Search Legislation

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” gan adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1);

  • mae i “addysg gynradd” yr ystyr a roddir i “primary education” gan adran 2(1) o Ddeddf Addysg 1996 (2));

  • ystyr “y Bwrdd” (“the Board”) yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynhyrchion Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

  • ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol neu unrhyw gorff arall sy'n gwneud cais am gymorth Cymunedol neu gymorth gwladol mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys ar ran sefydliad addysgol cymwys;

  • ystyr “cost cyflenwi” (“cost of supply”) mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys yw cost eu prynu plws swm y mae'n rhesymol i'r Cynulliad ystyried ei fod yn ddigonol i dalu costau caffael a gweinyddu cyflenwi'r cynhyrchion llaeth hynny;

  • ystyr “y costau gweddilliol” (“the residual costs” ) yw'r costau cyflenwi, a dynnir gan brynwr mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i sefydliad addysgol cymwys, llai unrhyw gymorth Cymunedol a chymorth gwladol a gyfrifir drwy gyfeirio at reoliad 4(2)(d) a all gael ei roi mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw;

  • mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “key stage 2” gan adran 355 o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth y Gymuned Ewropeaidd sy'n cael ei roi yn unol ag Erthygl 14 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “cymorth gwladol” (“national aid”) yw cymorth a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 14(2) o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “cynhyrchion llaeth cymwys” (“qualifying milk products”) yw'r llaeth a'r cynhyrchion llaeth a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel cynhyrchion sy'n gymwys ar gyfer cymorth Cymunedol;

  • ystyr “cynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd” (“the European Community subsidy scheme” ) yw cynllun y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol fel y mae wedi'i sefydlu gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn ac yn cael ei weinyddu ym Mhrydain Fawr gan y Bwrdd;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “disgyblion cymwys” (“eligible pupils”) yw disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd heblaw'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2 neu'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin;

  • ystyr “yr hyn sy'n gyfwerth â llaeth” (“milk equivalent”) yw'r swm a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn fel swm sy'n cynrychioli'r cynnwys sy'n gyfwerth â llaeth mewn cynhyrchion llaeth penodol;

  • ystyr “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) yw'r rheolau a bennir gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn ynghylch darparu llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation” ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) 2707/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1255/1999 mewn perthynas â chymorth Cymunedol ar gyfer cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(3);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) 1255/1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth(4); ac

  • ystyr “sefydliad addysgol cymwys” (“qualifying educational establishment”) yw sefydliad sy'n darparu addysg gynradd ac sydd wedi'i gofrestru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ei awdurdod addysg lleol neu gorff arall, gyda'r Bwrdd, er mwyn cymryd rhan yng nghynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(3)

OJ Rhif L311, 12.12.2000, t.37.

(4)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources