- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Os bydd unrhyw dramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a gall person gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y paragraff hwn yn y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person cyntaf a grybwyllwyd neu beidio.
(2) Mewn unrhyw achos am dragwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob gofal daladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo ef ei hun neu gan berson o dan ei reolaeth.
(3) Os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) uchod mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson arall, ni fydd gan y person a gyhuddir hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai —
(a)o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf os yw wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig,
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i enwi neu i helpu i enwi'r person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.
(4) Ym mharagraff (3) uchod dehonglir unrhyw gyfeiriad at ymddangos gerbron llys fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at gael eich dwyn gerbron llys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: