- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hysbysu ynghylch Tatws sy'n Deillio o'r Almaen (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru, a daw i rym ar 30 Hydref 2001.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “yr Almaen” (“Germany”) yw Gweriniaeth Ffederal yr Almaen;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;
ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(1),
ystyr “sy'n deillio o'r Almaen” (“originating in Germany”) yw wedi'u tyfu yn yr Almaen yn ystod y flwyddyn 2001 neu ar ôl hynny;
ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;
mae i “tatws Almaenaidd” (“German potatoes”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 3(1); ac
ystyr “taten hadyd” (“seed potato”) yw unrhyw daten sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu.
(2) Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn oni ddywedir fel arall.
3.—(1) Ni chaiff neb fewnforio i Gymru datws Almaenaidd, hynny yw, unrhyw datws y maent yn gwybod neu y mae ganddynt sail resymol dros gredu eu bod wedi deillio o'r Almaen, oni bai eu bod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oeddent yn bwriadu cyflwyno'r tatws i Gymru, ynghylch eu bwriad i fewnforio'r tatws ac ynghylch:
(a)amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;
(b)y man arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;
(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;
(d)rhywogaeth y tatws;
(dd)y maint o datws; ac
(e)rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(2) Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws Almaenaidd i Gymru ar ôl 30 Medi 2001 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 23 Tachwedd 2001 fan bellaf —
(a)y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;
(b)y man lle doed â hwy i mewn i Gymru;
(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;
(d)rhywogaeth y tatws;
(dd)y maint o datws; ac
(e)rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “prosesu” (“processing”) yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai gyfer manwerthu neu beidio.
4.—(1) Nid yw darpariaethau'r erthygl hon yn rhagfarnu o dan ba amgylchiadau y gall arolygydd yn rhinwedd y prif Orchymyn arfer y pwerau a roddwyd gan y Gorchymyn hwnnw.
(2) Pan fydd ganddo seiliau rhesymol dros amau bod erthygl 3 wedi'i thorri neu'n debygol o gael ei thorri, gall arolygydd, at ddibenion y Gorchymyn hwn, arfer —
(a)y pŵer sy'n cael ei roi gan erthygl 22(1) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd yn blanhigyn a oedd wedi'i lanio neu'n debygol o gael ei lanio yn groes i'r prif Orchymyn; a
(b)y pŵer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten Almaenaidd a oedd yn cael ei chadw ar safle neu'n cael ei symud ohono, neu a oedd yn debyg o gael ei chadw neu ei symud, yn blanhigyn a oedd yn cael ei gadw neu'n cael ei symud o'r safle yn groes i'r prif Orchymyn.
(3) Gall arolygydd, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, arfer y pwerau sy'n cael eu rhoi gan erthygl 25(1)(a) i (c) a 25(2) o'r prif Orchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn.
(4) Bydd i unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd yr erthygl hon drwy arfer pŵer sy'n cael ei roi gan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn, a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1), (2) a (6) o'r prif Orchymyn yn gymwys yn unol â hynny.
(5) Rhaid ymdrin ag unrhyw bŵ er sy'n cael ei roi gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn ac sy'n cael ei arfer yn rhinwedd yr erthygl hon fel petai'r pŵer hwnnw wedi'i arfer o dan y prif Orchymyn, a bydd darpariaethau'r prif Orchymyn (gan gynnwys erthygl 33(1)(a) ac (c) a (6) (tramgwyddau)) yn gymwys yn unol â hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: