xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3541 (Cy.288)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

29 Hydref 2001

Yn dod i rym

30 Hydref 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1), fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972(2), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru, a daw i rym ar 30 Hydref 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn —

(2Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn oni ddywedir fel arall.

Hysbysu ynghylch mewnforion

3.—(1Ni chaiff neb fewnforio i Gymru datws Almaenaidd, hynny yw, unrhyw datws y maent yn gwybod neu y mae ganddynt sail resymol dros gredu eu bod wedi deillio o'r Almaen, oni bai eu bod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oeddent yn bwriadu cyflwyno'r tatws i Gymru, ynghylch eu bwriad i fewnforio'r tatws ac ynghylch:

(a)amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;

(b)y man arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;

(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;

(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;

(d)rhywogaeth y tatws;

(dd)y maint o datws; ac

(e)rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.

(2Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws Almaenaidd i Gymru ar ôl 30 Medi 2001 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 23 Tachwedd 2001 fan bellaf —

(a)y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;

(b)y man lle doed â hwy i mewn i Gymru;

(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;

(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;

(d)rhywogaeth y tatws;

(dd)y maint o datws; ac

(e)rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “prosesu” (“processing”) yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai gyfer manwerthu neu beidio.

Pwerau arolygydd

4.—(1Nid yw darpariaethau'r erthygl hon yn rhagfarnu o dan ba amgylchiadau y gall arolygydd yn rhinwedd y prif Orchymyn arfer y pwerau a roddwyd gan y Gorchymyn hwnnw.

(2Pan fydd ganddo seiliau rhesymol dros amau bod erthygl 3 wedi'i thorri neu'n debygol o gael ei thorri, gall arolygydd, at ddibenion y Gorchymyn hwn, arfer —

(a)y pŵer sy'n cael ei roi gan erthygl 22(1) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd yn blanhigyn a oedd wedi'i lanio neu'n debygol o gael ei lanio yn groes i'r prif Orchymyn; a

(b)y pŵer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd a oedd yn cael ei chadw ar safle neu'n cael ei symud ohono, neu a oedd yn debyg o gael ei chadw neu ei symud, yn blanhigyn a oedd yn cael ei gadw neu'n cael ei symud o'r safle yn groes i'r prif Orchymyn.

(3Gall arolygydd, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, arfer y pwerau sy'n cael eu rhoi gan erthygl 25(1)(a) i (c) a 25(2) o'r prif Orchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn.

(4Bydd i unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd yr erthygl hon drwy arfer pŵer sy'n cael ei roi gan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn, a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1), (2) a (6) o'r prif Orchymyn yn gymwys yn unol â hynny.

(5Rhaid ymdrin ag unrhyw bŵ er sy'n cael ei roi gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn ac sy'n cael ei arfer yn rhinwedd yr erthygl hon fel petai'r pŵer hwnnw wedi'i arfer o dan y prif Orchymyn, a bydd darpariaethau'r prif Orchymyn (gan gynnwys erthygl 33(1)(a) ac (c) a (6) (tramgwyddau)) yn gymwys yn unol â hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

Jane E. Hutt

Ysgrifennydd Cynulliad

29 Hydref 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gosod gofynion penodol ynghylch hysbysu ar bersonau sy'n mewnforio tatws o'r Almaen, sydd wedi'u tyfu yn ystod 2001 neu'n ddiweddarach. Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforwyr sy'n dod â thatws o'r fath i mewn i Gymru ar 30 Hydref 2001 neu ar ôl hynny hysbysu arolygydd sydd wedi'i awdurdodi o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”) yn ysgrifenedig o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw, gan roi manylion penodol ynghylch, ymhlith pethau eraill, glanio'r tatws a'r ffordd y bwriedir eu defnyddio (erthygl 3(1)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i fewnforwyr tatws Almaenaidd, a gyrhaeddodd Gymru rhwng 1 Hydref 2001 a'r dyddiad y mae'r Gorchymyn yn dod i rym, sef ar 30 Hydref 2001, roi gwybodaeth benodol debyg i arolygydd erbyn 23 Tachwedd fan bellaf (erthygl 3(2)).

Mae'r Gorchymyn yn darparu bod arolygydd y mae ganddo seiliau rhesymol dros amau bod darpariaethau'r Gorchymyn wedi'u torri yn gallu arfer mewn perthynas â thatws Almaenaidd bwerau gorfodi penodol sy'n cael eu rhoi gan erthygl 22 o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r Gorchymyn hwnnw (erthygl 4(2)). Gall arolygydd sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn arfer pwerau hefyd i wirio cydymffurfedd (drwy archwilio, samplu a marcio eiddo a/neu safleoedd) sy'n cael eu rhoi gan erthygl 25, heblaw erthygl 25(1)(d), o'r prif Orchymyn (erthygl 4(3)). Mae i unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyflwyno neu unrhyw bŵ er sy'n cael ei arfer o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, os yw'r pŵer i wneud hynny yn cael ei roi gan y prif Orchymyn, yr un effaith â phetai wedi'i gyflwyno neu wedi'i arfer o dan yr erthygl berthnasol yn y prif Orchymyn (erthyglau 4(4) a (5)) fel bod darpariaethau canlyniadol perthnasol y prif Orchymyn, gan gynnwys darpariaethau ynghylch tramgwyddau, yn dod yn weithredol pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno neu bŵ er arall wedi'i arfer.

(1)

1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan adran 17(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53).

(3)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 a Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.