Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir2

1

Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw yr uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

2

Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

a

yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a

b

y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

3

Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

a

yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

b

y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

4

Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.