- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a deuant i rym at ddibenion paragraff (1) o reoliad 21 ar 1 Hydref 2001 ac at bob diben arall ar 26 Awst 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adolygiad swyddogaethau” (“a functions review”) yw adolygiad o'r effaith a gâi arfer swyddogaethau, neu'r bwriad i arfer swyddogaethau, ar blant yn unol ag adran 72B(1) o'r Ddeddf;
ystyr “adolygiad trefniadau” (“arrangements review”) yw adolygiad o'r trefniadau mewn perthynas â chŵ ynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth yn unol ag adran 73(1) o'r Ddeddf;
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
dehonglir “gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru” (“regulated children’s services in Wales”) a “darparydd” (“provider”), mewn perthynas â gwasanaethau o'r fath, yn unol ag adran 78 o'r Ddeddf ac eithrio bod cyfeiriadau at wasanaethau o'r fath ac at ddarparwyr gwasanaethau o'r fath hefyd yn cael eu dehongli yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 5 i'r Ddeddf i'r perwyl eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at wasanaethau y mae'n bosibl nad ydynt ar unrhyw adeg yn cael eu rheoli o dan y Ddeddf neu at ddarparwyr y gwasanaethau hynny ar adeg felly, wrth ddisgwyl i ddarpariaethau perthnasol yn y Ddeddf ddod i rym;
ystyr “plant perthnasol” (“relevant children”) yw plant y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt;
ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
ystyr “trefniadau mewn perthynas â chŵynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth” (“arrangements in relation to complaints, whistle-blowing or advocacy”) yw trefniadau sy'n dod o fewn is-adran (2), (2A), (2B), (2C), (3), neu (4) o adran 73 o'r Ddeddf yn ol fel y digwydd.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—
(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: