Search Legislation

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm, sef “y llygrynnau perthnasol” mewn aer amgylchynol.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd crynodiadau'r llygrynnau perthnasol ym mhob parth yng Nghymru yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae rheoliad 5, ynghyd ag Atodlen 2, yn darparu ar gyfer darganfod y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol, ac mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu'r cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer y dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 7(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide. Nodir trothwyon rhybuddio sulphur dioxide a nitrogen dioxide ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honno.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 9 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. (Mae hyn yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif).

Mae rheoliad 12 yn diddymu, ar gyfer Cymru, ac ar wahanol ddyddiadau, rannau o Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 sy'n rhoi effaith i werthoedd terfyn y llygrynnau perthnasol mewn cyfarwyddebau cynharach. Yn eu tro, yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen dioxide. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt —

1.  Darpariaethau sy'n rhoi pwer i'r awdurdodau lleol —

(a)ynghylch “local air quality management” o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);

(b)ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11);

(c)ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth;

(ch)ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).

2.  Rheoli allyriannau diwydiannol —

(a)gan yr awdurdodau lleol drwy gyfrwng “local air pollution control” a chan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan “integrated pollution control” o dan Ran I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43);

(b)gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio “integrated pollution prevention and control” o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).

3.  Rheoli allyriannau trafnidiaeth —

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources