xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2783 (Cy.236) (C.93)

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001(Cychwyn) 2001

Wedi'i wneud

25 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 9(1) o Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (1):

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.

Y Diwrnod Penodedig

2.—(1Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym yw 26 Awst 2001.

(2Dyma'r darpariaethau—

(a)Adran 1 (cymhwyso Rhan 5 o Ddeddf Safonau Gofal 2000);

(b)Adran 2 (prif nod y Comisiynydd);

(c)Adran 3 (adolygu arfer swyddogaethau'r Cynulliad a swyddogaethau personau eraill);

(ch)Adran 4 (adolygu a monitro trefniadau);

(d)Adran 5 (pŵer ychwanegol i ystyried a gwneud sylwadau);

(dd)Adran 6 (swyddogaethau pellach y Comisiynydd);

(e)Adran 7 (darpariaethau canlyniadol etc.);

(f)Adran 8 (darpariaethau ariannol); ac

(ff)Yr Atodlen (personau a threfniadau sy'n destun adolygiad).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

Rhodri Morgan

Prif weinidog y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 26 Awst 2001 i'r darpariaethau canlynol yn Neddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (“Deddf 2001”) ddod i rym:—

(a)Adran 1, sy'n diwygio adran 78 (dehongli) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Ddeddf 2000”);

(b)Adran 2, sy'n mewnosod adran 72A yn Neddf 2000 sy'n darparu mai diogelu a hybu hawliau a lles plant y mae Rhan V o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt yw prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau;

(c)Adran 3, sy'n mewnosod adran 72B yn Neddf 2000 sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu effaith arfer swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) a swyddogaethau personau eraill a bennir yn Atodlen 2A i Ddeddf 2000, sydd hefyd yn cael ei mewnosod gan adran 3. Mae adran 72B yn darparu y gall y Cynulliad ddiwygio Atodlen 2A drwy orchymyn o dan amgylchiadau penodol;

(ch)Adran 4, sy'n diwygio adran 73 o Ddeddf 2000 sy'n ymdrin ag adolygu a monitro trefniadau penodol ar gyfer cŵynion, eiriolaeth a chwythu'r chwiban ac sy'n mewnosod Atodlen 2B yn Neddf 2000. Yn benodol mae'r diwygiadau yn darparu y gall y Cynulliad ddiwygio Atodlen 2B drwy orchymyn o dan amgylchiadau penodol;

(d)Adran 5, sy'n mewnosod adran 75A yn Neddf 2000 ynghyd a diwigiadau canlyniadol i adran 74. Mae adran 75A yn galluogi'r Comisiynydd i ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau neu les plant yng Nghymru ac i wneud sylwadau i'r cynulliad yng Nghylch hynny;

(dd)Adran 6, sy'n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i adran 76 o Ddeddf 2000;

(e)Adran 7, sy'n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i adran 118(8) o Ddeddf 2000;

(f)Adran 8, sy'n cynnwys darpariaethau ariannol canlyniadol; ac

(g)yr Atodlen, sy'n mewnosod Atodlen 2A a 2B yn Neddf 2000.