Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001

Samplu a gwiriadau ac archwiliadau eraill

19.—(1Bydd gan arolygydd bŵ er i gyflawni'r holl wiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff arolygydd —

(a)cymryd samplau o unrhyw brotein, bwyd neu borthiant (ac anfon y samplau, os oes angen hynny, i gael eu profi mewn labordy);

(b)archwilio unrhyw gofnod (gan gynnwys unrhyw gofnod a gedwir ar ffurf electronig) y mae'n credu ei fod yn berthnasol i unrhyw wiriadau ac archwiliadau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)cipio a chadw unrhyw gofnod y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gall fod ei angen yn dystiolaeth mewn achos o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, a'i gwneud yn ofynnol bod y cofnod hwnnw'n cael ei gyflwyno;

(ch)mynd ag unrhyw berson arall gydag ef neu hi y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i gyflawni unrhyw wiriadau ac archwiliadau o dan y Rheoliadau hyn;

(d)archwilio unrhyw gynhyrchu, storio, cludo neu weithrediad arall sy'n cael ei gyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw beth sy'n cael ei ddefnyddio i farcio ac adnabod protein, bwyd neu borthiant; ac

(dd)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn sy'n gweithredu at unrhyw un o ddibenion y Comisiwn sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn gydag ef neu hi.