- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18.—(1) Os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw safle (heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) er mwyn darganfod —
(a)a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn cael ei thorri neu wedi cael ei thorri ar y safle; neu
(b)a oes unrhyw dystiolaeth ar y safle i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael ei thorri.
(2) Os oes Ynad Heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i unrhyw safle (ac eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai —
(a)bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yna frys ynglŷn â'r achos, neu nad yw'r safle'n cael ei feddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro;
caiff yr Ynad Heddwch drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(3) Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle gwag y mae wedi mynd iddo yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael ei gau yr un mor effeithiol yn erbyn mynediad diawdurdod â phan ddaeth o hyd iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: