c)yn achos rheoliad 11, ar 1 Mai 2002.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996

2.  Mae Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

Diweddaru'r arweiniad i ddulliau dosbarthu a labelu a gymeradwywyd a'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd

3.  Yn rheoliad 1(4) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “the approved classification and labelling guide”, yn lle “(Second edition)” rhowch “(Fourth edition)”, ac yn lle “18th October 1994” rhowch “12th October 1999”; a

(b)yn y diffiniad o “the approved supply list”(4), for “(3rd Edition)” rhowch “(Sixth edition)”, ac yn lle “24th January 1996” rhowch “15th August 2000”.

Nodiadau traddodi: achosion pan nad oes angen rhaghysbysu

4.  Yn rheoliad 6(1)(e) (nodiadau traddodi: achosion pan nad oes angen rhaghysbysu), hepgorwch “motor vehicle”.

Nodiadau traddodi: y weithdrefn pan nad oes angen rhaghysbysu

5.  Yn rheoliad 7 (nodiadau traddodi: y weithdrefn pan nad oes angen rhaghysbysu) mewnosodwch ar ôl paragraff (a)—

(aa)references to the relevant code in regulation 5(2)(a) were references, in relation to the case mentioned in regulation 6(1)(a), to the relevant code and the code for the first consignment in that succession;.

Nodiadau traddodi: cylchdeithiau'r cludwr

6.  Yn rheoliad 8, (nodiadau traddodi: cylchdeithiau'r cludwr):

(a)ym mharagraff (1)(d), yn lle “24 hours” rhowch “72 hours”; a

(b)ym mharagraff (2)(a)(ii), hepgorwch “motor vehicle”.

Nodiadau traddodi: dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn llwyth sy'n cael ei gyflenwi

7.  Yn rheoliad 10 (nodiadau traddodi etc.: dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn llwyth sy'n cael ei gyflenwi) ym mharagraff (3)(c), ar ôl “regulation 8,” mewnosodwch “(annotated to show which consignment is not accepted)”.

Nodiadau traddodi: llwythi sydd wedi'u gwrthod

8.  Ar ôl Rheoliad 10 mewnosodwch —

Consignment notes: requirement for a new consignment note

10A:(1) This regulation applies where, in accordance with regulation 10(6)(c), a consignor proposes that a consignment be delivered to other specified premises in respect of which there is held any waste management licence necessary to authorise receipt of the waste.

(2) Before the consignment is delivered to those premises —

(a)four copies of a new consignment note shall be prepared and

(i)on each copy Parts A and B shall be completed and the relevant code entered, including the previous code;

(ii)to each copy shall be attached a copy of any relevant previous carrier’s schedule, annotated to show which consignment was not accepted;

(b)the carrier shall complete Part C on each of those copies;

(c)the consignor, subject to paragraph (3) below—

(i)shall complete Part D on each of those copies

(ii)shall retain one copy (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered); and

(iii)shall give the three remaining copies (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered) to the carrier.

(3) The carrier may, where he has received written instructions from the consignor to that effect, complete Part D of each of the copies of the consignment note on behalf of the consignor, and where he does so he shall send to the consignor the consignor’s copy (on which Parts A to D have been completed and the relevant codes entered).

(4) The carrier shall ensure that the three copies of the consignment note which he has received (or, if paragraph (3) applies, retained) —

(a)travel with the consignment; and

(b)are given to the consignee on delivery of the consignment.

(5) Subject to regulation 10, on receiving the consignment the consignee shall—

(a)complete Part E on all copies of the consignment note given to him;

(b)retain one copy;

(c)give one copy to the carrier; and

(d)forthwith furnish one copy to the Agency for the place to which the consignment has been transported.

(6) The carrier shall retain the copy of the consignment note given to him by the consignee.

Ffioedd

9.  Yn rheoliad 14 (ffioedd)—

(a)ym mharagraff (1), rhowch yn lle y geiriau ar ôl “fee”—

prescribed for the purposes by a charging scheme under section 41 of the Environment Act 1995(5);

(b)hepgorwch baragraff (2)(a)(i); ac

(c)ym mharagraff (2)(a)(iii), ar ôl “each round” mewnosodwch “in the succession”.

Ffurf ar nodyn traddodi

10.  Yn Atodlen 1, Rhan I (ffurf ar nodyn traddodi)—

(a)yn adran 6 o Ran B, yn lle “that make the waste special” rhowch “of the waste”;

(b)yn Rhan C, yn lle “(name & address)” rhowch “(name, address & postcode)”; ac

(c)yn Rhan E, rhwng “this waste” ac “on”, ac ar ôl “the waste described in B”, mewnosodwch “at the address given in A2”.

Atodlen y cludwr

11.  Yn Atodlen 1, yn lle Rhan II (atodlen y cludwr) rhowch yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

Jane E. Hutt

Ysgrifennydd Cynulliad

29 Hydref 2001

ATODLEN/SCHEDULEFORM OF SCHEDULE

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 [O.S. 1996/972] (“y Prif Reoliadau”) mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau yn rheoliad 1 o'r Prif Reoliadau at yr argraffiadau presennol o'r arweiniad i'r dulliau dosbarthu a labelu a gymeradwywyd a'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd o dan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 1994. Cafodd Rheoliadau 1994 eu diwygio'n fwyaf diweddar gan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) (Diwygio) 2000 [O.S. 2000/2381] a gellir cael copïau o'r (Pedwerydd) argraffiad newydd o'r arweiniad i ddulliau labelu a gymadwywyd a'r (Chweched) argraffiad newydd o'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd oddi wrth HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 2WA.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6(1) o'r Prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfyngiad ynghylch batris “cerbydau modur” mewn perthynas â llwythi batris asid plwm nad oes angen rhaghysbysiad ar eu cyfer.

Yn achos ail draddodi a thraddodi dilynol mewn cyfres o draddodiadau mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau fel bod rhaid rhoi'r cod sy'n dynodi'r traddodi cyntaf yn y gyfres honno ar y nodyn traddodi yn ychwanegol at y cod perthnasol ar gyfer y traddodi o dan sylw.

Mae Rheoliad 6(a) yn diwygio rheoliad 8(1)(d) o'r Prif Reoliadau drwy estyn o 24 awr i 72 awr yr amser y mae'n rhaid i gylchdaith cludwr gael ei chwblhau ynddo. Mae Rheoliad 6(b) yn dileu'r cyfyngiad ynghylch batris “cerbydau modur” o'r eithriad ynghylch llwythau batris asid plwm yn rheoliad 8(2)(ii) o'r Prif Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cludwr ddarparu copi o'r nodyn traddodi i'r Asiantaeth cyn symud y gwastraff cyntaf ar y gylchdaith.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 10(3)(c) o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn ofynnol, pan fydd traddodai sy'n gwrthod cyflenwad wedi cael nodyn traddodi, bod y copi o unrhyw atodlen gludwr y mae'n ei anfon ymlaen at Asiantaeth yr Amgylchedd (“yr Asiantaeth”) ar gyfer y cyrchnod newydd yn cael ei anodi i ddangos pa rai oedd y llwythi na chawsant eu derbyn.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 10A newydd. Mae rheoliad 10A yn darparu bod rhaid paratoi nodyn traddodi newydd os yw llwyth yn cael ei wrthod gan y traddodai ac yn cael ei ailgyfeirio at safle heblaw'r un y cafodd ei gasglu ohono neu lle'r oedd wedi'i gynhyrchu ac yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer y nodyn traddodi newydd. Mae'n caniatáu hefyd i gludwr lofnodi Rhan D o'r nodyn traddodi os oes ganddo ganiatâd ysgrifenedig gan y traddodwr.

Mae rheoliad 9(a) yn diwygio rheoliad 14(1) o'r Prif Reoliadau fel bod ffioedd yn cael eu pennu gan yr Asiantaeth mewn cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn hytrach na chan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae rheoliad 9(b) yn diwygio rheoliad 14(2)(a) drwy ddileu'r amod cyntaf ar gyfer esemptio ail gylchdaith cludwr neu gylchdaith ddilynol mewn cyfres o gylchdeithiau rhag taliad o ffi ar gyfer neilltuo cod (sef mai'r cludwr yw'r traddodai hefyd mewn perthynas â phob traddodi ym mhob un o'r cylchdeithiau). Mae rheoliad 9(c) yn diwygio'r amodau yn rheoliad 14(2)(a)(iii) o'r Prif Reoliadau drwy ei gwneud yn glir bod cyfanswm y terfyn pwysau o 400kg yn gymwys i bob cylchdaith yn y gyfres.

Mae rheoliad 10 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r ffurf ragnodedig ar nodyn traddodi yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 11 yn rhoi ffurf ragnodedig newydd o atodlen cludwr yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Cod post cyfeiriad y tarddle, yr amser y llofnododd y cludwr, a disgrifiad o'r gwastraff sy'n cael ei symud yw'r wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen.

(1)

1990 p. 43; diwygiwyd adran 62 gan baragraff 80 o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y pwerau hyn a'r rhai sy'n dod o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 (“Deddf 1974”) mewn perthynas â Lloegr yn unig; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a'r cofnodion sy'n ymwneud â Deddf 1974 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd yn Atodlen 1 iddo ac adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46).

(2)

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019 a 1997/251.

(4)

Diwygiwyd y diffiniad o “approved supply list” gan baragraff 2 i'r Atodlen i O.S. 1996/2019.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources