xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2708 (Cy.227)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

17 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2001 neu wedyn.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2), yn lle “£11,718” rhoddir “£11,952”.

(3Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir—

(a)£73 where the relevant income does not exceed £11,116; and

(b)£38 where that income exceeds £11,116 but does not exceed £11,952.

(4Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (3), yn lle “£10,914” rhoddir “£11,129”; a

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “£10,914” rhoddir “£11,129”, a

(ii)yn lle “£10,735” rhoddir “£10,950”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2001 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001/2002 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.

(1)

1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).