Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “aelod cymunedol” (“community member”) yw aelod o'r corff sefydledig a enwebwyd gan gyrff llywodraethu ysgolion o fewn y grŵp ac a benodwyd gan lywodraethwyr-aelodau y corff sefydledig o dan reoliad 5(b) neu 8(4);

  • ystyr “y clerc” (“the clerk”) yw clerc y corff sefydledig a benodir yn unol â rheoliad 14;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “y dyddiad diddymu” (“the dissolution date”) yw'r dyddiad y diddymir corff sefydledig, wedi'i bennu mewn gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(5) neu 24(1);

  • ystyr “y dyddiad ffurfio” (“the formation date”) yw'r dyddiad y ffurfir grŵp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(1);

  • ystyr “y dyddiad ymadael” (“the leaving date”) yw'r dyddiad y mae ysgol yn ymadael â grŵp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 22(1);

  • ystyr “y dyddiad ymuno” (“the joining date”) yw'r dyddiad y mae ysgol yn ymuno â grŵp, wedi'i bennu yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 21(3);

  • ystyr “grŵp” (“group”) yw'r grŵp o dair neu ragor o ysgolion y mae corff sefydledig yn cyflawni'r swyddogaethau canlynol drosto, sef—

    (a)

    dal eiddo'r ysgolion hynny at ddibenion yr ysgolion, a

    (b)

    penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion hynny;

  • ystyr “llywodraethwr-aelod” (“governor member”) yw aelod o'r corff sefydledig a benodir gan gorff llywodraethu ysgol o dan reoliad 8(1) neu (3) neu reoliad 21(8);

  • dehonglir “llywodraethwr-aelod cychwynnol” (“initial governor member”) yn unol â rheoliad 4(4); ac

  • ystyr “y Rheoliadau Newid Categori” (“the Change of Category Regulations”) yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(1).

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad â rhif, neu yn ôl fel y digwydd, at Atodlen yn y Rheoliadau hyn ac mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sydd â'r rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno.

(3Os oes tir yn cael ei drosglwyddo i unrhyw gorff a'i freinio ynddo yn unol â'r Rheoliadau hyn, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau—

(a)sy'n cael eu mwynhau neu eu tynnu gan y trosglwyddwr mewn cysylltiad â'r tir; a

(b)sy'n bodoli yn union cyn trosglwyddo'r tir,

hefyd yn cael eu trosglwyddo i'r corff hwnnw ac yn breinio ynddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

(4Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl canlynol yr ystyr a briodolir iddynt gan y darpariaethau a nodir gyferbyn â hwynt yn yr ail golofn.

Tabl

blwyddyn ariannol financial yearadran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(2)
corff sefydledig foundation bodyadran 21(4) o Ddeddf 1998
gwaddoliad foundationadran 21(3) o Ddeddf 1998
llywodraethwr sefydledig foundation governorparagraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1998

(5Mae cyfeiriad at gategori mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriad at un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf 1998.

Cyrff sefydledig a grwpiau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond os yw ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol neu os yw'n ysgol gymunedol y mae'r corff llywodraethu yn cynnig iddi ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol—

(a)y gall yr ysgol honno ffurfio rhan o grŵp; a

(b)y gall corff llywodraethu'r ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu corff sefydledig.

(2Ni all ysgol sydd â gwaddoliad, heblaw corff sefydledig, ffurfio rhan o grŵp ac ni chaiff ei chorff llywodraethu gynnig sefydlu corff sefydledig.

Sefydlu cyrff sefydledig

4.—(1Ni all corff sefydledig gael ei sefydlu ond o dan adran 21 o Ddeddf 1998 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Bydd cyrff llywodraethu tair ysgol neu ragor sy'n dymuno sefydlu corff sefydledig penodol ac sy'n cynnig ffurfio grŵp y bydd y corff sefydledig yn gweithredu drosto yn gwneud cais gyda'i gilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu'r corff sefydledig hwnnw.

(3Bydd y cais yn cynnwys—

(a)datganiad bod corff llywodraethu pob ysgol wedi cytuno ar y cais;

(b)offeryn llywodraethu drafft ar gyfer y corff sefydledig wedi'i seilio ar y model a nodir yn Atodlen 1; ac

(c)datganiad yn cynnwys—

(i)enwau llywodraethwyr-aelodau cychwynnol y corff sefydledig i'w penodi yn unol â rheoliad 8(1);

(ii)y dyddiad y cynnigir sefydlu'r corff sefydedig; a

(iii)y categori y cynnigir i bob ysgol fod ynddo wrth ddod i'r grŵp neu ddatganiad fod ysgol benodol yn dod i'r grŵp yn ei chategori presennol.

(4Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo'r cais—

(a)bydd y corff sefydledig yn cael ei sefydlu fel corff corfforaethol o dan adran 21 o Ddeddf 1998 ar ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; a

(b)ar y dyddiad sefydlu, y llywodraethwyr-aelodau cychwynnol a bennir yn y cais, yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r corff llywodraethu neu'r cyrff llywodraethu o dan sylw, fydd llywodraethwyr-aelodau cychwynnol y corff sefydledig.

5.  Ar ôl sefydlu'r corff sefydledig a chyn y dyddiad ffurfio, rhaid i'r llywodraethwyr-aelodau cychwynnol wneud y canlynol—

(a)mabwysiadu'r offeryn llywodraethu yn y ffurf a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)penodi aelodau cymunedol o blith y rhai a enwebwyd yn unol â rheoliad 8(2); ac

(c)dethol personau i gael eu penodi yn llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion yn y grŵp,

a dim ond at y dibenion hynny neu mewn cysylltiad â hwy y caiff y corff sefydledig arfer ei bwerau cyn y dyddiad hwnnw .

6.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod aelodaeth y corff sefydledig wedi'i chyfansoddi'n briodol, bod yr offeryn llywodraethu wedi'i fabwysiadu a bod yr ysgolion yn ysgolion o'r categori a bennwyd yn y cais, neu y byddant yn ysgolion felly wrth ddod i'r grŵp, bydd drwy hysbysiad ysgrifenedig yn darparu—

(a)y bydd y corff sefydledig yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn ar gyfer yr ysgolion yn y grŵp o ddyddiad a bennir ganddo; a

(b)y bydd yr ysgolion a bennwyd yn y cais ar y dyddiad hwnnw yn ffurfio'r grŵp y mae'r corff sefydledig i weithredu drosto.

(2Os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni felly o fewn yr hyn sydd, yn ei farn ef, yn amser rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gall drwy orchymyn ddiddymu'r corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo yn y gorchymyn.

(3Pan fydd unrhyw un o'r ysgolion yn dod i'r grŵp o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n dod i'r grŵp yn cael ei drosglwyddo i'r corff sefydledig ar y dyddiad hwnnw, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo at ddibenion yr ysgolion sy'n ffurfio'r grŵp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn dod i'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

7.  Rhaid i gorff llywodraethu unrhyw ysgol sydd yn y grŵp, neu a fydd yn y grŵp nad yw'n dod i'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol, hysbysu'r awdurdod addysg lleol y dylai offeryn llywodraethu'r ysgol enwi'r corff sefydledig fel y corff penodi at ddibenion penodi llywodraethwyr sefydledig.

Aelodaeth cyrff sefydledig

8.—(1Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig benodi aelod o'r corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig hwnnw.

(2Rhaid i gyrff llywodraethu yr ysgolion sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig enwebu personau i fod yn aelodau cymunedol.

(3Os bydd llywodraethwr-aelod yn peidio â dal swydd yna—

(a)rhaid i'r clerc hysbysu holl gyrff llywodraethu holl ysgolion y grŵp; a

(b)rhaid i'r corff llywodraethu a benododd y llywodraethwr-aelod hwnnw benodi llywodraethwr-aelod newydd yn ei gyfarfod llawn nesaf.

(4Os bydd aelod cymunedol yn peidio â dal swydd neu os oes angen penodi aelod cymunedol newydd oherwydd bod ysgol wedi ymuno â'r grŵp—

(a)rhaid i'r clerc hysbysu cyrff llywodraethu holl ysgolion y grŵp; a

(b)rhaid i lywodraethwyr-aelodau y corff sefydledig benodi rhywun i lenwi'r swydd neu aelod cymunedol newydd ar sail yr enwebiadau a wnaed gan gyrff llywodraethu'r ysgolion yn y grŵp.

9.—(1Y cworwm ar gyfer penderfyniad gan gorff llywodraethu ysgol o dan reoliad 8 fydd dwy ran o dair (wedi'i dalgrynnu i fyny i rif cyfan) o'r llywodraethwyr mewn swydd sydd â hawl i bleidleisio.

(2Pedair blynedd fydd cyfnod swydd aelod o'r corff sefydledig ond gellir ail-benodi aelod.

(3Ni all person bleidleisio dros ei benodi ei hun na'i ailbenodi ei hun yn aelod o gorff sefydledig.

(4Rhaid llenwi swyddi gwag erbyn cyfarfod nesaf y corff sefydledig neu gan y cyfarfod ar ôl hynny os daw'r swydd yn wag lai na thri mis cyn y cyfarfod nesaf.

(5Os na lenwir swydd wag aelod yn unol â pharagraff (4) gall y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r corff sefydledig drwy orchymyn ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo, a bydd darpariaethau rheoliad 24(1)(ch) a (d) a (2) i (5) yn gymwys i'r diddymu hwnnw ac eithrio y bydd y cyfnod o chwe mis y cyfeirir ato yn rheoliad 24(2) yn cychwyn ar unrhyw ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig.

Cymhwyso ag anghymhwyso

10.—(1Ni all llywodraethwr sefydledig a benodwyd i ysgol yn y grŵp gan gorff sefydledig fod yn llywodraethwr- aelod o'r corff sefydledig hwnnw ac ni chaiff bleidleisio ar benodiadau i'r corff sefydledig.

(2Rhaid i aelod cymunedol—

(a)bod â buddiannau busnes neu fuddiannau eraill yn y gymuned leol;

(b)peidio â bod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig, yn aelod o'r corff llywodraethu, yn aelod o'r staff addysgu neu o'r staff nad ydynt yn addysgu nac yn ddisgybl cofrestredig, yn unrhyw ysgol yn y grŵp;

(c)peidio â bod yn aelod etholedig o awdurdod addysg lleol sy'n cynnal unrhyw ysgol yn y grŵp nac yn berson a gyflogir gan awdurdod o'r fath yn ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol; ac

(ch)bod wedi cyrraedd 18 oed ar ddyddiad ei benodi.

(3Bydd llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig yn peidio â dal swydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod o gorff llywodraethu'r ysgol a'i benododd.

(4Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig fod yn weithiwr cyflogedig i'r corff hwnnw.

Anghymhwyso rhag dal swydd

11.  Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag dal swydd, neu barhau mewn swydd, fel aelod o gorff sefydledig.

12.  Caiff aelod o gorff sefydledig ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysu'r clerc yn ysgrifenedig.

Cyfyngiadau

13.  Ni fydd aelod o gorff sefydledig yn cael unrhyw dâl, heblaw mân dreuliau rhesymol ag angenrheidiol, ac ni chaiff gymryd unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol o unrhyw gontractau a wnaed gan y corff sefydledig na chael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir a ddelir gan y corff sefydledig.

Clerc

14.—(1Rhaid i'r corff sefydledig benodi person i fod yn glerc iddo.

(2Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig weithredu fel clerc, ond pan fydd y clerc yn methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod, caiff y corff sefydledig benodi aelod i fod yn glerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw (heb effeithio ar ei safle fel aelod).

Cynnal cyfarfodydd

15.—(1Rhaid i'r corff sefydledig wneud y canlynol—

(a)ethol aelod yn gadeirydd yn y cyfarfod cyffredin cyntaf ym mhob blwyddyn;

(b)penderfynu ar gworwm y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na hanner (wedi'i dalgrynnu i fyny i'r rhif cyfan agosaf) o gyfanswm aelodau'r corff sefydledig pan fydd yn gyfan; ac

(c)cadw cofnodion o drafodion y cyfarfodydd a threfnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd yn y grŵp pan ofynnir amdanynt.

(2Yn y cyfarfod cyntaf rhaid i'r corff sefydledig benodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion yn y grŵp yn unol ag offerynnau llywodraethu'r ysgolion o dan sylw.

Adroddiad blynyddol

16.—(1Rhaid i'r corff sefydledig gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i weithgareddau er gwybodaeth i gyrff llywodraethu'r ysgolion yn y grŵp gan nodi'r canlynol—

(a)enwau pob aelod, gan dynnu sylw at unrhyw newidiadau ers yr adroddiad blynyddol diwethaf a chan enwi'r cadeirydd;

(b)crynodeb o benderfyniadau a gweithredoedd y corff sefydledig ers i'r adroddiad blynyddol diwethaf gael ei gyhoeddi oni bai bod cofnodion cyfarfodydd y corff sefydledig yn cael eu cyhoeddi ar wahân;

(c)datganiad o unrhyw incwm a gwariant yn dangos y balans fel y mae ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol sy'n dod o fewn cyfnod yr adroddiad; ac

(ch)datganiad am unrhyw warediadau, pryniadau neu roddion arwyddocaol ac am unrhyw rwymedigaethau sy'n parhau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol sy'n dod o fewn cyfnod yr adroddiad.

(2Rhaid cyhoeddi'r adroddiad cyntaf o fewn dwy flynedd ar ôl y dyddiad ffurfio a gall ymdrin â chyfnod sy'n hwy na blwyddyn.

(3Yn dilyn yr adroddiad cyntaf, rhaid cyhoeddi adroddiadau blynyddol heb fod yn ddiweddarach na'r cyfarfod nesaf ar ôl diwedd y flwyddyn yr adroddir arni.

Cyfrifon

17.—(1Rhaid i'r corff sefydledig gadw cyfrifon, sicrhau bod archwilwyr allanol annibynnol yn eu harchwilio a chyhoeddi ymhob blwyddyn ariannol gopi o'r cyfrifon am y flwyddyn ariannol flaenorol fel y'u harchwiliwyd ynghyd â datganiad eu bod wedi cael eu harchwilio.

(2Rhaid i'r corff sefydledig gydymffurfio o fewn mis â chais ysgrifenedig gan unrhyw berson i roi copi o gyfrifon diweddaraf y corff iddo.

Gwybodaeth a chofnodion

18.—(1Rhaid i'r corff sefydledig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth y gofynnir amdani o dro i dro.

(2Rhaid i'r corff sefydledig gadw ei holl gofnodion am o leiaf chwe mlynedd.

Swyddogaethau cyrff sefydledig

19.  Bydd gan gyrff sefydledig y swyddogaethau canlynol—

(a)dal tir ac eiddo arall yr ysgolion yn y grŵp at ddibenion yr ysgolion hynny;

(b)penodi llywodraethwyr sefydledig i bob ysgol yn y grŵp; ac

(c)hybu cydweithredu rhwng ysgolion yn y grŵp.

Pwerau ychwanegol

20.—(1Caiff corff sefydledig mewn cysylltiad â'i swyddogaethau—

(a)benthyg y symiau hynny y mae'r corff sefydledig yn credu eu bod yn briodol ac mewn cysylltiad a'r benthyg hwnnw, roi unrhyw forgais, arwystl neu warant arall dros unrhyw dir neu eiddo arall sydd gan y corff sefydledig;

(b)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall, a'i ddefnyddio neu ei ddal ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp;

(c)cymryd rhan mewn codi arian i'r graddau y mae'n gymharus â'i statws elusennol;

(ch)caffael a gwaredu unrhyw dir neu eiddo;

(d)gwneud unrhyw gontractau gan gynnwys contractau cyflogi;

(dd)gwneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli'r corff sefydledig ac unrhyw bwyllgorau ac ar gyfer cynnal busnes y corff hwnnw neu fusnes unrhyw bwyllgorau;

(e)penodi pwyllgorau;

(f)dirprwyo arfer unrhyw bwerau i aelodau unigol neu i bwyllgorau, ac eithrio'r rheiny sy'n ymwneud â phenodi llywodraethwyr sefydledig, rhoi unrhyw warant neu waredu unrhyw dir; ac

(ff)cyflogi unrhyw staff (na chânt fod yn aelodau) sy'n angenrheidiol a gwneud pob darpariaeth angenrheidiol ar gyfer y staff hynny.

(2Dim ond drwy gydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol y gellir arfer y pŵer i fenthyg symiau a rhoi gwarant neu waredu unrhyw dir a nodir uchod.

Ymuno â grŵp ar ôl sefydlu'r corff sefydledig i ddechrau

21.—(1Dim ond gyda chytundeb cyrff llywodraethu'r holl ysgolion sydd eisoes yn y grŵp y caiff ysgol ymuno â grŵp.

(2Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei wneud ar y cyd yn ysgrifenedig gan gorff llywodraethu'r ysgol sy'n ceisio ymuno â'r grŵp a'r corff sefydledig a bydd y cais yn cynnwys—

(a)datganiad fod cyrff llywodraethu'r holl ysgolion yn y grŵp yn cytuno i'r ysgol ymuno â'r grŵp; a

(b)datganiad o'r categori y cynigir i'r ysgol ddod i'r grŵp ynddo neu ddatganiad y bydd yr ysgol yn dod i'r grŵp yn ei chategori presennol.

(3Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu bod hynny'n briodol, yn datgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ffurfio rhan o'r grŵp o'r dyddiad hwnnw a bennir ganddo a phan fodlonir yr amodau hynny a bennir ganddo.

(4Pan fydd yr ysgol sy'n ymuno â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

(5Rhaid i'r corff sefydledig geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i addasu ei offeryn llywodraethu.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) uchod bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sy'n ymuno â'r grŵp yn cael ei drosglwyddo i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo, at ddibenion yr ysgolion sy'n cael eu cynnwys yn y grŵp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.

(7Nid yw paragraff (6) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn ymuno â'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

(8Ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3), bydd corff llywodraethu'r ysgol sy'n ymuno â'r grŵp yn penodi aelod o'u corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig.

(9Os nad yw'r ysgol sy'n ymuno â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i'r awdurdod hwnnw amrywio neu adnewyddu offeryn llywodraethu'r ysgol fel y bydd yn enwi'r corff sefydledig fel y corff penodi at ddibenion penodi llywodraethwyr sefydledig a bydd yr awdurdod addysg lleol yn gwneud hynny fel y gall penodiad y llywodraethwyr sefydledig fod yn effeithiol o'r dyddiad y mae'r ysgol yn ymuno â'r grŵp.

Ymadael â grŵp

22.—(1Os yw corff llywodraethu ysgol yn dymuno i'r ysgol honno ymadael â'r grŵp rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o dri mis o leiaf i gyrff llywodraethu'r holl ysgolion eraill yn y grŵp, i'r corff sefydledig ac i'r Cynulliad Cenedlaethol, a phan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben gall y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ymadael â'r grŵp ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo.

(2Os yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), bydd unrhyw dir sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol honno, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn ymadael â'r grŵp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

(5Os nad yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grŵp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i offeryn llywodraethu'r ysgol gael ei amrywio neu ei amnewid er mwyn i gyfeiriadau at y corff sefydledig gael eu dileu o'r dyddiad y bydd yr ysgol yn ymadael â'r grŵp.

23.  Os yw ysgol yn ymadael â grŵp neu'n cael ei chau a bod gan y grŵp dri neu ragor o aelodau o hyd bydd y corff sefydledig yn addasu ei offeryn llywodraethu gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Dirwyn cyrff sefydledig grŵp i ben

24.—(1Pe bai aelodaeth grŵp yn disgyn o dan dri oherwydd bod un neu ragor o ysgolion yn ymadael neu'n cael eu cau yna—

(a)rhaid i'r clerc roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol mai felly y mae;

(b)cymerir yr hysbysiad ymadael a roddir gan yr ysgol neu gyhoeddiad y cynigion i'w chau fel hysbysiad diddymu;

(c)diddymir y corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol bennu trwy orchymyn;

(ch)rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol yn y grŵp (heblaw ysgol sydd i gael ei chau) wneud cais i'r awdurdod addysg lleol i'w hofferyn llywodraethu ei hun gael ei addasu (fel y gall cyfeiriadau at gorff sefydledig gael eu dileu o'r dyddiad diddymu);

(d)rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig osod llywodraethwyr partneriaeth yn lle'r llywodraethwyr sefydledig o'r dyddiad diddymu ymlaen onid ydynt erbyn y dyddiad hwnnw naill ai wedi gwneud cais i ymuno â grŵp arall neu wedi gwneud cais, ynghyd â chyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion eraill, i sefydlu corff sefydledig.

(2Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol gyhoeddi cynigion newid categori yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori i ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol gymunedol, os nad ydynt (yn ôl fel y digwydd) o fewn chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad ymadael a roddir gan yr ysgol neu o fewn chwe mis o gymeradwyo'r cynigion i gau'r ysgol—

(a)wedi ffurfio neu wedi ymuno â grŵp arall; neu

(b)wedi sefydlu gwaddoliad, heblaw corff sefydledig, sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y gall fodloni'r gofynion a bennir o dro i dro o dan baragraff 4(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1998.

(3Ar unrhyw adeg ar ôl i'r cyfnod perthnasol o chwe mis y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddod i ben, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol cyhoeddi cynigion i'r ysgol newid i gategori penodedig arall.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn achos ysgol nad ydyw'n cael ei chau, ar y dyddiad diddymu bydd unrhyw dir neu eiddo arall sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn dod, ar neu cyn y dyddiad diddymu, yn ysgol o gategori gwahanol.

Datrys Anghydfodau

25.  Os ceir anghydfod rhwng cyrff llywodraethu ysgolion yn y grŵp neu rhwng un neu fwy o'r ysgolion yn y grŵp a'r corff sefydledig yna caiff un o'r partïon i'r anghydfod hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y mater.

Defnyddio tir

26.  Ni fydd trosglwyddo tir i gorff sefydledig o dan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar hawliau'r corff llywodraethu mewn perthynas â'r tir hwnnw o dan Atodlen 13 i Ddeddf 1998.

Trosglwyddo tir

27.  Wrth ei chymhwyso at unrhyw drosglwyddiad tir yn rhinwedd rheoliadau 6, 21, 22 neu 24, rhaid darllen cyfeiriadau at y dyddiad trosglwyddo yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3) fel cyfeiriadau at y dyddiad ffurfio, y dyddiad ymuno, y dyddiad ymadael neu'r dyddiad diddymu, yn ôl fel y digwydd.

Diddymu

28.  Drwy hyn diddymir Rheoliadau Cyrff Sefydledig 1999(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources