- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Bydd i adran 74(2) effaith, mewn perthynas â Chymru, fel pe bai'r geiriau “, or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001,” wedi'u mewnosod ar ôl y geiriau “this part of this Act”.
(2) At ddibenion adran 74, fel y'i diwygiwyd gan baragraff (1) uchod, bydd y cyfyngiadau ar amrywiadau mewn perthynas ag unrhyw gam-ddatgan mewn gosodiad, dogfen neu farc statudol, ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd porthiant neu ddeunydd porthiant, pan yw'r cam-ddatgan yn ymwneud —
(a)ag unrhyw gyfansoddyn dadansoddiadol a bennir yng ngholofn gyntaf —
(i)Rhan A o Atodlen 6 (os yw'r porthiant yn borthiant cyfansawdd na fwriedir ar gyfer anifeiliaid anwes),
(ii)Rhan B o Atodlen 6 (os yw'r porthiant yn fwyd cyfansawdd i anifeiliaid anwes), neu
(iii)Rhan C o Atodlen 6 (yn achos deunydd porthiant),
(b)ag unrhyw fitamin neu elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan D o'r Atodlen honno, neu
(c)â gwerth egni unrhyw borthiant a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan E o'r Atodlen honno,
fel y'u nodwyd mewn perthynas â'r cyfansoddyn hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y fitamin hwnnw, yr elfen brin honno neu'r porthiant hwnnw, yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan berthnasol o'r Atodlen honno.
(3) At ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf neu ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â thrin manylion mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd a gynhwysir mewn gosodiad statudol, neu mewn unrhyw ddogfen, neu sydd wedi'u marcio ar y deunydd, neu a ddynodir gan farc ar y deunydd, fel pe baent yn ffug oherwydd unrhyw gam-ddatganiad arnynt ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd y deunydd —
(a)os cafodd y deunydd ei werthu gyntaf, neu ei roi mewn cylchrediad fel arall, mewn Aelod-wladwriaeth,
(b)os nad oedd y cam-ddatganiad, adeg rhoi'r deunydd mewn cylchrediad, y tu hwnt i unrhyw gyfyngiadau ar amrywiadau a ragnodwyd mewn perthynas ag ef yn yr Aelod-wladwriaeth honno, ac
(c)os oedd unrhyw gyfyngiadau o'r fath yn cyd-fynd ag unrhyw Gyfarwyddeb gan y Gymuned Ewropeaidd a oedd yn gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: